Traeth Towyn
Math | traeth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Llwybr Arfordir Cymru |
Gwlad | Cymru, y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 52.90631°N 4.63081°W |
Cod post | SH231376 |
Traeth tywodlyd braf ar arfordir gogleddol Llŷn, Gwynedd, Cymru yw traeth neu lan 'môr Towyn. Cyfeirnod grid OS SH231376, lledred 52.9063°G, hydred 4.6308°Gn. Mae llwybr drol yn dilyn i lawr o'r ffordd gyferbyn â Fferm Towyn i lawr i'r traeth, heibio siop a chaffi poblogaidd Cwt Tatws a maes carafanau bach. Wrth gyrraedd pen y gallt fe ddewch ar draws Llwybr Arfordir Cymru lle mae posib troi i'r dde a cherdded tuag at traeth caregog Bieg/Bîg ac ymlaen tuag at Rhosgor neu i'r chwith i gyfeiriad Porth Ysglaig a Phorth Cychod a Phorth Ysgaden. Fel sy'n nodedig o lawer o draethau a phorthladdoedd Llŷn, gelltydd o bridd a chlai go serth sydd yma hefyd, er bod llwybr drol gyfleus yn eich tywys i lawr i'r traeth ei hun.
Does dim cyfleusterau i lawr ar y traeth ei hun ac mae'n anaddas ar gyfer pobl sy'n ddibynnol ar gadair olwyn ond mae meinciau pren wedi eu gosod uwch ben y traeth ar ben yr allt lle mae posib eistedd a gwylio'r olygfa.
Yn ystod yr haf mae'r traeth yn medru bod yn brysur gyda ymwelwyr, ond os fyddwch yn ffodus a chael y traeth i chi'ch hun, mae'n le hudolus. Mae'r traeth gyda cherrig brig llwyd-ddu hynafol o'r Oes Cambraidd naill ben iddi. Allan yn y môr mae cyfres o greigiau a ddaw i'r golwg ar drai, yn lleol fe'i gelwir yn 'Greigiau Delysg' yn ôl y gwymon a dyfai yno, Mae posib nofio i gyrraedd Cerrig Delysg ar dop trai.
Hefyd ym mhen ogleddol y traeth mae craig fach llyfn a ddaw i'r golwg yn dibynnu ar faint o dywod fydd ar y traeth ar y pryd. 'Carreg Yr Ebol' oedd yr enw oedd arni:
"Yr Ebol, ac arni yr hyn a ddisgrifir gan Myrddin Fardd yn ôl troed ceffyl. Dywedir ganddo fod hen goel am y graig hon. Pe bai'r môr yn golchi'r tywod oddi arni byddai'r ŷd y flwyddyn ganlynol yn ddrud iawn, "ac os gorchuddiai y tywod hi, y byddai popeth yn hynod o isel a di-ofyn." "[1]
Ym mhen gogleddol traeth mae posib cerdded o gwmpas y creigiau brig i gyrraedd traeth bach tywodlyd a chuddiedig Pengalld, a'i gelwyd ar ôl y tyddyn agosaf iddo.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Tudweiliog
- Porth Ysgaden
- Porth Gwylan
- Porth Ychain
- Porth Cychod
- Porth Cesyg
- Llwybr Arfordir Cymru
- Llangwnnadl
- Traeth Penllech
- Porth Ysglaig
- Coetan Arthur/Cromlech Cefnamwlch
- Penllech
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gruffydd, Elfed (1991). Ar Hyd Ben 'Ralld. Pwllheli: Clwb y Bont. t. 24.