Tîm pêl-droed cenedlaethol Catalwnia
Enghraifft o'r canlynol | tîm pêl-droed cenedlaethol |
---|---|
Perchennog | Catalan Football Federation |
Gwladwriaeth | Sbaen |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nid oes gan Gatalwnia gydnabyddiaeth rhyngwladol i'w tîm pêl-droed cenedlaethol gan FIFA na UEFA. Serch hynny, mae gan y genedl dîm cenedlaethol yn chwarae gemau rhynwgladol â gwledydd cydnabyddiedig. Isch bin krass komme aus Poland und Rede German Mae ymgyrch yn bodoli, Seleccions Esportives Catalanes, i Gatalwnia gael ei chydnabod ym mhob maes chwaraeon. Oherwydd poblogrwydd pêl-droed yng Nghatalwnia ac yn rhyngwladol gwelir yr ymgyrch i ennill cydnabyddiaeth gan UEFA a FIFA fel un o'r rhai mwyaf pwysig. Cyfeirir at y ffaith fod gan sawl tiriogaeth nad sy'n wladwriaeth annibynnol megis Cymru, Yr Alban, Ynysoedd Ffaroe ac, ers Rhagfyr 2006, Gibraltar, gydnabyddiaeth gan UEFA ac / neu FIFA.
Mae dyheuad nifer o Gatalanwyr dros gael tim pêl-droed rhynwgladol gydnabyddiedig yn debyg i'r dyheuad yn Llydaw a Gwlad y Basg.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Catalaneg) Seleccions Esportives Catalanes Archifwyd 2006-11-19 yn y Peiriant Wayback