Tybïe

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Santes Gymreig oedd Tybïe (bl. 5g). Roedd hi'n un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog. Dywedir iddi sefydlu eglwys ar safle Llandybïe, Sir Gaerfyrddin.[1] Dethlir ei gŵyl mabsant ar 30 Ionawr (gweler isod).

Chwedlau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl y chwedl, roedd gan Frychan lys unwaith yn Nyffryn Tywi, sef Llys Brychan. Aeth ei ferch Tybïe i fyw mewn cell feudwy gyda'i chwaer, Lluan (neu 'Lleian') a morynion eraill yng Nghelli-forynion, rhwng y Mynydd Du a'r Mynydd Mawr. Dywedir mai nhw oedd y cyntaf i ymledu Cristnogaeth yn y rhan honno o Gymru. Roedd ganddi gell arall mewn llecyn o'r enw Cae'r Groes hefyd.[2]

Un diwrnod daeth criw o reibwyr "paganaidd" i'r ardal a lladdwyd Tybïe ganddynt. Yn ôl un traddodiad, gerllaw ei heglwys y lladdwyd hi ond yn ôl traddodiad arall fe'i lladdwyd tua hanner milltir i ffwrdd a ffrydiodd ffynnon o'r man a elwir er hynny yn Ffynnon Dybïe. Bu'r ffynnon honno yn gyrchfan gan gleifion am ganrifoedd i iachau eu hunain.[2]

Cof[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn arfer cynnal gŵyl mabsant bob blwyddyn drannoeth y Nadolig i goffhau Tybïe. Gelwid yr ŵyl yn Ddygwyl Dybïe. Fel rhan o'r ŵyl, etholid 'maer' gan y bobl a'i arwain o gwmpas Llandybïe ar gefn asyn: mae'r llenor a hanesydd lleol Gomer M. Roberts yn cofnodi fod hynny'n dal i ddigwydd yn y 1940au.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. T. D. Breverton, The Book of welsh Saints (Caerdydd, 2001).
  2. 2.0 2.1 2.2 Gomer M. Roberts, 'Y Santes Dybïe a'i Frawd', yn Chwedlau'r Ddau Fynydd (Llyfrau'r Dryw, Llandybïe, 1948.