Phyllis Kinney
Gwedd
Phyllis Kinney | |
---|---|
Ganwyd | 4 Gorffennaf 1922 |
Galwedigaeth | canwr, cerddolegydd |
Priod | Meredydd Evans |
Cantores werin a chlasurol, ac awdur ydy Phyllis Kinney (ganwyd 4 Gorffennaf 1922).[1] Mae'n enedigol o'r UDA a bu'n gantores opera broffesiynol cyn ymgartrefu yng Nghymru. Ystyrir Phyllis yn awdurdod ar ganu gwerin Cymraeg.[2]
Mae hi'n byw yng Nghymru lle dysgodd Gymraeg, ond yn dod yn wreiddiol o'r Unol Daleithiau; mae ganddi un ferch.
Ysgrifennodd nifer o lyfrau am gerddoriaeth draddodiadol.[3]
Fe gyflwynwyd y llyfr Cynheiliaid y Gân fel teyrnged i'w gwaith gyda ei gŵr, y ddiweddar Meredydd Evans.[4] Cyfarfu ei gŵr yng ngwledydd Prydain, ond symudodd y ddau i gartrefu yn yr Unol Daleithiau ble roedd Merêd yn astudio ar gyfer ei ddoethuriaeth mewn athroniaeth yn Princeton.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Canu'r Cymry 1
- O Lafar i Lyfr
- Ffylantin-Tw! (llyfr a CD)
- Hen Alawon
- Caneuon Chwarae
- Caneuon Gwerin i Blant
- Welsh Traditional Music[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ @CerddLLGC (4 Gorffennaf 2019). "Penblwydd hapus i Phyllis Kinney sy'n dathlu ei phenblwydd yn 97 heddiw. Cantores, cerddor ac awdur nifer o lyfrau gan gynnwys y campwaith 'Welsh Traditional Music'" (Trydariad) – drwy Twitter.
- ↑ wales.ac.uk; Archifwyd 2020-09-26 yn y Peiriant Wayback adalwyd 12 Ebrill 2017.
- ↑ telegraph.co.uk; adalwyd 12 Ebrill 2017.
- ↑ dailypost.co.uk; adalwyd 12 Ebrill 2017.
- ↑ uwp.co.uk'[dolen farw] (Gwefan Gwasg Prifysgol Cymru); adalwyd 12 Ebrill 2017.