Mwstard

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mwstad)
Y planhigyn mwstard yn ei flodau.

Mae'r planhigyn mwstard (neu fwstad) yn perthyn i'r ddau genws Brassica a Sinapis. Cafodd ei ddisgrifio'n gyntaf yn nysgeidiaeth Gautama Buddha yn India yn y 5g. Term brodorol ar ei gyfer yw llyminog.[1]

Mae'r hedyn mwstard yn cael ei ddefnyddio fel sbeis i roi blas ar fwyd a chaiff y sug melyn hwn ei baratoi drwy'i falu mewn melin sbeis a'i gymysgu gyda dŵr neu finagr. Gellir gwasgu'r had, er mwyn cynhyrchu olew ar gyfer y gegin. Caiff y dail hefyd eu bwyta: gweler Brassica juncea. Mae cymysgu mêl gyda mwstard yn ffasiwn eitha diweddar, sy'n ennill ei blwyf yn sydyn.[2] Ceir llawer o gymysgeddau eraill ar werth, megis mwstard blas fodca neu fwstard blas Cognac, ond heb yr alcohol.

Hedyn mwstard[golygu | golygu cod]

Mae had mwstard yn llawn olew a phrotin,ac mae hyd at 48% o'r hedyn yn olew. Ym Mhacistan, olew had llin-mwstard ydy'r ail olew mwya poblogaidd yn y wlad. Ymhlith prif gynhyrchwyr yr had mae: Canada, Hwngari, gwledydd Prydain, India, Pacistan ac Unol Daleithiau America. Yr hadau sy'n rhoi'r mwyaf o olew ydy mwstard brown a mwstard du.[3]

Gellir creu hylif melyn i roi blas ar fwyd drwy wasgu'r hedyn bychan hwn. Oherwydd ei fychander, caiff ei ddefnyddio yn y Beibl fel trosiad am rywbeth bychan. Yn Matthew (13:31–32), Marc (4:30–32), a Luc (13:18–19) dywedir fod teyrnas Nefoedd wedi dechrau'n fach fel hedyn mwstard:

Had mwstard


" Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn, a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes:
13:32 Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o’r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef."[4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  llyminog. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 11 Awst 2022.
  2. Honey Mustard Sauce Recipe Archifwyd 2007-12-07 yn y Peiriant Wayback.. Southernfood.about.com (2011-01-31). Adalwyd 27 Mai 2011.
  3. "Pulses and Special Crops > Pulses and Special Crops > Producers". Agr.gc.ca. 2007-03-20. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-04-27. Cyrchwyd 2010-07-28.
  4. Gwefan Wiciffynhonnell