Pina Bausch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pina Bausch

Pina Bausch (canol) a Dominique Mercy (ail o'r chwith) o ddiwedd Wiesenland yn 2009 yn Paris.
Ganwyd (1940-07-27)27 Gorffennaf 1940
Solingen, Yr Almaen
Bu farw 30 Mehefin 2009(2009-06-30) (68 oed)
Wuppertal, North Rhine-Westphalia, Yr Almaen
Enwau eraill Philippina Bausch
Alma mater Folkwangschule
Gwaith coreograffydd dawns fodern
Gwobrau
Gwefan
www.pina-bausch.de/en/index.php

Dawnswraig fodern, cyfarwyddwraig bale, coreograffydd, athrawes ddawns a pherfformwraig o'r Almaen oedd Philippina "PinaBausch (27 Gorffennaf 194030 Mehefin 2009). Gyda'i steil unigryw, ei dawn o symud, sain, a llwyfannu diddorol, yn ogystal â chydweithio gyda pherfformwyr yn ystod y broses datblygu (steil a elwir Tanztheater), fe ddaeth yn arweinydd dylanwadol ym maes y ddawns fodern o'r 1970au ymlaen. Fe greodd hi'r cwmni Tanztheater Wuppertal Pina Bausch (de) sy'n perfformio yn rhyngwladol.

Blynyddoedd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Bausch yn Solingen, y trydydd a'r ieuengaf o blant August ac Anita Bausch, a oedd yn berchen ar fwyty gydag ystafelloedd cysgu. Roedd y bwyty yn lle delfrydol iddi ddechrau perfformio - o oedran ifanc iawn. Roedd hi'n perfformio i'r gwesteion yn y gwesty, yna fe sylweddolodd ei rhieni fod ganddi botensial.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan yn 15 mlwydd oed, cafodd Pina ei derbyn i astudio yn Folkwangschule (Academi Folkwang). Roedd yr ysgol yn cael ei gyfarwyddo gan Kurt Jooss, un o arloeswyr math newydd o theatr ddawns o'r enw Tanztheater, oedd yn cysylltu dawns, gwaith dramatig neu theatr.

Ar ôl graddio yn 1959, gadawodd Bausch yr Almaen gydag ysgoloriaeth gan y German Academic Exchange Service er mwyn parhau gyda'i hastudiaethau yn Juilliard School yn Efrog Newydd yn 1960, ble roedd Antony TudorJosé LimónAlfredo Corvino, a Paul Taylor yn dysgu yno. Roedd Bausch yn perfformio gyda Tudor yn y Metropolitan Opera Ballet Company, a gyda Paul Taylor yn y New American Ballet. Cafodd Taylor ei wahodd yn 1960 i berfformio darn newydd o waith o'r enw Tablet yn Spoleto, yr Eidal, fe aeth a Bausch gydag ef. Yn Efrog Newydd, fe berfformiodd Bausch gyda Chwmni Ddawns Paul Sanasardo a Donya Feuer ac fe gyd-weithiodd ar ddau ddarn gyda nhw yn 1961. Yn Efrog Newydd, fe ddatganodd Pina "Mae Efrog Newydd fel jwngl ond ar yr un pryd, mae'n rhoi'r ymdeimlad o ryddid. Yn y ddwy flynedd diwethaf, rwyf wedi darganfod fy hunan."

Yn 1962, ymunodd Bausch a sioe newydd Jooss, Folkwang-Ballet (Ballet Folkwang) fel unawdydd a chynorthwyodd Jooss ar nifer o'i ddarnau. Yn 1968, fe aeth ati i goreograffi ei darn cyntaf  Fragmente (Darnau), i gerddoriaeth Béla Bartók. Yn 1969, fe ddilynodd Jooss fel cyfarwyddwr artistig y cwmni.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]