Usain Bolt
Gwedd
| Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch ei gwella drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. (Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yn y categori Categori:Dim-ffynonellau.) |
| Usain Bolt | |
|---|---|
| Ffugenw | The fastest man alive |
| Ganwyd | Usain St. Leo Bolt 21 Awst 1986 Sherwood Content |
| Man preswyl | Kingston |
| Dinasyddiaeth | Jamaica |
| Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, sbrintiwr, pêl-droediwr, mabolgampwr |
| Taldra | 196 centimetr |
| Pwysau | 95 cilogram |
| Gwobr/au | Commander of the Order of Distinction, Member of the Order of Jamaica, Bislett medal, L'Équipe Champion of Champions, Gwobr Chwaraeon y Byd Laureus am Chwaraewr y Flwyddyn, Gwobr ESPY i'r Athletwr Rhyngwladol Gorau |
| Gwefan | https://usainbolt.com/ |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Racers Track Club, Central Coast Mariners FC |
| Gwlad chwaraeon | Jamaica |
Sbrintiwr o Jamaica ydy Usain Bolt (ganed 21 Awst 1986). Mae Bolt yn dal record byd ac Olympaidd am y 100 metr sef 9.69 eiliad. Mae hefyd yn dal y record byd am 200 metr sef 19.30 eiliad. Hefyd gyda chyd-aelodau o'i dîm yn dal record byd y ras gyfnewid 4x100 metr sef 37.10 eiliad. Cafodd y rhain i gyd eu gosod yng ngemau Olympaidd Beijing yn Haf 2008. Daeth Bolt y dyn cyntaf i ennill y tair cystadleuaeth mewn un gemau Olympaidd ers Carl Lewis yn Los Angeles yn 1984. Daeth hefyd y dyn cyntaf mewn hanes i osod record byd ym mhob un o'r cystadlaethau mewn un gemau Olympaidd. Mae ei enw ac ei gampau mewn gwibio yn golygu ei fod wedi cael y llysenw Lightning Bolt.
| Blwyddyn | Twrnamaint | Safle | Result | Cystadlaeth | Amser (seconds) |
|---|---|---|---|---|---|
| 2002 | World Junior Championships | Kingston, Jamaica | 1af | 200 m | 20.61 |
| 2002 | World Junior Championships | Kingston, Jamaica | 2nd | 4x100 m gyfnewid | 39.15 NJR |
| 2002 | World Junior Championships | Kingston, Jamaica | 2nd | 4x400 m gyfnewid | 3:04.06 NJR |
| 2003 | World Youth Championships | Sherbrooke, Canada | 1af | 200 m | 20.40 |
| 2004 | Chwaraeon Carifta | Hamilton, Bermiwda | 1af | 200 m | 19.93 WJR |
| 2005 | Central American and Caribbean Championships | Nassau, Bahamas | 1af | 200 m | 20.03 |
| 2007 | World Championships in Athletics | Osaka, Japan | 2nd | 200 m | 19.91 |
| 2008 | Reebok Grand Prix | Dinas Efrog Newydd, Unol Daleithiau | 1af | 100 m | 9.72 RB |
| 2008 | Beijing Olympics | Beijing, Tsieina | 1af | 100 metr | 9.69 RB RO |
| 2008 | Beijing Olympics | Beijing, Tsieina | 1af | 200 metr | 19.30 RB RO |
| 2008 | Beijing Olympics | Beijing, Tsieina | 1af | 4x100 metr gyfnewid | 37.10 RB RO |
| 2009 | Berlin World Championships | Berlin, yr Almaen | 1af | 100 metr | 9.58 RB |