Kingston (Jamaica)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Kingston, Jamaica)
Jump to navigation Jump to search
Kingston
PortofKingston.jpg
Arwyddair A city which hath foundations Edit this on Wikidata
Math Prifddinas, Dinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Kingston upon Thames Edit this on Wikidata
Poblogaeth 580,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1692 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC−05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Miami-Dade County, Coventry, Kalamazoo, Miami, Panevėžys, Shenzhen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Surrey County Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Jamaica Jamaica
Arwynebedd 480,000,000 m² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 9 ±1 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Môr y Caribî Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Portmore Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 17.9714°N 76.7931°W Edit this on Wikidata

Prifddinas a dinas fwyaf Jamaica yw Kingston. Fe'i lleolir ar arfordir de-ddwyrain yr ynys ym Môr y Caribî. Mae'n wynebu ar harbwr naturiol a amddiffynir gan y Palisadoes, rhimyn hir o dywod sy'n cysylltu Port Royal a Maes Awyr Rhyngwladol Norman Manley i weddill yr ynys. In Hemisffer y Gorllewin, Kingston yw'r ddinas Saesneg ei hiaith fwyaf i'r de o'r Unol Daleithiau.

Rhennir canol Kingston yn ddwy ran wrthgyferbyniol : y Downtown hanesyddol ond aflonydd, a New Kingston, lleoliad atyniad mwyaf yr ynys, sef Amgueddfa Bob Marley (ar safle ei hen gartref). Mae sawl seren reggae arall, yn cynnwys Buju Banton, Sean Paul, Bounty Killer, a Beenie Man, yn hannu o Kingston hefyd. Mae atyniadau eraill yn cynnwys traethau Hellshire a Lime Cay, Amgueddfa Genedlaethol Jamaica, adfeilion Port Royal, a Devon House, hen fansiwn a'i barc cysylltiedig a fu'n eiddo i filiwnydd croen du cyntaf Jamaica.

Yn ogystal â Maes Awyr Rhynwladol Norman Manley, gwasanaethir y ddinas gan Faes Awyr Tinson Pen.

Devon House, enghraifft o blasdy trefedigaethol cyfoethog o'r gorffennol
Flag of Jamaica.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Jamaica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.