Lluoedd arfog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Lluoedd Arfog)

Gelwir y fyddin, y llynges a'r awyrlu gyda'i gilydd yn Lluoedd Arfog (yn achos gwledydd heb lynges nac awyrlu fawr y fyddin yw lluoedd arfog y wlad). Eu hamcan fel arfer yw amddiffyn gwlad rhag ymosodiad, er y gallant ymosod ar wlad arall hefyd wrth gwrs. Mae'r fyddin yn amddiffyn neu ymosod ar dir, yr awyrlu yn yr awyr ac i ollwng bomiau, a'r llynges ar y môr.

Mae'r milwyr, y llongwyr, a'r awyrlu yn gwisgo iwnifform fel y gellir eu gwahaniaethu oddi wrth y gelyn.

Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.