Defnyddiwr:Eino81/GM

Oddi ar Wicipedia
Eino81/GM
Galwedigaethmilwr, athro



Roedd George “Gyuri" Miok (18 Mai 198130 Rhagfyr 2009) yn sarsiant yn Lluoedd Arfog Canada. Fe’i laddwyd wrth wasanaethu yn Afghanistan yn 2009. Cafodd ei wobrwyo â’r medal Gwasanaethwyr Heddwch Canadaidd, medal Iwgoslafia y Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd (NATO) a medal Gwasanaeth De Ddwyrain Asia.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd George (neu György) i deulu o dras Hwngaraidd yn Edmonton yng Nghanada. Ei dad oedd Illés Miok (o Senta, Voivodina yn Serbia), a’i fam oedd Anna Miok (o Sir Veszprém yn Hwngari). Roedd ganddo tri brawd, Michael, John a László.[1][2][3][4] Nid oedd George yn briod ac nid oedd ganddo blant.

Roedd e’n athro ac fe astudiodd ym Mhrifysgol Alberta.[5] Rhwng 2008-2009, dysgodd crefydd, mathamateg ac addysg corfforol a iechyd i ddisgyblion blwyddyn saith yn Ysgol Gynradd y Santes Cecilia yn Edmonton.[6]

Roedd e’n aelod o gymuned Hwngaraidd Edmonton ac roedd hefyd yn medru siarad Hwngareg.[7]

Gyrfa Milwrol[golygu | golygu cod]

Ymunodd Miok â’r fyddin pan oedd yn 17 oed. [2] Yn 2002 fe wasanaethodd yn SFOR yn Bosnia.[8] Aeth am y tro cyntaf i Afghanistan yn 2005. Roedd yn aelod o Gatrawd 41 Y Peiriannwyr Gornest a oedd yn gwasanaethu Tîm Adluino Rhanbarth Kandahar.[9][10] Yn 2009 bu farw ynghyd â thri milwr arall o Ganada pan drawodd eu cerbyd milwrol yn erbyn dyfais ffrwydrol pedwar kilometr o ddinas Kandahar.[11][12][13][14] Ef oedd y 135 ed milwr o Ganada i farw yn Afghanistan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod]