Wicipedia:Amlygrwydd

Oddi ar Wicipedia
Llwybr(au) brys:
WP:AMLYG

Rydym yn derbyn erthyglau am ystod eang o bobl a phethau ar Wicipedia, cyn belled a'u bod yn ateb meini prawf neu ofynion arbennig, sef: a yw'r gwrthrych yn ddigon amlwg ('nodedig'), h.y. a ydyw'r gwrthrych yn haeddu ei le ar y Wicipedia oherwydd ei amlygrwydd. Os y deuir i'r casgliad nad yw'n haeddu ei le gan nad yw'n ateb gofynion y meini prawf hyn, yna dywedir ei fod yma ddiffyg amlygrwydd, ac nid yw, felly'n gymwys. Os bernir nad ydyw'r pwnc/person yn ddigon amlwg, caiff y dudalen ei dileu. Os nad yw'n ateb y gofynion, gellir, o bosib, gyfuno'r gwrthrych o fewn erthygl arall.

Sylwer
1. Rhoddir y nodyn Amlygrwydd ({{amlygrwydd}}) ar frig y dudalen i nodi nad yw'r cynnwys o bosibl yn cwrdd â gofynion amlygrwydd Wicipedia Cymraeg.
2. Mae ein diffiniad ni o genedlaethol, yn wahanol i ddiffiniad y Wicipedia Saesneg. Mae Golwg, Y Cymro, y Western Mail a'r Daily Post yn bapurau Cenedlaethol yng Nghymru, ac yn aml, rydym yn caniatáu gwrthrychau y ceir cyfeiriad atyn nhw yn y papurau hyn, neu wefannau cenedlaethol tebyg, a'u bod felly'n ateb y meini prawf 'Amlygrwydd'.

Gofynion amlygrwydd[golygu cod]

Cyffredinol[golygu cod]

Y prif ofynion amlygrwydd yw:

Llefydd

Yn achos lleoedd a thirffurfiau, gellir eu canfod ar fapiau neu atlas safonol. Yn achos tirffurfiau llai, rhaid cael digon o wybodaeth i fedru eu cofnodi. Caniateir erthyglau ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a safleoedd tebyg a phob adeilad sydd wedi'i gofrestru gan Cadw. Os nad yw'n ateb y gofynion, gellir, o bosib gyfuno'r gwrthrych o fewn erthygl arall e.e. neuadd bentref nad yw wedi ei chofrestru gan Cadw; gellir cyfuno'r wybodaeth gyda'r erthygl ar y pentref.

Pobl
Dylid ateb o leiaf un o'r gofynion hyn:
1. Bod y pwnc neu berson yn haeddu lle mewn gwyddoniadur arferol neu gydymaith neu lawlyfr safonol ar y pwnc dan sylw e.e. y Bywgraffiadur Ar-lein neu lyfr safonol.
2. Yn achos pobl neu faterion cyfoes, fod y person yn ddigon adnabyddus (neu wedi bod yn adnabyddus yn ystod ei oes) neu fod cyfeiriadau ato/ati yn y wasg neu'r cyfryngau neu mewn erthygl safonol ar y we neu mewn llyfr ee y Bywgraffiadur, y Gwyddoniadur.
3. Bod y person wedi dylanwadu ar bobl eraill o fewn ei faes
4. Enillydd gwobr genedlaethol e.e. chwarae rygbi dros ei g/wlad, enillydd coron Eisteddfod yr Urdd, neu un o'r prif wobrau eraill.

Enghraifft benodol[golygu cod]

Dyma enghraifft o'r hyn a gaiff ei ystyried yn achos band neu ganwr. Awgrymwn fod un neu ragor o'r canlynol yn wir:

  • Bod band wedi cyhoeddi o leiaf 2 ddisg neu albwm.
  • Bod adolygiadau o gigs y band wedi ymddangos yn y wasg genedlaethol a bod y band/canwr wedi bod yn perfformio am fwy na dwy flynedd.
  • Bod y band/canwr yn ymddangos mewn bywgraffiadur (ond nid cyfeiriadur).
  • Bod y band/canwr yn cael eu cydnabod yn ddylanwad ar bobl eraill (e.e. Meic Stephens am ei ddylanwad ar gerddorion eraill, Dafydd Iwan am ei ddylanwad politicaidd).
  • Bod y band/canwr yn cael eu trafod mewn erthyglau, mewn llyfrau, mewn rhaglenni teledu, ayb. Nid yw hyn yn cynnwys cyfeiriadau atynt wrth fynd heibio.
  • Os yw’r dystiolaeth ysgrifenedig yn brin, neu ei bod hi’n anodd cael gafael ar gyfeiriadau ysgrifenedig, yna bod cytundeb deg (gwedwch) o gyfranwyr â chyfrifon ganddynt ar Wicipedia, bod y band yn nodedig.
  • Bod y band/canwr wedi ennill gwobr nodedig. Ni fyddai hyn yn cynnwys gwobrau eisteddfodau lleol, eisteddfod yr Urdd na gwobrau ar gyfer newydd-ddyfodiaid.
  • Gall bod un albwm neu gân arbennig yn haeddu erthygl gyfan amdani e.e. torrodd yr albwm 'Gwymon' gan Meic Stevens dir newydd a byddai erthygl gyfan i'r record yn dderbyniol. Mae'r gân 'Merch o'r Ffatri Wlân' yn cael ei hystyried yn glasur y byd pop Cymraeg, ac felly'n haeddu erthygl gyfan amdani.
  • Mae pob un o ganeuon 'Cân i Gymru' yn ateb ateb y gofynion hyn.

Y cyd-destun Cymreig[golygu cod]

Fe welir, isod, ein bod yn ystwytho ychydig ar y rheolau arferol gyda'r nod o fedru disgifio a rhoi gwybodaeth i ddarllenwyr y Wicipedia Cymraeg am bethau Cymraeg a Chymreig. Caniateir, felly, gynnwys erthyglau ar: