Neidio i'r cynnwys

Vereeniging

Oddi ar Wicipedia
Vereeniging
Yr Eglwys Ddiwygiedig Iseldiraidd yn Vereeniging.
ArwyddairPer Pacem Ad Industriam Edit this on Wikidata
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth99,787 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1892 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Lleol Emfuleni Edit this on Wikidata
GwladBaner De Affrica De Affrica
Arwynebedd18,819 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,479 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau26.6736°S 27.9319°E Edit this on Wikidata
Cod post1939, 1930 Edit this on Wikidata
Map

Tref yn nhalaith Gauteng, De Affrica, yw Vereeniging. Saif ar lannau Afon Vaal, i dde Johannesburg, nid nepell o'r ffin daleithiol â'r Wladwriaeth Rydd.

Mae'r enw, y gair Affricaneg am "gymdeithas" neu "undeb", yn cyfeirio at y gymdeithas lofaol a oedd yn berchen ar yr anheddiad a sefydlwyd yno ym 1892. Yma ym 1902 cynhaliwyd trafodaethau heddwch ar gyfer Cytundeb Vereeniging i ddod â therfyn i Ail Ryfel y Boer. Ymgorfforwyd y gymuned yn dref ym 1912.[1]

Elwodd Vereeniging ar ei maes glo, a dyfroedd Afon Vaal, i ddatblygu'n un o'r prif ganolfannau diwydiannol trwm yn Ne Affrica. Mae gweithfeydd y dref yn cynhyrchu haearn a dur, gwydr, a briciau a theils, a phrosesu calch a glo, ac mae gorsafoedd ynni gwres lleol yn darparu trydan i'r grid cenedlaethol.

Ar gyrion Vereeniging lleolir treflan Sharpeville, safle cyflafan Sharpeville ym 1960.

Cynyddodd y boblogaeth o 79,630 yn 2001[1] i 99,787 yn 2011.[2] Yn ôl cyfrifiad 2011, mae 55% o drigolion Vereeniging yn bobl dduon, 33% yn bobl wynion, 6% o dras Indiaidd neu Asiaidd, a 5% yn bobl groenliw.[2] Prif ieithoedd cyntaf y boblogaeth yw Afrikaans (35%), Sesotho (26%), Saesneg (15%), Swlŵeg (8%), a Xhosa (4%).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Vereeniging. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Hydref 2022.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Census 2011: Vereeniging". Adalwyd ar 13 Hydref 2022.