Wicipedia:Wicibrosiect WiciPobl

Oddi ar Wicipedia
Croeso i'r dudalen Prosiect WiciPobl, prosiect sy'n cael ei arwain gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru a WiciMôn


Y prosiect[golygu cod]

Nod prosiect Wici-Pobl yw creu a chyfoethogi gwybodaeth am unigolion ar lwyfannau Wicipedia a Wicidata. Mae’n aml-gyfrwng - yn cynnwys portreadau o unigolion yn ogystal ag adnabod bylchau a chreu erthyglau ar bobl.

Prif amcanion

  • Creu 1500 o erthyglau gan defnyddion data o'r Llyfrgell Genedlaethol
  • Cynnal 4 golygathon efo ysgolion
  • Cynnal 1 Hacathon
  • Cynnal 1 golygathon cyhoeddus
  • Cyflwyno adroddiad ar Hyfforddiant Wici i athrawon
  • Cyflwyno adroddiad ar effaith (Impact) y gwahanol agweddau o'r brosiect

Bydd y prosiect yn rhedeg yn swyddogol tan diwedd mis Mawrth 2019, ond y gobaeth yw, bydd y gofod yma yn parahu i bod yn lle i trafod ac i cydlynu gwelliannau parhaus, neu i trafod cyfraniadau newydd.

Casgliad Portreadau Cymru

Sylfaen prosiect WiciPobl yw Casgliad Portreadau Cymru, sy’n cynnwys tua 4,750 o bortreadau sydd allan o hawlfraint. Mae’r portreadau hyn wedi’u cynnwys yn y prosiect am amrywiaeth o resymau: rhai oherwydd y sawl sydd wedi’i bortreadu, eraill oherwydd iddynt gael eu creu gan unigolyn penodol, ac eraill am y rheswm syml eu bod yn rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru.

Bu’r portreadau hyn ar gael i’w gweld o fewn i gatalog y Llyfrgell gyda’r wybodaeth - oherwydd arferion catalogio - ar gael yn Saesneg yn unig. Fel rhan o’r gwaith ar y prosiect hwn, mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi llwytho’r delweddau i’r Comin ac yn gweithio i gynhyrchu a rhyddhau’r data yn ddwyieithog fel data cysylltiedig. Mae’r proses hwn hefyd yn galluogi i’r portreadau gael eu defnyddio mewn erthyglau Wicipedia a’u cysylltu ag erthyglau yn y Bywgraffiadur Cymreig, a chasgliadau eraill o amgylch y byd.

Wici-Mon Fel rhan o'r prosiect bydd Wici - Môn yn arwain ar gyfres o ddigwyddiadau o fewn ysgolion ar Ynys Môn, gan ddysgu disgyblion sut i greu erthyglau Cymraeg ar Wicipedia. Bydd y pant yn ganolbwyntiau ar bobol leol nodedig - sydd efo cofnod yn y Bywgraffiadur Cymreig

Europeana Mae'r prosiect wedi cynllunio o fewn fframwaith yr Impact Playbook, sef fframwaith er mwyn cynllunio prosiect mewn ffordd sydd yn glir ar yr amcanion a'r effaith disgwyliedig. Byddwn yn casglu ystadegau manwl am bob digwyddiad a chyfraniad i'r prosiect er mwyn creu adroddiad effaith, gyda'r gobaith o gyflwyno tystiolaeth gref o'r manteision o weithio efo Wikimedia, a chynnwys agored yn gyffredinol.


Rhywedd Wicipedia Cymraeg yw'r unig Wici sydd wedi llwyddo cyrraedd cyfartaledd rhyw, felly wrth greu erthyglau newydd dyle ni gyd cadw hwn yn ein cof. Yn anffodus, fel llawer o gasgliadau pwysig hanesyddol, does dim cyfartaledd rhyw o bell ffordd yn y Bywgraffiadur Cymreig, na'r Archif Portreadau. Hoffwn awgrymu ymuno hefo Prosiect Menywod Mewn Coch hefyd, er mwyn cyfrannu erthyglau ar Fenywod pwysig hefyd.

Bydd y prosiect yn sicrhau bod yr holl erthyglau am ferched yn y Bywgraffiadur Cymreig yn gymysg yr erthyglau sydd yn cael i greu ar gyfer y prosiect yma, a byddwn yn parhau i gefnogi ac arwain ar ddigwyddiadau i wella erthyglau am fenywod.


Cyfoethogi’r data Er mwyn creu data dwyieithog am eitemau yn yr archif Portreadau ac yn y Bywgraffiadur byddwn yn ychwanegu labeli Cymraeg perthnasol i Wikidata. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod Cymraeg yn unig sydd yn ymddangos mewn gwybodlennu Wikidata unrhyw erthyglau sy'n cael i greu fel rhan o'r prosiect.


Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect newydd cyffrous hwn, cysylltwch â ni, neu nodwch eich diddordeb isod.

Digwyddiadau[golygu cod]

  • Golygathon Ysgolion Môn - 16/1/19
  • Golygathon Ysgolion Môn - 22/1/19
  • Golygathon Ysgolion Môn - 24/1/19
  • Golygathon Ysgolion Môn - 25/1/19
  • Yr Hacathon Hanes, Caerdydd - 2/3/19
  • Cyfieithathon Wicipobl, Aberystwyth - 11/3/19


Tasgau[golygu cod]

Adnoddau[golygu cod]


Erthyglau newydd[golygu cod]

Os ydych yn creu erthyglau Cymraeg newydd ar bynciau perthnasol i pobol Cymru ychwanegwch y Categori:Prosiect WiciPobl ar waelod yr erthygl a nodwch deitl yr erthygl yma.


Wedi gwella[golygu cod]

Aelodau'r prosiect[golygu cod]

Dyma restr o gyfranwyr ar y prosiect. Mae croeso i chi ychwanegu eich henw at y rhestr.

  • Ychwanegwch eich enw defnyddiwr yma...