Tyrmerig

Oddi ar Wicipedia
Turmeric
Curcuma longa
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Monocots
Ddim wedi'i restru: Commelinids
Urdd: Zingiberales
Teulu: Zingiberaceae
Genws: Curcuma
Rhywogaeth: C. longa
Enw deuenwol
Curcuma longa
L.[1]
Cyfystyron

Curcurma domestica Valeton

Blodyn parhaol sy'n perthyn i deulu'r Zingiberaceae (neu 'sinsir') ydy tyrmerig (hefyd twrmeric ac ati) (Lladin: Curcuma longa)[2] sy'n rhisomaidd, yn sbeis rhinweddol, bwytadwy.[3] Mae'n frodorol o India, ac mae angen tymheredd o rhwng 20 a 30 °C (68 and 86 °F) a chryn dipyn o law iddo dyfu ar ei orau.[4] Caiff y planhigyn ei gynhaeafu'n flynyddol er mwyn trawsblannu rhai o'u rhisomau ar gyfer y flwyddyn dilynol.

Defnyddir tyrmerig i goginio, pan fo'n ffres; fel arall mae'n rhaid berwi'r rhisomau am 30-45 munud a'u sychu mewn popty cynnes,[5] ac yna cant eu malu mewn melin fechan yn bowdwr melyn-oren cryf. Defnyddir y powdwr mewn coginio Indiaidd, yn enwedig mewn cyri neu i lifo dillad neu roi lliw i fwstad. Mae tyrmerig yn cynnwys curcwmin, sy'n rhoi iddo ei flas chwerw a'i ogla cryf: ychydig yn boeth fel pupur ac arogl fel mwstad.

Golwg botanegol o Curcuma longa
Llond cae o dyrmerig yn India

India yw'r prif wlad lle cynhyrchir tyrmerig,[6] a cheir sawl enw amdano drwy'r wlad.

Hanes a geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Ar adegau cyfeirir at tyrmerig fel kasturi manjal neu'n syml manjal. Mae'r planhigyn wedi'i ddefnyddio fel sbeis i roi blas ar fwyd ers miloedd o flynyddoedd ac mae'n gonglfaen meddygaeth Siddha.[7] Credir mai i lifo dillad y defnyddiwyd ef yn gyntaf ac yna am ei rinweddau meddygol.[8]

Does neb gant-y-cant yn sicr am darddiad y gair Saesneg turmeric. Mae'n bosib mai gair gwneud Saesneg a Lladin ydyw, gyda'r arogl 'daearol' neu terra (terra merita) yn cywasgu.[9] Yn Saesneg, gellir ynganu'r gair gyda'r 'r' gyntaf, neu hebddo h.y. "tymeric", gan ddibynnu ar eich acen.

Mae enw'r genws, Curcuma, fodd bynnag, yn llawer hŷn ac o darddiad Arabaidd - defnyddir yr enw yma ar y sbeis yn Ffrangeg a rhai ieithoedd eraill.

Ymchwil meddygol[golygu | golygu cod]

Yn ôl 'Canolfan Cenedlaethol Meddygaeth Arall ac Amgen', "ychydig iawn o dystiolaeth bendant sydd i gadarnhau effeithiolrwydd y defnydd o dyrmerig i wella afiechydon, oherwydd prinder y gwaith ymchwil."[8] Ceir sawl ymchwil cyfredol i'w ddefnydd a'i effeithiolrwydd i drin cancr, ond crafu'r wyneb a wnaed hyd yma.[10]

Ceir peth ymchwil sy'n profi fod gan tyrmerig rinweddau gwrth-ffwng a gwrthfiotig, ond nid oherwydd y curcumin sydd ynddo.[11]

Ceir nifer o ymchwiliadau hefyd ynghylch ei effeithiolrwydd i drin neu wella afiechydon yn yr iau a'r galon, gwynegon (cricmala), sawl math o gancr a'r colon.[12] Mae'r ymchwil i'w ddefnydd i 'wella' Clefyd Alzheimer yn parhau ers blynyddoedd,[13] a chlefyd y siwgr,[14] a chlefydau eraill.[15][16]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Curcuma longa information from NPGS/GRIN". ars-grin.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-20. Cyrchwyd 2008-03-04.
  2. http://www.merriam-webster.com/dictionary/turmeric
  3. Chan, E.W.C. et al.; Lim, Y.Y.; Wong, S.K.; Lim, K.K.; Tan, S.P.; Lianto, F.S.; Yong, M.Y. (2009). "Effects of different drying methods on the antioxidant properties of leaves and tea of ginger species". Food Chemistry 113 (1): 166–172. doi:10.1016/j.foodchem.2008.07.090.
  4. Indian Spices. "Turmeric processing". kaubic.in. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-28. Cyrchwyd 2013-07-07.
  5. Tahira JJ et al (2010). "Weed flora of Curcuma longa". Pakistan J Weed Sci Res 16 (2): 241–6. http://www.wssp.org.pk/14_justina_janes.pdf. Adalwyd 11 Hydref 2012.
  6. Chattopadhyay, Ishita; Kaushik Biswas; Uday Bandyopadhyay; Ranajit K. Banerjee (10 Gorffennaf 2004). "Turmeric and curcumin: Biological actions and medicinal applications". Current Science (Indian Academy of Sciences) 87 (1): 44–53. ISSN 0011-3891. http://repository.ias.ac.in/5196/1/306.pdf. Adalwyd 16 Mawrth 2013.
  7. 8.0 8.1 "Herbs at a Glance: Turmeric, Science & Safety". National Center for Complementary and Alternative Medicine (NCCAM), National Institutes of Health. 2012. Cyrchwyd 11 Hydref 2012.
  8. Dictionary.com Unabridged based on the Random House Dictionary, © Random House, Inc. 2013. "Turmeric". Dictionary.com. 2012. Cyrchwyd 11 Hydref 2012.
  9. "Turmeric". American Cancer Society. 7 Rhagfyr 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-06. Cyrchwyd 19 Medi 2013.
  10. Ragasa C, Laguardia M, Rideout J (2005). "Antimicrobial sesquiterpenoids and diarylheptanoid from Curcuma domestica'". ACGC Chem Res Comm 18 (1): 21–24. http://acquire.cqu.edu.au:8080/vital/access/manager/Repository/cqu:3199. Adalwyd 2015-04-23.
  11. "Clinical trials on turmeric". National Institutes of Health, Clinical Trials Registry. Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2013.
  12. Mishra S, Palanivelu K (Ion-Mawrth 2008). "The effect of curcumin (turmeric) on Alzheimer's disease: An overview". Ann Indian Acad Neurol 11 (1): 13–9. doi:10.4103/0972-2327.40220. PMC 2781139. PMID 19966973. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/pmc2781139/.
  13. Boaz M, Leibovitz E, Bar Dayan Y, Wainstein J (2011). "Functional foods in the treatment of type 2 diabetes: olive leaf extract, turmeric and fenugreek, a qualitative review ". Func Foods Health Dis 1 (11): 472–81. http://www.functionalfoodscenter.net/files/49461330.pdf.
  14. Henrotin Y, Clutterbuck AL, Allaway D, et al. (Chwefror 2010). "Biological actions of curcumin on articular chondrocytes". Osteoarthr. Cartil. 18 (2): 141–9. doi:10.1016/j.joca.2009.10.002. PMID 19836480.
  15. Gregory PJ, Sperry M, Wilson AF (January 2008). "Dietary supplements for osteoarthritis". Am Fam Physician 77 (2): 177–84. PMID 18246887.
Chwiliwch am tyrmerig
yn Wiciadur.