Walter de Châtillon
| Walter de Châtillon | |
|---|---|
| Ganwyd | c. 1135 Lille |
| Bu farw | c. 1201 Amiens |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, diwinydd, bardd, goliard |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Alexandreis, De Alexio, Actus sancti Brandani, De statibus mundi, Lyrical poems, Ridmus de sancto Thoma |
Roedd Walter de Châtillon neu Walterus de Insula sef Walter o Lille (c. 1135 - wedi 1184) yn fardd telynegol yn yr iaith Ladin, a aned yn Lille yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc.
Ei fywyd
[golygu | golygu cod]Yn ystod ei yrfa eglwysig roedd yn ganon yn Reims ac Amiens ac astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Bologna yn yr Eidal. Treuliodd gyfnod fel athro yn Châtillon, lle daeth i amlygrwydd gan ennill iddo'i hun yr enw Walter de Châtillon, ac yn ddiweddarach gwasanaethodd yn llys y brenin Angevin Harri II o Loegr (1133-1189).
Ei waith llenyddol
[golygu | golygu cod]Roedd Walter yn fardd telynegol mawr, gyda meistroliaeth lwyr ar odl a a mydr. Mae ei delynegion gorau yn cynnwys y fugeilgerdd Declinante frigore ac Importuna Veneri lle mae'r bardd yn cwyno bod y Gaeaf yn ceisio rhewi ei gariad ond mae'r cariad hynny yn ei galon ac ni all yr oerfel ei gyffwrdd:
- Amor est in pectore,
- Nullo frigens frigore.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Frederick Brittain (gol.), The Penguin Book of Latin Verse (Llundain, 1964). Testun Lladin a chyfieithiad Saesneg o'r ddwy delyneg uchod.