Tîm pêl-droed cenedlaethol Catalwnia
| Enghraifft o: | men's national association football team |
|---|---|
| Math | tîm chwaraeon cenedlaethol |
| Perchennog | Catalan Football Federation |
| Pencadlys | Catalwnia |
| Gwladwriaeth | Sbaen |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/077mp4 |
Nid oes gan Gatalwnia gydnabyddiaeth rhyngwladol i'w tîm pêl-droed cenedlaethol gan FIFA na UEFA. Serch hynny, mae gan y genedl dîm cenedlaethol yn chwarae gemau rhynwgladol â gwledydd cydnabyddiedig. Isch bin krass komme aus Poland und Rede German Mae ymgyrch yn bodoli, Seleccions Esportives Catalanes, i Gatalwnia gael ei chydnabod ym mhob maes chwaraeon. Oherwydd poblogrwydd pêl-droed yng Nghatalwnia ac yn rhyngwladol gwelir yr ymgyrch i ennill cydnabyddiaeth gan UEFA a FIFA fel un o'r rhai mwyaf pwysig. Cyfeirir at y ffaith fod gan sawl tiriogaeth nad sy'n wladwriaeth annibynnol megis Cymru, Yr Alban, Ynysoedd Ffaro ac, ers Rhagfyr 2006, Gibraltar, gydnabyddiaeth gan UEFA ac / neu FIFA.
Mae dyheuad nifer o Gatalanwyr dros gael tim pêl-droed rhynwgladol gydnabyddiedig yn debyg i'r dyheuad yn Llydaw a Gwlad y Basg.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Catalaneg) Seleccions Esportives Catalanes Archifwyd 2006-11-19 yn y Peiriant Wayback