Defnyddiwr:Eino81
Croeso i tudalen ddefnyddiwr i
Ieithydd Hwngaraidd ydw i, a Norbert Kiss (neu Eino81) (1 Mawrth 1981) yw fy enw i. Rydw i'n byw yn Ecser yn Hwngari. Roeddwn i'n astudio yn Szeged. Maes fy tiriogaeth ymchwil ydy dwyieithrwydd. Rydw i'n siarad Ffinneg a Saesneg, dydw i ddim siarad Cymraeg yn dda. Rydw i wedi i'n ysgrifennu stori fer, Myfi, dyma hi:
|
Hynafol yw fy mhobl, y rheini yr ydwyf yn perthyn iddynt, hynafiaid ydym yn y byd i gyd. Rwy’n siarad iaith hynafol, fu iaith fy hunan. Rwy’n byw mewn tir hynafol, nid ydwyf wedi byw mewn unman arall erioed, ac rwy’n perthyn i’r fan hon. Dyma fi, fy hunan, unig ydwyf yn y byd eang. Rydw i ar fy mhen fy hunan, Ymadawodd fy nghenedl amser maith yn ôl, dim ond fi arhosodd. Dim ond fi sy’n siarad fy iaith hynafol bellach.
Rwy’n crwydro ar hyd y ffordd a alwyd bywyd. Rwy’n bwyta fy mara ac yn yfed fy nŵr ar fy mhen fy hunan. Myfi sy’n ysgrifennu fy llyfrau, a myfi fy hunan sy’n eu darllen. Rwy’n dringo’r mynyddoedd tu ôl fy nhŷ; myfi fy hunan sy’n pysgota’r pysgod o’r afon sydd o flaen fy nhŷ. Rwy’n esgyn y bryniau pob dydd i fyfyrio a meddwl ar fy mhen fy hun, dim ond fi yn unig. Tra’r oeddwn i ffwrdd, fe welais bobl eraill; daeth rhai ohonynt i’m tir. Roeddwn i’n dda iddynt. Rhoddais bwyd a diod iddynt ac roeddent yn gallu gorffwys yn fy nhai.
A nawr ... mae estroniaid yn dweud wrthof beth y dylswn ei wneud, sydd hawl gen i ei wneud. Ond fi yw’r meistr, fi yw’r perchennog, fi sydd gartref. Hwn yw fy nghartref hynafol, lle y bu fy nhad a’u tadau’n byw. Hwn yw fy nghartref, fy nhir; rwy’n byw yma ar fy mhen fy hun.
(Cyfieithiad: Siân Moran)