Neidio i'r cynnwys

Cyflafan Sharpeville

Oddi ar Wicipedia
Cyflafan Sharpeville
Enghraifft o:cyflafan Edit this on Wikidata
Dyddiad21 Mawrth 1960 Edit this on Wikidata
Lladdwyd69 Edit this on Wikidata
LleoliadSharpeville Edit this on Wikidata
Map
Dynodwyr
Freebase/M/01_9jw edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Lladdfa a gyflawnwyd gan Heddlu De Affrica mewn ymateb i wrthdystiad gan dorf fawr o bobl dduon yn erbyn apartheid oedd cyflafan Sharpeville a ddigwyddodd ar 21 Mawrth 1960 yn nhreflan Sharpeville, ger Vereeniging yn nhalaith y Transvaal, De Affrica.

Cyhoeddodd y Gyngres Ban-Affricanaidd (PAC)—grŵp hollt o Gyngres Genedlaethol Affrica (ANC)—brotestiadau i'w cynnal ar draws De Affrica ar 21 Mawrth 1960 i alw am ddiddymu deddfau'r pasbortau mewnol a ddefnyddiwyd i orfodi arwahanu hiliol yn y wlad. Cyfarwyddodd y PAC i brotestwyr wrthod eu paslyfrau, ac felly rhoi rheswm i'r heddlu eu harestio fel ffordd o anufudd-dod sifil. Ymgynnullodd rhyw 20,000 o bobl dduon ger gorsaf yr heddlu yn Sharpeville. Yn ôl yr heddlu, dechreuodd y dorf daflu cerrig atynt, ac ymatebant drwy saethu eu peirianddrylliau bychain. Bu farw 69 o bobl, ac anafwyd mwy na 180.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Sharpeville massacre. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Hydref 2022.