Wallis Simpson
Wallis Simpson | |
---|---|
| |
Ganwyd |
Bessie Wallis Warfield ![]() 19 Mehefin 1896 ![]() Blue Ridge Summit ![]() |
Bu farw |
24 Ebrill 1986 ![]() Villa Windsor ![]() |
Man preswyl |
Baltimore, Mayfair, Villa Windsor, Gif-sur-Yvette ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
cymdeithaswr ![]() |
Tad |
Teackle Wallis Warfield ![]() |
Mam |
Alice M. Montague ![]() |
Priod |
Edward VIII, Ernest Aldrich Simpson, Earl Winfield Spencer ![]() |
Perthnasau |
S. Davies Warfield ![]() |
Llinach |
House of Windsor ![]() |
Gwobr/au |
Time Person of the Year ![]() |
Cymdeithaswraig Americanaidd oedd Wallis, Duges Windsor (gynt Simpson, gynt Spencer, née Bessie Wallis Warfield, 19 Mehefin 1896 – 24 Ebrill 1986), a gymerodd y Tywysog Edward, Dug Windsor (brenin y Deyrnas Unedig gynt) fel ei trydydd gŵr.
Bu farw tad Wallisyn fuan wedi ei geni, a cafodd Wallis a'i mham gweddu eu cefnogi'n ariannol yn rhannol gan eu perthnasau a oedd yn gyfoethogach. Ysgarodd o'i phriodas cyntaf i swyddog forlu'r Unol Daleithiau wedi treulio nifer o gyfnodau arwahan. Ym 1934, yn ystod ei ail phriodas, honir iddo ddod yn feistres i Edward, Tywysog Cymru. Dyflwydd yn ddiweddarach, wedi i Edward esgyn i'r orsedd yn Frenin, ysgarodd Wallis ei ail gŵr a gofynnodd Edward iddi ei briodi.
Achosodd ewyllys y Brenin i brodi Americanes a oedd wedi ysgaru ddwywaith argyfwng cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig a'r Dominiwn, a arweiniodd yn y pen draw at y Brenin i ildio'r goron ym mis Rhagfyr 1936 er mwyn gallu priodi "the woman I love".[1] Wedi iddo ildio'r goron, cafodd Edward ei greu'n Ddug Windsor gan ei frawd Siôr VI. Priododd Edward a Wallis chwe mis yn ddiweddarach, ac adnabyddwyd Wallis yn swyddogol fel Dugies Windsor on heb y steil "Ei Mawrhydi".
Cyn, yn ystod ac yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, cafodd y Dug a'r Dugies eu cyhuddo o gydymdeimlo gyda'r Natsiaid gan nifer o bol yn y llywodraeth a'r gymdeithas. Yn ystod yr 1950au a'r 1960au, bu'r ddau'n teithio'n nôl a blaen rhwng Ewrop a'r Unol Daleithiau, yn byw bywyd hamddenol fel enwogion cymdeithasol. Wedi marwolaeth y Dug ym 1972, bu'r Dugies yn byw'n unig ac i ffwrdd o lygad y cyhoedd. Bu ei bywyd preifat yn bwnc dyfaliadau a dadleuol yn gyhoeddus.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Dug Windsor (1951). A King's Story. Llundain: Cassell and Co Ltd, tud. 413