Sgwrs Wicipedia:Amlygrwydd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Archif o'r Caffi[golygu cod]

Dyma'r drafodaeth a gafwyd yn y Caffi (hyd 1 Mawrth 2009):

Amlygrwydd[golygu cod]

Ga'i dynnu sylw at y cwestiwn gododd Ben Bore am yr erthygl am [[Annette Strauch]]? Mae'r drafodaeth ar fy nhudalen sgwrs. Anatiomaros 18:58, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Ond efallai ei bod hi'n well rhoi o yma:
Dw i'n siwr mai [[Annette Strauch|Annette]] ei hun sydd wedi ysgrifennu'r erthygl yma. Mae hi wedi cyflawni llawer mwy na fi yn ei bywyd, ond dwi ddim yn siwr os yw bod ag MA yn ddigon i fod ag erthygl amdani ar Wicipedia. Mae hi'n amlwg yn frwd iawn dros Gymru a'r Gymraeg a hoffwn i ddim ei phechu - dyna pam dwi'n pass the buck ac yn codi'r peth fan hyn! Yn amlwg does dim rhaid i ni gadw atyr un canllawiau notability â'r wici Saesneg, ond ble mae bennu llinell?--Ben Bore 10:12, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Ia, roeddwn i'n amau fod rhywbeth reit od am yr erthygl - llawer gormod o fanylion "personol" ac ati. Dwi'n cyfadde hefyd yr oeddwn, fel ti, yn amheus am "amlygrwydd" Annette (gyda phob parch iddi). Lle mae tynnu'r llinell, dyna'r cwestiwn. Ac os ydy'n wir mai hi ei hun a ysgrifenodd yr erthygl a ydy hynny'n dderbyniol? Go bron brin bod hi'n erthygl ddiduedd felly. Wnes i ddim gwneud llawer o ddiwygio ar yr erthyl ar y pryd, jest rhoi'r categoriau ac ambell beth arall, ond dydy'r arddull ddim yn wrthrychol, a deud y lleia. Wn i ddim be dy'r gorau i wneud, ei chadw neu ei dileu? Rydym ni angen erthyglau yn sicr, ond ydy hynny'n rheswm dros dderbyn safonau is na'r disgwyl? Mae'r un peth yn wir am rai o'r erthyglau am gerddorion a bandiau Cymraeg hefyd, ond o leia mae 'na siawns bydd rhywun wedi clywed amdanyn nhw yn y lle cyntaf. Hyd y gwelaf i dydy hi ddim wedi cyhoeddi llawer, jest gwneud gwaith ymchwil, ac mae 'na ddwsinau o bobl tebyg yn y wlad 'ma. Bw wnawn ni felly? Dwi mewn tipyn o benbleth am hyn ac felly dwi am "basio'r byc" fel ti a rhoi nodyn yn y Caffi yn cyfeirio at ein trafodaeth bach yma, yn y gobaith bydd gan rywun arall farn am hyn. Anatiomaros 18:55, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Rydw i braidd yn amheus hefyd. Ydi hi wedi cyhoeddi rhywbeth? Mae hi'n eithaf amlwg ar Google, ond blogiau a phethau tebyg ydyn nhw. Rhion 20:45, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn gwybod a ydyw hi wedi cyhoeddi unrhyw beth o gwbl. Dim llyfr o leiaf; erthyglau efallai. Dwi'n tueddu i feddwl mai tipyn o hunan-gyhoeddusrwyd yw hyn yn y bôn. Mae 'na lawer o academyddion mwy amlwg heb erthyglau amdanynt, a buasech chi'n disgwyl i rywun fod yn adwur un llyfr safonol adnabyddus o leiaf i haeddu erthygl mewn gwyddoniadur. Anatiomaros 20:56, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Dylwn fod wedi codi'r peth yma yn y lle cyntaf. Fy rheswm dros beidio oedd achos dwi wedi bod mewn cyswllltiad âg Annette dros y we ynglŷn a rhywbeth arall (ni'n dau yn flogwyr a defnyddiwyr gwefan o'r enw QYPE), felly teimlais braidd yn lletwith yn codi'r peth. Byddw'n i'n cynnig ei ddileu, neu fe allai greu cansail i eraill wneud rhywbeth tebyg. O ran bandiau Cymraeg - mae hwn yn annoddach fyth. Roeddwn am gynnig bod ymddangosiad ar Bandit, neu cael cân ar Radio Cymru efallai'n ffon fesur o amlygrwydd - ond eto (a dwi'n ffan mawr o fandiau Cymraeg bach a mawr), gall unrhywun bron ddechrau boand Cymraeg a bod ar y radio o fewn 6 mis! - sori os ydy hynny'n swnio'n greulon.--Ben Bore 09:50, 27 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Yn cytuno nad yw'r erthygl ar Annette Strauch yn egluro pam ei bod hi'n ddigon nodedig i haeddu erthygl amdani ar Wicipedia. Beth am gynnwys nodyn tudalen amheus ar yr erthygl a rhoi cyfle (gwedwch mis) i'r cyfrannwr, neu rywun arall, i ychwanegu tystiolaeth o amlygrwydd A Strauch i'r erthygl neu i'r dudalen sgwrs. Os oes ‘tystiolaeth’ yn cael ei ychwanegu ond bod amheuaeth a ydy e’n ddigonol gallem gynnal pleidlais dros y cynnig i ddileu.
Ar yr un pryd byddai'n werth i ni fynd ati, fel yr awgryma Ben Bore, i ddatblygu polisïau a chanllawiau ar ddileu erthyglau a'u cyfuno ac ar benderfynu a ydy rhywbeth yn ddigon nodedig ar gyfer Wicipedia. Ynta’ y bydd ein polisïau a’n canllawiau ni yn ddigon tebyg i’r rhai ar wiciau eraill ond eu bod efallai yn rhoi ystyriaeth i’r ffaith ein bod yn griw bach o olygwyr yma ar Wicipedia, ac hefyd bod yr hyn sydd o ddiddordeb i siaradwyr un iaith ddim o reidrwydd yr un mor ddiddorol i siaradwyr iaith arall.
Da gweld pwnc amlygrwydd y bandiau Cymraeg yn cael ei godi eto. Dwi’n cynnig y canlynol:
  • Dechrau tabl y bandiau a’r cantorion unigol sy’n canu yn Gymraeg. Gallem gael un tabl ar gyfer pawb o’r bandiau a’r cantorion unigol neu eu rhannu’n dablau llai yn ôl math y gerddoriaeth (canu gwlad, canu gwerin, roc, opera, ayb). Yn wahanol i’r canllaw ar Wikipedia, ni byddai’n rhaid dangos bod y band yn nodedig cyn ei roi yn y tabl. Petai amheuaeth ai ffug yw rhyw fand yn y tabl gallem holi am gyfeiriad at ffynhonnell sy’n sôn am y band. Beth am roi’r wybodaeth canlynol yn y tabl:
    • Enw’r band/canwr ac enwau’r aelodau mewn rhestr o dan enw’r band
    • Os mai un tabl ar gyfer pob math o fand fydd, yna’r math o gerddoriaeth
    • Dyddiad ffurfio’r band
    • Dyddiad gorffen y band
    • Cyswllt at wefan y band?
    • Nodiadau ychwanegol
  • Os am greu rhestr y bandiau Cymraeg yna gallem ystyried creu rhestr o fandiau a chantorion o Gymru sy’n canu yn Saesneg (neu ieithoedd heblaw Cymraeg), yn unig.
  • Gosod canllaw ar gyfer creu erthygl ar ryw ganwr neu fand. Mae rhai syniadau gennyf am amodau y gallem eu gosod, a bod angen i fand gyrraedd o leiaf un o’r amodau cyn cael erthygl amdanynt:
    • Bod band wedi cyhoeddi o leiaf (gwedwch) 2 CD/LP. O bosib gallem gyfyngu’r amod hwn ymhellach drwy osod amod bod angen bod adolygiadau o un o’r CDs wedi ymddangos yn y wasg genedlaethol.
    • Bod adolygiadau o gigs y band wedi ymddangos yn y wasg genedlaethol a bod y band/canwr wedi bod yn perfformio am rhagor na dwy flynedd.
    • Bod y band/canwr yn ymddangos mewn bywgraffiadur (ond nid cyfeiriadur).
    • Bod y band/canwr yn cael eu cydnabod yn ddylanwad ar bobl eraill (e.e. Meic Stephens am ei ddylanwad ar gerddorion eraill, Dafydd Iwan am ei ddylanwad politicaidd).
    • Bod y band/canwr yn cael eu trafod mewn erthyglau, mewn llyfrau, mewn rhaglenni teledu, ayb. Nid yw hyn yn cynnwys cyfeiriadau atynt wrth fynd heibio.
    • Os yw’r tystiolaeth ysgrifenedig yn brin, neu ei bod hi’n anodd cael gafael ar gyfeiriadau ysgrifenedig, yna bod cytundeb deg (gwedwch) o gyfranwyr â chyfrifon ganddynt ar Wicipedia, bod y band yn nodedig.
    • Bod y band/canwr wedi ennill gwobr nodedig. Ni fyddai hyn yn cynnwys gwobrau eisteddfodau lleol, eisteddfod yr Urdd na gwobrau ar gyfer newydd-ddyfodiaid.
  • Rhoi nodyn 'nodedig?' ar dudalennau’r bandiau di-nod sydd ar Wicipedia eisoes, fel ag a ddisgrifir isod. Ar y rhai na fydd yn cyrraedd y safon 'nodedig' gallem droi'r tudalen yn dudalen ail-gyfeirio at y tabl bandiau. Petai'r band yn datblygu i fod yn nodedig yn y dyfodol, digon rhwydd creu erthygl amdanynt eto.

Mae canllaw Wikipedia yn trafod nad yw poblogrwydd nac enwogrwydd ar eu pennau eu hunain yn ddigon i gyrraedd y safon ‘nodedig’ ar gyfer cynnwys pobl yn Wikipedia. Mae hefyd yn trafod bod angen defnyddio synnwyr cyffredin wrth drafod hyn oll. Rwy’n cynnig bod ein canllaw ninnau’n cynnwys hyn.

Os y gwnawn ddatblygu rhyw system tebyg i’r hyn a drafodir uchod yna rwy’n cynnig y gallem ddefnyddio nodyn tebyg i’r nodyn a ddefnyddir ar Wikipedia i nodi bod amheuaeth a yw erthygl yn ddigon nodedig i’w gynnwys ar Wicipedia. Gallem roi cyfnod penodedig i ychwanegu tystiolaeth bod erthygl yn cyrraedd y safon o fod yn ‘bwnc nodedig’. Os cwyd anghydfod gallem gynnal pleidlais ar y dudalen ‘Tudalennau amheus’ ynglŷn â’r erthygl.

Lloffiwr 21:51, 28 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Dw i'n meddwl yn sicr bod angen creu nodyn 'nodedig?/amheuaeth amlygrwydd', ac yna ei osod ar dudalen A Strauch (ac un neu ddau arall mae'n siwr). Mae'r syniad rhestru bandiau yn syniad da, ac mae'r meini prawf uchod ar gyfer creu erthygl am artist/fand wedyn yn swnio'n rhesymol. Mae erthygl Bandiau ar ffurf rhestr (cymysgedd o Cymraeg, Cymreig a rhyngwladol), categori Bandiau Cymreig (canu'n Gymraeg a Saesneg) ac erthygl Rhestr cantorion enwog (Cymraeg, Cymreig a rhyngwladol) i gyd yn bodoli'n barod, fyddai eisiau cael gwared neu uno rhai o'r rhain efallai?
Gol. Hefyd, dylai na fod polisi am hunan-gyhoeddusrwydd? Dwi'n siwr bod yr erthygl Paul Griffiths wedi ei ysgrifennu gannodo fo ei hun. Er, mae'n debyg iddo fod wedi cyflawni tipyn, ac mae hefyd mae wedi cyfrannu tipyn o erthyglau eraill.--Ben Bore 08:26, 30 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Yn fy marn i, bydd yn dda iawn greu polisi addas, ond does dim rhaid ddisgwyl tan fydd y polisi wedi ei berffeithio yn lawn cyn gwneud rhywbeth gyda'r erthygl. Rhaid jest defnyddio'r nodyn sy gyda ni eisoes, a symud neu gopio'r drafodaeth hon i Wicipedia:tudalennau amheus. Alan012 18:14, 30 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
P.S. (a sori am y Saesneg) - re Paul Griffiths, there is no doubt at all. See his blog - note the URL and his username. Alan012 19:29, 30 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Cafodd pedair dolen gwe am Annette Strauch eu dympio uchod yng nghanol y drafodaeth, heb nodyn o esboniad. (dyma nhw, wedi'u tacluso: "[1]; [2]; [3]; [4]; [5] a.y.y.b."). Hyd y gwelaf i dydyn nhw'n profi ddim byd ond bod Annette Strauch wedi gwneud gwaith ymchwil/archifio. Dwi'n digwydd nabod sawl person sydd wedi gwneud gwaith o'r fath, ond dwi'n siwr buaswn i ddim yn brifo eu teimladau taswn i'n deud bod nhw ddim yn haeddu erthygl yma am nad ydynt yn ddigon "amlwg". Anatiomaros 18:40, 19 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Cynnwys i'w drafod[golygu cod]

Dwi wedi creu'r dudalen hon yn rhannol er mwyn symud darn mawr o destun o'r Caffi a'i archifio (mae angen y dudalen hefyd, wrth gwrs: Notability ar en: - bydd angen dolen). Gobeithio cawn y cyfle cyn bo hir i ddewis o'r uchod a'i ychwanegu at yr eginyn drosodd ar dudalen yr erthygl gymorth ei hun. Gan fod gennym y drafodaeth fuddiol yma yn barod roeddwn i'n meddwl ei bod yn gwneud mwy o synnwyr i'w addasu na chyfieithu'n slafaidd y testun ar y wicipedia Saesneg. Anatiomaros 21:49, 1 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Archif: Sgwrs:George Miok[golygu cod]

Archif o erthygl a ddilewyd

(Gweler: en:Canadian Forces casualties in Afghanistan#2009 a hu:George Miok)

Dwi'n falch fod Eino81, sy'n Hwngariad, yn cyfrannu yma yn Gymraeg, ac dwi ddim isio brifo ei deimladau, ond ydy'r milwr hwn yn haeddu erthygl mewn gwyddoniadur? A fyddai erthygl amdano yn cael ei derbyn ar unrhyw argraffiad Wicipedia pe na bai wedi cael ei ladd yn Affganistan? Dwi newydd sbio ar yr erthygl ar 'en' ac mae nhw'n ystyried ei dileu. Dwi'n cytuno. Hyd y gwelaf i, os ydy'r milwr hwn yn haeddu erthygl beth am y lleill? Ydym ni am gael erthygl am bob un o'r 200 a rhagor o filwyr 'Prydeinig' sydd wedi eu lladd yno? Gyda phob parch i'r ymadawedig a'i deulu, fedra i ddim gweld fod unrhyw gyfiawnhad dros yr erthygl o gwbl yn ôl polisi amlygrwydd Wicipedia a baswn i'n synnu'n fawr pe bai'r wici Saesneg yn dod i gasgliad arall. Oes gan rywun arall farn ar hyn? Anatiomaros 17:23, 7 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Dw i'n cytuno. Fedra i ddeall yn iawn fod rhywun wedi ei ychwanegu i Wicipedia, o bosib er mwyn ei anfarwoli ar y we, ond agor y llifddorau fyddai caniatau i filwr gael eu herthyglau eu hunain yn fy marn i. Ydy, mae'n drist pan fo unrhyw filwr ifanc yn marw ond fel y dywedaist uchod, ydyn ni'n mynd i gael tudalen i bob milwr? Beth am filwyr o Ryfel y Falklands a'r Ail Ryfel Byd? Buaswn i'n meddwl mai'r peth doethaf fyddai dileu'r erthygl. Rhodri77 17:35, 7 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Dwi hefyd yn cytuno am ddileu'r erthyl hon. Ie, mae'n neis ei fod yn cael ei gofio, ond fel dywedaist, Anatiomaros, os yr ydym yn creu un i un, wedyn bydd yn rhaid creu un i bawb, ac nid yw hynny'n bosibl neu'n deg inni. Xxglennxx 10:09, 13 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Mi fuaswn i'n awgrymu aros am ychydig i weld beth mae'r ieithoedd eraill yn ei wneud. Mae'r trafodaethau ar en i weld yn eithaf cyfartal rhwng "cadw" a "dileu" ar hyn o bryd. Rhion 12:22, 13 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Dwi wedi cael cip ar y drafodaeth ar en hefyd. Rhaid i mi ddweud fy mod yn aros i gael fy argyhoeddi. Hyd y gwelaf i, yr unig gyfiawnhad dros gadw'r erthygl fyddai tystiolaeth fod marwolaeth y milwr hwn yn cael ei gweld fel symbol o ryw fath yn Hwngari - ac yng Nghanada hefyd, efallai. Ar hyn o bryd does dim byd o gwbl yn yr erthygl i awgrymu hynny: y cwbl sydd gennym ni ydy bywgraffiad milwr cyffredin a gafodd ei ladd yn Affganistan. Soniais am hyn wrth Eino ar fy nhudalen Sgwrs. Rhaid cael adran sylweddol ar yr ymateb i'w farwolaeth sy'n egluro sut mai hynny'n rhoi iddo amlygrwydd arbennig. A fydd pobl yn cofio amdano mewn ychydig o fisoedd? Fydd gwleidyddion, neu ymgyrchwyr yn erbyn y rhyfel ayyb yn cyfeirio ato yn gyson? Yn anffodus bydd rhaid aros i weld os digwyddith hynny neu beidio. Dwi'n ddrwgdybus iawn o'r cynsail mae hyn yn creu, yma ac ar y wicis eraill. Dydy "enwogrwydd diwrnod" fel petai dim yn ddigon ynddo ei hun i gyfiawnhau erthygl ar wicipedia (dywedir hynny yn ddigon eglur yn rheolau en a baswn i'n meddwl ei bod yn egwyddor gyffredinol o bwys i bob wici hefyd). Yn bendant, dydy'r erthygl fel y mae hi ddim yn cwrdd y gofynion amlygrwydd cyffredinol. Anatiomaros 15:51, 13 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Er gwybodaeth - mae en wedi dileu'r erthygl. Rhodri77 13:20, 17 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Diolch am y wybodaeth, Rhodri. Gobeithio bydd Eino yn deall pam, ond rhaid i mi gytuno â'r farn ar en. Dwi'n awgrymu pleidlais sydyn. Anatiomaros 22:42, 17 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]

Pleidlais

Nodwch eich dewis, 'Dileu', 'Ansicr' neu 'Cadw', gydag unrhyw sylwadau yr hoffech ychwanegu, os gwelwch yn dda:

Dileu, am y rhesymau a roddwyd uchod. Anatiomaros 22:41, 17 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Cadw (does dim testun Cymreig er, dw i'n dywedyd: cadw) -Eino81 10:28, 18 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Dileu. Rhodri77 13:20, 18 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Dileu, ond... rwy'n awgrymu i ni roi i Eino81 cyfle teg i gopïo'r cynnwys rhywle cyn i ni ddileu'r erthygl. (Rwy'n ei awgrymu yn yr achos hwn, nid fel rheol gyffredinol.) Luke 23:43, 30 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
(A chadw'r dudalen sgwrs hon - rwy'n meddwl bod cofnod y drafodaeth hon yn bwysig.) Luke 23:48, 30 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Dileu. Mae'n hanes trist, ond byddai'n gosod cynsail i unrhyw n yn marw yn rhinwedd ei swydd. (hefyd, mae Eino eisoes wedi gwneud copi)--Ben Bore 00:39, 31 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Ansicr. Yn amlwg, allwn ni ddim cael erthygl ar bob milwr gafodd ei ladd yn Iran neu Affghanistan (Mae'n siwr fod yna ddwsinau o Gymry, hen sôn am neb arall). Ar y llaw arall, mae modd i farwolaeth ambell filwr fynd yn rhyw fath o symbol, ac efallai fod hyn yn wir yn Hwngari yn yr achos yma. Rhion 07:47, 31 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Mae'r sylw olaf yn bwynt teg. Y broblem ydyw does dim byd o gwbl i brofi hynny yn yr erthygl; y cwbl sydd gennym ni ydy bywgraffiad milwr cyffredin a laddwyd yn Affganistan. Dwi'n crybwyll y pwynt a godwyd uchod. Wnes i sôn amdano wrth Eino81 ar fy nhudalen Sgwrs a gofyn iddo roi'r deunydd i mewn (ac mae angen mwy na dim ond adroddiadau am ei farwolaeth hefyd) ond hyd yn hyn dydy o ddim wedi gwneud hynny. Os ceir tystiolaeth ddibynadwy o fwy nag un ffynhonnell ei fod yn symbol o bwys cenedlaethol yn Hwngari sy'n mynd i aros yn ymwybyddiaeth y genedl gyda phobl yn cyfeirio ato wrth drafod y rhyfel (neu ryfel yn gyffredinol), popeth yn iawn; ond heb hynny dwi ddim yn gweld sut caiff yr erthygl hon aros yma. Dyna oedd y prif wrthwynebiad i'r erthygl yn y drafodaeth ar en, dwi'n meddwl. Anatiomaros 16:16, 31 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
(ON Dwi'n gweld y cafodd yr erthygl ei ailgyfeirio i Canadian Forces casualties in Afghanistan#2009 yn hytrach na'i dileu fel y cyfryw.) Anatiomaros 16:20, 31 Ionawr 2010 (UTC)[ateb]
Dileu. Llywelyn2000 06:03, 26 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Canlyniad

Roeddwn i wedi anghofio am hyn tan rwan. Dau fis wedi mynd heibio a phawb wedi cael digon o gyfle i fynegi eu barn. Y canlyniad, mae'n ymddangos yw Dileu (Dileu: 5 pleidlais; Ansicr: 1; Cadw: 1). Roedd Luke yn awgrymu cadw'r drafodaeth felly dwi'n cynnig ei chopïo i Sgwrs Wicipedia:Amlygrwydd ac wedyn dileu'r erthygl. Dwi'n bwriadu gwneud hynny yn nes ymlaen heddiw os na cheir gwrthwynebiad cryf. Anatiomaros 15:58, 26 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

[Rhoddwyd y drafodaeth yma i'w chadw yn ôl yr awgrym cyn dileu'r erthygl.] Anatiomaros 17:31, 27 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Does dim canllaw ar gyfer bandiau wedi eu cytuno arnynt eto, (er cynigodd Llofiwr rhai sbel yn ôl), ond tydi ennill cystadleuaet brwydr y bandiau ddim cweit digon dw i ddim yn meddwl i fod mewn gwydoniadur!--Ben Bore 15:08, 31 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Ond eto, does dim byd amheus am yr erthygl. Di-nod yn dy feddwl di; ond pwy yden ni i sensro pethau 'dibwys' (sy'n ddibwys i ni, ond nid i eraill, efallai). Dwi newydd sgwennu erthygl ar y perinewm - dyna iti wrthrych llawer mwy dibwys a di-nod (am wn i!). Ac ar ddiwedd y dydd, onid oes lle i bopeth ar Wici? Pob person, pob criw, pob lle, pob ardal, pob gwrthrych, popeth? Lle mae cyfyngiadau gwyddoniaduron confensiynol yn methu (maint y papur a'r gyfrol, golyddydd / sensor unochrog, y noddwr / y sefydliad ayb.) mae Wici'n llwyddo: ehangder di-ben-draw, dim sensor unllygeidiog, gwrthrychedd ayb. Gwnewch y pethau bychain...
Llywelyn2000 21:25, 31 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Mae hyn yn un anodd. Dwi'n meddwl bod ni'n eitha goddefgar yn barod cyn belled â mae pobl a phethau Cymraeg/Cymreig yn y cwestiwn, ac mae'n wir hefyd fod gennym fwy o le i fod yn gynhwysfawr na gwyddoniaduron eraill, ond ar y llaw arall fedrem ni ddim - a ddylem ni ddim - gynnwys pawb a phopeth, yn llythrennol. Mae "perinewm" yn ymylol braidd efallai, ond mae'n bod ac mi fydd yn bod yn y dyfodol. Efallai bydd Chwarter call hefyd, ond ar y llaw arall mae'n rhaid gofyn pa mor bell i lawr y lein ydym ni i fynd yn achos bandiau un record (oes ganddyn nhw record?) a "selebs-dros-dro" hefyd. Wedi dweud hynny, mae nifer uchel o 2 filiwn erthygl bondigrybwyll y wici Saesneg yn bethau mor chwerthinllyd o ymylol beth bynnag (dyfarnwyr pêl-droed 3edd Adran o Norwy, cymeriad sy'n ymddangos mewn cartŵn Siapaneaidd does neb heb law llond llaw o anoracs yn Siapan wedi clywed amdano, ac ati...). Anatiomaros 21:50, 31 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Na, tydio ddim yn amheus, a dylwn wedi nodi mai ei ystyried yn ddi-nod ydw i - dyma'r lle gorau i nodi pethau fel hyn am rwan dw i'n credu. Ti'n iawn Llywelyn mai nid fy lle i ydy penderfynnu beth sy'n ddiddorol a'i peidio i eraill, ond eto rhaid bod yna rhyw fath o cut-off point i beth sy'n mynd i gael ei gynnwys yma. Tydy'r ffaith nad oes gyda ni gyfyniad lle (hyd y gwyddwn i) ddim yn reswm i'w lenwi gyda pob math o bethau di-nod. Ymddengys nad yw'r band mewn cwestiwn ddim wedi rhyddhau dim byd, dim ond wedi ennill cystadleuaeth a noddwyd gan Sbarc (prosiect celf i bobl ifanc ardal Caernarfon).--Ben Bore 13:10, 1 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Re: cut-off point, I did mention something similiar two years ago, but I think the criteria for inclusion here should be:
  • Either had a single on Siart C2 OR
  • Had a hit single (top 75) on the UK singles chart OR
  • Released an album through an established record company,
or will we have lots of bands using Wicipedia to promote themselves. Paul-L 14:29, 2 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Fi ysgrifennodd yr erthygl, a rydw i'n dilyn y band. Dwi'n dallt eich 'concern' fel petai, ond wnes i gwned hyn ar ol mis da iawn i'r band. Mae ei proffil yn tyfu. O'i demo cyntaf, mae un can wedi gael ei ddarlledu ar Radio Cymru, ar raglen Magi Dodd yn reit reolaidd, ers mis gorfennaf, ar ol ymddangos fel band 'Gwyliwch y Gofod', rhan o'r sioe sydd yn rhoi sylw i bandiau newydd. Yna, dywedodd ar ei sioe ar Hydref 21, 2008, fod "Chwarter Call fydd band..2009, nhw fydd yn headlinio Maes B yn 2009". Ar ol hyna, ar raglen 'Bandit', wythnos dwytha' (Dydd Iau 30 o Hydref), darlledir cyfweliad a'r band. Gwobr am ennill y cystadleaeth Battle of The Bands 'sbarc', gai ychwanegu, yw sesiwn acwstig ar C2, sydd heb ei recordio eto, ond fe wneith yn yr wythnosau nesaf. Mae'r band ar fin ryddhau EP, a felly, oherwydd fod proffil y band wedi ehangu dros yr wythnosau diwethaf, fe penderfynnais fod ysgrifennu erthygl amdanant yn rhywbeth digon resymol, ac yn perthnasol i sîn cerddoriaeth sydd yn datblygu yn sydyn iawn. --84.13.26.27 02:46, 4 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Mae'r tag amheus wedi ei dynnu i ffwrdd o'r erthygl (gan awdur yr erthygl). Er,chwarae teg teg does dim pellach wedi ei drafod yma ers wythnos, ond dw i eto i'n argyhoeddi. Y cwbl mae'r band yma wedi ei wenud yw creu demo. Mae nhw'n bwriadu cyhoeddi EP. Mae meini prawf Paul yn swnio'n reit rhesymol a dw i'n cynnig y dyliwn eu mabwysiadu yn swyddogol.
Hefyd dw i'n gweld hi braidd yn 'amheus' bod defnyddiwr di-enw yn gwybod cymaint am fwriad y band!--Ben Bore 09:14, 12 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Dim penderfyniad ar hyn ers Tachwedd 2008! Hen bryd i ni benderfynu os ydym am ei chadw neu ddim. Fel y nodais uchod, dwi'n cloffi rhwng dau feddwl am hyn. Gadawaf y penderfyniad i rywun sy'n gwybod mwy am y pwnc (Ben?). Anatiomaros 16:47, 10 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Reit, mae Anatiomaros wedi fy atgoffa am hwn, ac wedi cynnig mai fy call i ydy o (yn enwedig gan mi fi osododd nhw yma yn y lle cyntaf!). Gan bod ni ddim wedi gwneud dim byd ynglyn a gweithredu ffôn fesur ar gyfer bandiau (er bod Paul wedi cynnig un rhesymol uchod), dw i ddim eisiau dileu'r erthygl. Hefyd, yn y cyfamser mae erthygl am fand Yr Angen wedi cael ei greu yn ddiweddar, ond ac nid gan ddefnyddiwr di-enw fel sydd fel arfer yn digwydd, a dw i'n teimlo os yw Chwarter Call yn mynd, yna byddai rhaid trin Yr Angen yr un fath. Dw i'n deall nad ydy hi'n foddhaol bod erthygl yn aros ar restr Tudalennau amheus am gyhyd, felly dylwn ei dynnu oddi ar y rhestr 'sbo.--Ben Bore 20:39, 11 Mai 2010 (UTC)[ateb]
Penderfyniad - Cadw

Diolch Ben. Dwi'n meddwl fod hynny'n ddigon teg. A rwan does dim rhaid i mi ofyn "oes angen Yr Angen?" felly! Oes, mae angen canllaw am bobl a phethau cyfoes fel hyn, ond bydd yna wastad enghreiffriau sy'n ymylol a bydd dim dewis ond eu trafod fel hyn, fel sy'n digwydd ar y wicis eraill hefyd. Anatiomaros 21:48, 11 Mai 2010 (UTC)[ateb]

(Archifwyd am fod sylwadau defnyddiol yma). Anatiomaros 19:29, 7 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Tacluso[golygu cod]

Dw i wedi ceisio tacluso ychydig, ond doeddwn i ddim wedi mewngofnodi! F'ymddiheuruadau! Oes na sylw, ogydd? Llywelyn2000 (sgwrs) 10:49, 13 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]