Neidio i'r cynnwys

Pibydd coesgoch mannog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tringa erythropus)
Pibydd coesgoch mannog
Tringa erythropus

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Tringa
Rhywogaeth: T. erythropus
Enw deuenwol
Tringa erythropus
(Pallas, 1764)
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pibydd coesgoch mannog (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pibyddion coesgoch mannog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Tringa erythropus; yr enw Saesneg arno yw Spotted Redshank. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1]

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. erythropus, sef enw'r rhywogaeth.[2]

Mae'r Pibydd coesgoch mannog yn nythu ar draws gogledd gwledydd Llychlyn a gogledd Asia. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a'r gorllewin ac yn gaeafu o gwmpas Affrica, de Asia ac o amgylch y Môr Canoldir, er fod nifer llai yn gaeafu ymhellach i'r gogledd.

Mae'r aderyn yn 29–33 cm o hyd, gyda phlu du yn y tymor nythu, a llwyd yn y gaeaf. Mae'r coesau a'r pig yn goch. Gellir gwahaniaethu'r Pibydd coesgoch mannog oddi wrth y Pibydd coesgoch, sy'n aderyn tebyg iawn, oherwydd fod gan y Pibydd coesgoch mannog goesau hirach a phig hirach a meinach. Mae'n nythu ar lawr, ac yn tua pedwar wy.

Yng Nghymru, ceir niferoedd amrywiol ond cymharol fychan pan maent yn mudo tua'r gogledd yn y gwanwyn a thua'r de yn yr hydref, ac mae niferoedd llai yn treulio'r gaeaf yma. Fe'i ceir o gwmpas aberoedd yn bennaf.


Teulu[golygu | golygu cod]

Mae'r pibydd coesgoch mannog yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Gïach Affrica Gallinago nigripennis
Gïach Is-Antarctig Coenocorypha aucklandica
Gïach Japan Gallinago hardwickii
Gïach Madagasgar Gallinago macrodactyla
Gïach Swinhoe Gallinago megala
Gïach brongoch Limnodromus griseus
Gïach cynffonfain Gallinago stenura
Gïach gylfinhir Limnodromus scolopaceus
Gïach mynydd y Gogledd Gallinago stricklandii
Gïach unig Gallinago solitaria
Pibydd Twamotw Prosobonia cancellata
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Safonwyd yr enw Pibydd coesgoch mannog gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.