Wicipedia:WiciBrosiect MenywodMewnCoch
Croeso cynnes iawn i brosiect MenywodMewnCoch!
Nod ac amcanion
[golygu cod]Nod y WiciBrosiect hon yw i wella cynrychiolaeth menywod ar Wicipedia Cymraeg a Wicidata.
O fewn rhinweddau'r prosiect mae bywgraffiadau o fenywod a gweithiau gan fenywod, ein hamcanion yw:
- newid dolenni coch i ddolenni glas
- ychwanegu mwy o fanylion at erthyglau, ac ehangu a gwella'r cynnwys
Pa fenywod?
[golygu cod]Mae hyn yn cynnwys menywod o Gymru a thu hwnt o'r meysydd isod:
- gwyddoniaeth
- celfyddydau
- ymgyrchu
- academia
- technoleg
- gwleidyddiaeth
neu unrhyw faes arall o gwbl!
Defnyddwyr
[golygu cod]Rydyn ni'n grŵp o ddefnyddwyr cyffredin sydd wedi sylwi bod angen gwella presenoldeb menywod ar Wicipedia Cymraeg a Wicidata, ac mae croeso cynnes i chi gymryd rhan gyda ni.
Os ydych chi am gymryd rhan yn y prosiect, gallwch ymuno'n swyddogol trwy glicio ar y blwch ar frig y ddalen hon, ar y dde.
Mae croeso i chi ychwanegu ein templed {{Defnyddiwr WikiBrosiect MenywodMewnCoch}}
i'ch tudalen hefyd, er mwyn creu:
|
Dolenni coch
[golygu cod]Mae unrhyw ddolen goch ar Wicipedia yn dynodi bod angen creu erthygl.
Dyma rai syniadau os ydych chi'n chwilio am enghreifftiau o ddolenni coch. Mae pob un yn gyfle i greu erthygl:
Cymru/Cymreig
[golygu cod]Byd-eang
[golygu cod]Hanes y prosiect
[golygu cod]Dechreuodd MenywodMewnCoch fel ymgyrch fach gyda'r hashnod #MenywodMewnCoch ar Twitter. Fe rannwyd syniadau am erthyglau newydd i'w creu, trwy gyfrif @wicipedia.
Yn ystod yr ymdrech fe grëwyd erthyglau Cymraeg newydd sbon am:
Yn 2019 mae'n bryd i ni greu prosiect amlwg fel y rhai yn Ffrangeg, Saesneg, ac rhai ieithoedd eraill. Felly dyma ni!
Beth nesaf?
[golygu cod]Tra bydd y prosiect yn tyfu ac esblygu bydd nodiadau ar y dudalen hon.
Dilynwch @MenywodMewnCoch ar Twitter am ddiweddariadau.