Tigran Petrosian

Oddi ar Wicipedia
Tigran Petrosian
Ganwyd17 Mehefin 1929 Edit this on Wikidata
Tbilisi Edit this on Wikidata
Bu farw13 Awst 1984 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
AddysgPhD mewn Gwyddorau Athronyddol Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr gwyddbwyll, ysgrifennwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
PriodRona Petrosian Edit this on Wikidata
Gwobr/aupencampwr gwyddbwyll y byd, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Urdd y Bathodyn Anrhydedd, Medal "For Labour Valour, Meistr Anrhydeddus Chwaraeon, CCCP Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata

Roedd Tigran Vartanovich Petrosian (Armeneg: Տիգրան Վարդանի Պետրոսյան, Rwseg: Тигран Вартанович Петросян; 17 Mehefin 1929 – 13 Awst 1984) yn Uwchfeistr gwyddbwyll Armeneg-Sofietaidd ac ef oedd nawfed Pencampwr Gwyddbwyll y Byd, o 1963 - 1969. Cafodd y llysenw 'Tigran o Haearn' oherwydd ei arddull chwarae amddiffynnol oedd yn pwysleisio diogelwch. Dywedir mai Petrosian boblogeiddiodd gwyddbwyll yn Armenia. [1][2]

Bu Petrosian yn ymgeisydd am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd wyth gwaith (1953, 1956, 1959, 1962, 1971, 1974, 1977 a 1980). Bu'n fuddugol ym 1963, yn erbyn Mikhail Botvinnik, amddiffynnodd ei goron yn llwyddiannus ym 1966 yn erbyn Boris Spassky, a'i cholli i Spassky ym 1969. Felly roedd yn Bencampwr y Byd oedd yn amddiffyn ei goron neu yn Ymgeisydd am Bencampwriaeth y Byd mewn deg cylch tair blynedd yn olynol. Enillodd y Bencampwriaeth Sofietaidd bedair gwaith (1959, 1961, 1969, a 1975).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Petrosian i rieni Armenaidd ar 17 Mehefin, 1929 yn Tbilisi, GSS Georgia (Georgia heddiw ). Yn fachgen ifanc, roedd Petrosian yn fyfyriwr da iawn ac yn mwynhau astudio, fel roedd ei frawd Hmayak a'i chwaer Vartoosh. Dysgodd chwarae gwyddbwyll yn wyth oed, ond cafodd ei annog gan ei dad anllythrennog Vartan i barhau i astudio, gan nad oedd yn meddwl bod gwyddbwyll yn debygol o ddod ag unrhyw lwyddiant mewn gyrfa iddo. Daeth Petrosian yn amddifad yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac fe'i gorfodwyd i ysgubo strydoedd i ennill bywoliaeth. Tua'r amser hwn, dechreuodd ei glyw ddirywio, problem a barhaodd i effeithio arno trwy gydol ei oes. Nodyn:Quote frameDefnyddiodd Petrosian ei ddognau bwyd i brynu Praxis Gwyddbwyll yr uwchfeistr Aron Nimzowitsch, a dywedodd Petrosian yn ddiweddarach mae'r llyfr hwn gafodd y dylanwad mwyaf arno fel chwaraewr. [3] Prynodd hefyd 'The Art of Sacrifice in Chess' gan Rudolf Spielmann. Y chwaraewr arall i gael effaith ar wyddbwyll Petrosian oedd José Raúl Capablanca. Yn 12 oed dechreuodd hyfforddi ym Mhalas Arloeswyr Ifanc Tiflis dan arweiniad Archil Ebralidze. Roedd Ebralidze yn edmygwr mawr o Nimzowitsch a Capablanca, ac roedd ei agwedd wyddonol at wyddbwyll yn amheus o dactegau gwyllt a chyfuniadau peryglus. O ganlyniad i hyn, datblygodd Petrosian repertoire o agoriadau lleoliadol solet, megis yr Amddiffyniad Caro-Kann. Ar ôl hyfforddi ym Mhalas yr Arloeswyr Ifanc am flwyddyn yn unig, trechodd yr Uwchfeistr Salo Flohr mewn arddangosfa chwarae ar-y-pryd.

Erbyn 1946, Roedd Petrosian wedi ennill y teitl Ymgeisydd Feistr. Cafodd gêm gyfartal gyda'r Uwchfeistr Paul Keres ym Mhencampwriaeth Gwyddbwyll Georgia, ac yna symudodd i Yerevan ac ennill Pencampwriaeth Gwyddbwyll Iau yr Undeb Sofietaidd. Yn ystod Pencampwriaeth Gwyddbwyll yr Undeb Sofietaidd ym 1947 enillodd y teitl Meistr, er iddo fethu â chymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol. Aeth ati i wella ei gêm trwy astudio gwerslyfr Nimzowitsch 'My System' a symudodd i fyw i Moscow er mwyn cael mwy o gystadleuaeth.

Uwchfeistr ym Moscow[golygu | golygu cod]

Petrosian (yn sefyll ar y dde, gyda siaced) ym Mhencampwriaeth Tîm Gwyddbwyll Ewrop 1961. Yn eistedd, yn wynebu'r dde, mae Mikhail Tal, pencampwr y byd ar y pryd.

Ar ôl symud i Moscow ym 1949, datblygodd gyrfa Petrosian fel chwaraewr gwyddbwyll yn gyflym a gwellodd ei ganlyniadau mewn cystadlaethau Sofietaidd yn gyson. Daeth yn ail ym Mhencampwriaeth y Sofietiaid ym 1951, ac ennill y teitl meistr rhyngwladol, ac am y tro cyntaf chwaraeodd gyda Mikhail Botvinnik, pencampwr y byd. Yn chwarae efo Gwyn cafodd sefyllfa israddol o'r agoriad, ond ar ôl amddiffyn dygn dros un-ar-ddeg awr o chwarae gorffennodd efo gêm gyfartal. Yr oedd ei ganlyniadau yn ddigon da i gymhwyso i'r Rhwngzonal y flwyddyn ganlynol yn Stockholm . Enillodd deitl Uwchfeistr trwy ddod yn ail yno, a chymhwysodd ar gyfer Twrnamaint yr Ymgeiswyr 1953.

Gorffennodd Petrosian yn bumed yn Nhwrnamaint yr Ymgeiswyr 1953, a dechreuodd ei yrfa aros yn llonydd. Ymddangosai'n fodlon i gytuno gemau cyfartal yn erbyn chwaraewyr gwannach a cadw ei deitl o Uwchfeistr yn hytrach na gwella ei wyddbwyll a mynd am Bencampwriaeth y Byd. Gwelwyd hyn yn glir yn ei ganlyniadau ym Mhencampwriaeth yr Undeb Sofietaidd 1955: chwaraeodd 19 gêm heb yr un colled, ond gyda dim ond pedair buddugoliaeth a phymtheg gêm gyfartal, gyda phob un o'r gemau cyfartal yn para ugain symudiad neu lai. Er bod ei chwarae yn sicrhau canlyniad twrnamaint digon teilwng, roedd y cyhoedd, y cyfryngau, a'r awdurdodau gwyddbwyll Sofietaidd yn ei farnu. Yn agos at ddiwedd y twrnamaint, ysgrifennodd y newyddiadurwr Valily Panov: " Ar wahân i Botvinnik a Smyslov, hyd at y 15fed rownd, mae siawns go iawn am fuddugoliaeth gan Geller, Spassky a Taimanov. Rwy’n eithrio Petrosian o’r grŵp yn fwriadol, oherwydd o’r rowndiau cyntaf un mae wedi ei gwneud yn glir ei fod yn chwarae am y goncwest haws, er efallai hefyd yn anrhydeddus - lle yn y pedwarawd rhwngzonal.” [4]

Daeth y cyfnod hwn o hunan-fodlonrwydd i ben gyda Phencampwriaeth yr Undeb Sofietaidd 1957, dros 21 gêm, enillodd Petrosian saith, collodd bedair, gyda deg gêm gyfartal. Digon da i'r seithfed safle oedd hyn, ond cafodd ei agwedd fwy uchelgeisiol at chwarae twrnamaint ei werthfawrogi'n fawr. Aeth ymlaen i ennill Pencampwriaeth yr Undeb Sofietaidd am y tro cyntaf ym 1959, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno yn y Twrnamaint Ymgeiswyr bu'n fuddugol yn erbyn Paul Keres gydag arddangosfa o'i alluoedd tactegol a ddi-ystyrir yn aml. Dyfarnwyd teitl Meistr Chwaraeon yr Undeb Sofietaidd i Petrosian ym 1960, ac enillodd ei ail deitl Sofietaidd ym 1961. Parhaodd chwarae yn rhagorol trwy 1962 gan gymhwyso ar gyfer Twrnamaint yr Ymgeiswyr, a'i gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Byd. [5]

Pencampwriaeth y Byd 1963[golygu | golygu cod]

Petrosian ym 1960

Wedi chwarae yn y Rhwngzonal ym 1962 yn Stockholm, cymhwysodd Petrosian ar gyfer Twrnamaint yr Ymgeiswyr yn Curacao, ynghyd â Pal Benko, Miroslav Filip, Bobby Fischer, Efim Geller, Paul Keres, Viktor Korchnoi a Mikhail Tal. Petrosian, yn cynrychioli'r Undeb Sofietaidd enillodd y twrnamaint gyda sgôr terfynol o 17½ pwynt, gyda Geller a Keres, hanner pwynt yn ôl ar 17 pwynt, a gorffennodd Bobby Fischer gyda 14. [6] Yn dilyn hyn cyhuddodd Fischer fod y chwaraewyr Sofietaidd yn trefnu gemau cyfartal efo'i gilydd i'w atal o rhag ennill y twrnamaint. [7] Fel tystiolaeth, nododd fod pob un o'r 12 gêm a chwaraewyd rhwng Petrosian, Geller, a Keres yn gemau cyfartal. Gwelir bod y cystadleuwyr Sofietaidd hyn, wrth chwarae yn erbyn ei gilydd, wedi gwneud 19 symudiad y gêm ar gyfartaledd, yn hytrach na 39.5 symudiad wrth chwarae yn erbyn cystadleuwyr eraill. Er bod yr ymateb i honiadau Fischer yn gymysg, addasodd FIDE y rheolau a'r fformat yn ddiweddarach i geisio atal cydgynllwynio yn y dyfodol ymhlith yr Ymgeiswyr. [6]

Ar ôl ennill Twrnamaint yr Ymgeiswyr, enillodd Petrosian yr hawl i herio Mikhail Botvinnik am deitl Pencampwr Gwyddbwyll y Byd mewn gornest 24 gêm. Yn ogystal ag ymarfer ei wyddbwyll, roedd Petrosian yn paratoi ar gyfer y gêm trwy sgïo am sawl awr bob dydd. Credai, mewn gêm mor hir, y gallai ffitrwydd corfforol a dygnwch ddod yn ffactor tua diwedd yr ornest, ac am bod Botvinnik yn llawer hŷn nag ef, cynyddai'r fantais hon. [8] Gallai dipyn o gemau cyfartal mewn twrnamaint atal chwaraewr rhag ennill, ond nid oedd gêm gyfartal yn effeithio canlyniad gornest un-i-un. Yn hyn o beth, roedd arddull chwarae ofalus Petrosian yn addas iawn ar gyfer chwarae gornest, gallai aros i'w wrthwynebydd wneud camgymeriadau ac yna manteisio arnynt. [9] Enillodd Petrosian yn erbyn Botvinnik gyda sgôr terfynol o 12.5/9.5 (+5, -2, =15), a'i goroni yn nawfed Pencampwr Gwyddbwyll y Byd. [6]

Pencampwr y Byd[golygu | golygu cod]

Petrosian a Jan Hein Donner yn nhwrnamaint Wijk aan Zee ym 1971

Ar ôl dod yn Bencampwr y Byd, ymgyrchodd Petrosian am gyhoeddi papur newydd gwyddbwyll i'r Undeb Sofietaidd gyfan, yn hytrach nag i Moscow yn unig. Cafodd y papur newydd hwn ei adnabod fel '64'. [4] Astudiodd am radd Meistr mewn Gwyddor Athronyddol ym Mhrifysgol Talaith Yerevan; teitl ei draethawd ymchwil, dyddiedig 1968, oedd "Rhesymeg Gwyddbwyll, Rhai o Broblemau Rhesymeg Meddwl Gwyddbwyll". [4]

Ym 1966, tair blynedd ar ôl iddo ennill teitl Pencampwr Gwyddbwyll y Byd, cafodd ei herio gan Boris Spassky. Amddiffynnodd Petrosian ei deitl trwy ennill yn hytrach na cael gêm gyfartal, [10] camp na chyflawnwyd ers i Alexander Alekhine drechu Efim Bogoljubov ym Mhencampwriaeth y Byd 1934. [11] Fodd bynnag, ar ôl iddo guro Geller, Larsen a Korchnoi yn y cylch ymgeiswyr nesaf, enillodd Spassky yr hawl i chwarae Petrosian drachefn, ym 1969. Enillodd Spassky o 12½–10½.

Gyrfa yn ddiweddarach[golygu | golygu cod]

Petrosian ym 1973

Ym 1976, efo nifer o chwaraewyr gwyddbwyll Sofietaidd eraill, arwyddodd Petrosian ddeiseb yn condemnio Viktor Korchnoi, oedd wedi ffoi i'r gorllewin. Bu pethau'n ddrwg rhwng y ddau, yn dyddio yn ôl i gêm gynderfynol yr Ymgeiswyr 1974 pan dynnodd Petrosian yn ôl ar ôl pum gêm tra'n colli 1½–3½ (+1, −3, =1). Yn ystod ei gêm â Korchnoi ym 1977, gwrthododd y ddau gyn-gydweithiwr ysgwyd llaw na siarad â'i gilydd. Roeddent hyd yn oed yn mynnu cyfleusterau bwyta a thoiled ar wahân. Collodd Petrosian yr ornest, ac fe'i ddiswyddwyd fel golygydd cylchgrawn gwyddbwyll mwyaf Rwsia, '64'. Condemniwyd ef gan ei ddirmygwyr am ei amharodrwydd i ymosod, a'i gyhuddo o ddiffyg dewrder, ond amddiffynnodd Botvinnik ef, gan ddweud mai dim ond pan oedd yn briodol yr ymosodai Petrosian, ei gryfder mwyaf oedd wrth amddiffyn. [12]

Cafodd rhai llwyddiannau wrth fynd yn hyn, gan gynnwys buddugoliaethau yn Lone Pine 1976 ac yn nhwrnamaint Coffa Paul Keres 1979 yn Tallinn (12/16 heb golli, ac o flaen Tal, Bronstein; ac eraill). Daeth yn gydradd gyntaf (gyda Portisch a Hubner yn Rhwngzonal Rio de Janeiro yr un flwyddyn, a gorffennodd yn ail yn Tilburg ym 1981, hanner pwynt tu ôl i Alexander Beliavsky. Chwaraeodd ei fuddugoliaeth enwog olaf yma, gyda dihangfa wyrthiol yn erbyn y Garry Kasparov ifanc. [13]

Bywyd personol a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bedd Petrosian ym mynwent Armenaidd, Moscow

Bu Petrosian yn byw ym Moscow o 1949. Yn y 60au a'r 70au, roedd yn byw yn 59 Stryd Pyatitskaya. [14] Pan ofynnwyd iddo a oedd o'n Rwsiaidd, atebodd Petrosian: “Dramor, maen nhw’n galw ni i gyd yn Rwsiaid. Armenaidd Sofietaidd ydw i.”

Ym 1952, [15] priododd Petrosian Rona Yakovlevna (g. Avinezer, 1923–2005), Iddewes Rwsiaidd a aned yn Kiev, Yr Wcráin . [16] [17] Gyda Gradd o Sefydliad Tramor Moscow, bu'n athrawes Saesneg ac yn cyfieithu ar-y-pryd. [16] Claddwyd hi yn yr adran Iddewig ym mynwent Vostryakovsky ym Moscow. [18] Roedd ganddynt ddau fab: Vartan a Mikhail. [16]

Bu farw Petrosian ym Moscow o gancr yr ystumog ar 13 Awst, 1984 ac fe'i claddwyd ym Mynwent Armenaidd Moscow. [19]

Byddardod[golygu | golygu cod]

Roedd Petrosian yn rhannol fyddar [20] ac yn gwisgo cymorth clyw yn ystod ei gemau, a allai arwain at sefyllfaoedd rhyfedd. Ar un achlysur cynigiodd gêm gyfartal i Gligorić, gwrthododd Gligorić mewn syndod i ddechrau, ond yna newidiodd ei feddwl mewn ychydig eiliadau ac ail-gynnig y gêm gyfartal. Ni wnaeth Petrosian hyd yn oed ymateb i'r cynnig, gan ennill y gêm yn ddiweddarach. Canfuwyd wedyn ei fod wedi diffodd ei gymorth clyw, ac ni chlywodd pan ailgynigiodd Gligorić y gêm gyfartal. [21] Ym 1971, tra'n chwarae gêm Ymgeiswyr yn erbyn Robert Hübner mewn neuadd swnllyd yn Seville, tynnodd Hübner allan o'r gêm oherwydd y twrw, ond doedd yn tarfu dim ar Petrosian. [22] Yn rhyfedd iawn, er gwaethaf ei glyw gwael - roedd yn hoff iawn o gerddoriaeth glasurol ac yn mwynhau mynychu cyngherddau.

Cydnabyddiaeth ac etifeddiaeth[golygu | golygu cod]

Ar adeg ei farwolaeth, roedd Petrosian yn gweithio ar set o ddarlithoedd ac erthyglau yn ymwneud â gwyddbwyll i'w llunio mewn llyfr. Golygwyd y rhain gan ei wraig Rona a'u cyhoeddi ar ôl ei farwolaeth, yn Rwsieg dan y teitl Шахматные лекции Петросян (1989) ac yn Saesneg fel Petrosian's Legacy (1990).

Cerflun Petrosian ger Tŷ Gwyddbwyll Yerevan
I goffáu 75 mlynedd ers ei eni, cyhoeddodd Armenia y stamp hwn yn 2005.
Petrosian ar arian papur 2,000 Dram ym 2018

Ym 1987, dadorchuddiodd Pencampwr Gwyddbwyll y Byd, Garry Kasparov, gofeb wrth fedd Petrosian sy'n darlunio'r Dorch Llawryf a ddyfarnwyd i Bencampwr Gwyddbwyll y Byd, a delwedd sydd wedi'i chynnwys o fewn coron yr haul yn disgleirio uwchben dau gopa Mynydd Ararat - symbol cenedlaethol Armenia, mamwlad Petrosian. .  Ar 7 Gorffennaf, 2006, agorwyd cofeb yn anrhydeddu Petrosian yn ardal Davtashen yn Yerevan, ar y stryd a enwyd ar ei ôl. [23] Anrhydeddwyd Petrosian hefyd ar drydedd gyfres arian papur dram Armenia, gyda'i ddelwedd ar yr arian papur 2,000 dram. [24]

Olympiad a phencampwriaethau tîm[golygu | golygu cod]

Ni chafodd Petrosian ei ddewis i dîm Olympiad y Sofietaidd tan 1958; er ei fod eisoes wedi bod yn Ymgeisydd ddwywaith erbyn hyn. O hynny ymlaen fe'i ddewiswyd i chwarae i bob tîm Olympiad Sofietaidd o 1958 i 1978, ac fe enillodd naw medal aur tîm, un fedal arian tîm, a chwe medal aur unigol. Roedd ei berfformiad yn chwarae'r Olympiad yn rhyfeddol: +78, −1, =50 neu 79.8% (dim ond un gêm a gollwyd!, i Robert Hübner, allan o'r 129 a chwaraewyd), y trydydd perfformiad gorau erioed ar ôl Anatoly Karpov (+43, - 2, =23 neu 80.1%) a Mikhail Tal (+65, −2, =34 neu 81.2%). [25] Mae canlyniadau ei Olympiad fel a ganlyn:

  • Munich 1958, 2il eilydd, 10½/13
  • (+8, −0, =5), medalau aur bwrdd a thîm
  • Leipzig 1960, 2il eilydd, 12/13
  • (+11, −0, =2), medalau aur bwrdd a thîm
  • Varna 1962, bwrdd 2, 10/12
  • (+8, −0, =4), medalau aur bwrdd a thîm
  • Tel Aviv 1964, bwrdd 1, 9½/13
  • (+6, −0. =7), medal aur tîm
  • Hafana 1966, bwrdd 1, 11½/13
  • (+10, −0, =3), medalau aur bwrdd a thîm
  • Lugano 1968, bwrdd 1, 10½/12
  • (+9, −0, =3), medalau aur bwrdd a thîm
  • Siegen 1970, bwrdd 2, 10/14
  • (+6, −0, =8), medal aur tîm
  • Skopje 1972, bwrdd 1, 10½/16
  • (+6, −1, =9), medal aur tîm
  • Nice 1974, bwrdd 4, 12½/14
  • (+11, −0, =3), medalau aur bwrdd a thîm
  • Buenos Aires 1978, bwrdd 2, 6/9
  • (+3, −0, =6), medal arian tîm

Arddull chwarae[golygu | golygu cod]

Roedd Petrosian yn chwaraewr gwyddbwyll ceidwadol, gofalus a hynod amddiffynnol a dylanwadwyd arno'n gryf iawn gan syniadau o broffylacsis Aron Nimzowitsch. Gwnai fwy o ymdrech i atal ymosodiadau ei wrthwynebydd nag a wnai i ymosod ei hun, ac anaml iawn y byddai'n mynd am wddf ei elyn oni bai ei fod yn teimlo ei sefyllfa yn gwbl sicr. [26] Enillodd fel arfer trwy chwarae'n saff nes i'w wrthwynebydd fynd yn rhy ymosodol a gwneud camgymeriad, a sicrhau buddugoliaeth trwy fanteisio ar y camgymeriad hwn ond heb ddangos unrhyw wendidau ei hun. Gallai chwarae fel hyn arwain yn aml iawn at gemau cyfartal, yn enwedig yn erbyn chwaraewyr oedd yn well ganddynt wrthymosod. Er hynny, roedd ei amynedd a'i feistrolaeth ar amddiffyn yn ei wneud yn hynod anodd i'w drechu. Ni chafodd ei drechu yn Rhwngzonal 1952 a 1955, ac ym 1962 ni chollodd un gêm dwrnamaint. Enillodd gallu cyson Petrosian i osgoi colli y llysenw "Tigran o Haearn" iddo. [6] Ystyriwyd ef fel y chwaraewr anoddaf i'w guro yn hanes gwyddbwyll gan awduron llyfr yn 2004, [27] a galwodd Pencampwr y Byd y dyfodol Vladimir Kramnik ef "yr Amddiffynnwr gorau, gydag A fawr". [28]

Roedd yn well gan Petrosian chwarae agoriadau caeedig nad oedd yn ymrwymo ei ddarnau i unrhyw gynllun penodol. Gyda Du, roedd Petrosian yn mwynhau chwarae amrywiad Najdorf o'r Amddiffyniad Sisilaidd, [29] a'r Amddiffyniad Ffrengig. Gyda Gwyn, byddai'n aml yn chwarae'r Agoriad Seisnig. [30] Byddai Petrosian yn aml yn symud yr un darn sawl gwaith mewn ychydig symudiadau, gan ddrysu ei wrthwynebwyr yn yr agoriad, a bygwth gêm gyfartal gydag ailadrodd triphlyg mewn diweddglo. Mewn gêm yn erbyn Mark Taimanov yn ystod Pencampwriaeth Gwyddbwyll yr Undeb Sofietaidd ym 1955, symudodd Petrosian yr un castell chwe gwaith mewn gêm 24-symudiad, gyda phedwar o'r symudiadau hynny yn olynol. [31] [32] Yr oedd yn well ganddo farchogion yn hytrach nag esgobion, nodwedd a briodolir yn aml i ddylanwad Aron Nimzowitsch . [33]

Defnyddiwyd nifer o gyffelybiaethau darluniadol i ddisgrifio arddull chwarae Petrosian. Dywedodd Harold C. Schonberg fod " ei chwarae fel ceisio rhoi gefynnau ar lyswennod. Doedd dim byd i’w afael ynddo.” [6] Disgrifiwyd ef fel cantroed yn cuddio yn y tywyllwch, [6] teigr yn aros am y cyfle i neidio, peithon yn gwasgu ei ysglyfaeth yn araf i farwolaeth, [26] ac fel crocodeil sy'n aros am oriau cyn llamu a brathu. [34] Disgrifiodd Boris Spassky, a olynodd Petrosian fel Pencampwr Gwyddbwyll y Byd, ei arddull chwarae fel hyn: “Mae Petrosian yn fy atgoffa o ddraenog . Dim ond pan fyddwch chi'n meddwl eich bod wedi ei ddal, mae'n rhoi ei gwilsynnau allan." [26]

Er fod arddull chwarae Petrosian yn hynod lwyddiannus yn osgoi colli, fe'i feirniadwyd am fod yn ddiflas. Gwelai selogion gwyddbwyll ei arddull "tra-geidwadol" yn gyferbyniad digroeso llwyr i'r ddelwedd boblogaidd o wyddbwyll Sofietaidd fel un "beiddgar" ac "ymosodol". [35] Bu cwyno mawr yn y wasg yn Rwsia pan gafwyd gymaint o gemau cyfartal undonog yn ei ornest yn Nhwrnamaint yr Ymgeiswyr ym 1971 gyda Viktor Korchnoi. Fodd bynnag, disgrifiodd Svetozar Gligorić Petrosian fel un “trawiadol iawn yn ei allu digyffelyb i ragweld perygl ar y bwrdd ac i osgoi unrhyw risg o golli.” [36] Ymatebodd Petrosian i'w feirniaid trwy ddweud: “Maen nhw'n dweud y dylai fy gemau fod yn fwy 'diddorol'. Fe allwn i fod yn fwy 'diddorol' - a cholli." [26]

Un canlyniad arall i arddull chwarae Petrosian oedd na fyddai'n ennill llawer o gemau, a oedd yn ei dro yn golygu mai anaml y byddai'n ennill twrnamaint er ei fod yn aml yn gorffen yn ail neu'n drydydd. Er hynny, roedd ei arddull yn hynod effeithiol mewn gornestau unigol. [37]

Yn achlysurol byddai Petrosian yn chwarae mewn arddull ymosodol, aberthol. Yn ei ornest gyda Spassky ym 1966, enillodd Gêm 7 a Gêm 10 fel hyn. Dywedodd Boris Spassky: “Mae'n fantais mawr i Petrosian nad yw ei wrthwynebwyr yn gwybod pryd mae’n mynd i chwarae fel Mikhail Tal.” (Tal oedd ymosodwr mwyaf ei oes.) [38]

Nodyn:Chess diagram smallRoedd Petrosian yn arbenigo yn erbyn Amddiffyniad Indiaidd y Brenin, a chwaraeai'n aml yr hyn a elwir bellach yn System Petrosian: 1.d4 Nf6 2.c4 g6 3. Nc3 Bg7 4.e4 d6 5 . Nf3 0-0 6 . Be2 e5 7.d5. [39] [40] Mae'r amrywiad hwn yn cau'r canol yn gynnar yn y gêm. Un o'r syniadau tactegol i Gwyn yw chwarae Bg5, gan binio marchog Du wrth y frenhines. Gall Du ymateb naill ai trwy symud ei frenhines (fel arfer . . . Be8) neu drwy chwarae ...h6, er bod y symudiad olaf yn gwanhau strwythur gwerinol ochr y Brenin. [41] Datblygwyd dau o ymatebion Black i'r Amrywiad Petrosian gan yr Uwchfeistri Paul Keres a Leonid Stein. Mae Amrywiad Keres yn dod ar ôl 7. . . Nbd7 8. Bg5 h6 9 . Bh4 g5 10. Bg3 Nh5 11.h4, ac mae'r Amrywiad Stein yn dechrau ymosodiad ar ochr y frenhines ar unwaith gyda 7...a5. [42]

Ceir amrywiad a ddatblygwyd gan Petrosian yn yr Amddiffyniad Indiaidd y Frenhines: 1.d4 Nf6 2.c4 e6 3. Nf3 b6 4.a3, [43] gyda'r syniad o atal . . . Bb4+. Cafodd y system hon sylw ym 1980 pan gafodd ei defnyddio gan Garry Kasparov i drechu nifer o feistri. Heddiw mae'r Amrywiad Petrosian yn dal i gael ei ystyried fel yr amrywiad mwyaf ymosodol, gyda'r sgôr da mewn gemau rhwng Meistri. [44]

Gwelir amrywiadau Petrosian eraill yn Amddiffyniad Grunfeld ar ôl 1.d4 Nf6 2.c4 g6 3. Nc3 d5 4. Nf3 Bg7 5 . Bg5, [45] a'r Amddiffyniad Ffrengig ar ôl 1.e4 e6 2.d4 d5 3 . Nc3 Bb4 4.e5 Cd7. [46] Mae rhai yn cyfeirio at amrywiad o Amddiffyniad y Caro-Kann fel amrywiad Petrosian, neu â chyn-bencampwr y byd Vassily Smyslov : yr Amrywiad Petrosian-Smyslov, 1.e4 c6 2.d4 d5 3. Nc3 dxe4 4. Nxe4 Nd7. [47] <references group="" responsive="0">

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Parkinson, Joe (3 December 2012). "Winning Move: Chess Reigns as Kingly Pursuit in Armenia". The Wall Street Journal. Cyrchwyd 24 August 2013.
  2. "In Armenia chess is king and grandmasters are stars". The Independent. 13 May 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 September 2014.
  3. Vasiliev 1974, tt. 15–22.
  4. 4.0 4.1 4.2 Vasiliev 1974.
  5. Winter 1981.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 6.5 Schonberg 1973.
  7. Evans, Larry (9 July 1972). "Fischer on Russian Cheating". The Register-Guard.
  8. Schonberg 1973, tt. 246–47.
  9. Vasiliev 1974, tt. 11–13.
  10. "History of the World Chess Championship – Petrosian vs. Spassky 1966". chessgames.com.
  11. Yng Ngemau Pencampwriaeth y Byd 1951 a 1954, cadwodd Botvinnik ei deitl trwy orffen yn gyfartal gyda David Bronstein a Vasily Smyslov.
  12. CHESS Magazine – September 1984
  13. "Kasparov vs. Petrosian, Tilburg 1981". chessgames.com.
  14. "Пятницкая ул., 59". um.mos.ru (yn Rwseg). Discover Moscow. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 December 2019. В 1960-1970-е годы в доме жил чемпион мира по шахматам Тигран Петросян.
  15. "World Chess Champion Tigran Petrosyan would be 80". aysor.am. 17 June 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 December 2019.
  16. 16.0 16.1 16.2 "Приемный сын девятого шахматного короля тиграна петросяна: "папа совсем не хотел становиться чемпионом мира. Это его мама заставила"". Fakty (yn Rwseg). 13 August 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 December 2019. Unknown parameter |TransTitle= ignored (|trans-title= suggested) (help)
  17. Sosonko, Gennadi (2013). The World Champions I Knew. New In Chess. t. 235. ISBN 9789056914844.
  18. "ПЕТРОСЯН Рона Яковлевна (1925–2003)". moscow-tombs.ru (yn Rwseg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 December 2019.
  19. Schulz, Andre (11 May 2016). The Big Book of World Chess Championships: 46 Title Fights – from Steinitz to Carlsen. New In Chess. t. 218. ISBN 9789056916367.
  20. Kennedy, Rick. "Petrosian vs the Elite". Chesville. Cyrchwyd 8 October 2010.
  21. Petrosian & Sehtman 1989.
  22. Evans, Larry (21 June 1971). "Six moves toward a world championship". Sports Illustrated. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 September 2011. Cyrchwyd 8 October 2010.
  23. "Monument Tigran Petrosian". Armenian Travel Bureau. Cyrchwyd 24 June 2010.
  24. "Armenia new 1,000-, 2,000-, and 5,000-dram notes (B319 – B321) confirmed". Banknote News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-06-24. Cyrchwyd 2023-06-24.
  25. Petrosian, Tigran team chess records at olimpbase.org
  26. 26.0 26.1 26.2 26.3 Saidy 1972.
  27. Edmonds & Eidinow 2004.
  28. Barsky, Vladimir (15 May 2005). "Kramnik – Interviews". Kramnik.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-12. Cyrchwyd 8 April 2010.
  29. Saidy 1972, tt. 104–06.
  30. Tigran Vartanovich Petrosian on ChessGames.com
  31. Saidy 1972, tt. 106–08.
  32. Tigran Vartanovich Petrosian vs Mark Taimanov on ChessGames.com
  33. Clarke 1964.
  34. Lawson, Dominic (May 2009). "Armenian Artist". Standpoint. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 July 2011. Cyrchwyd 12 April 2010.
  35. Schonberg 1973, t. 243.
  36. Schonberg 1973, t. 245.
  37. Seirawan, Yasser (2005). Winning Chess Strategies. Microsoft Press. ISBN 978-1857443851.
  38. "Tigran Petrosian's Best Games". chessgames.com. Cyrchwyd 21 December 2013.
  39. King's Indian, Petrosian System on ChessGames.com
  40. King's Indian Defense, Petrosian Variation on Chess.com
  41. Gufeld & Schiller 2000, t. 140.
  42. Gufeld & Schiller 2000.
  43. Queen's Indian Defense, Petrosian Variation on Chess.com
  44. "E12: Queen's Indian defence – 1. d4 Nf6 2. c4 e6 3. Nf3 b6 – Chess Opening explorer". www.365chess.com.
  45. Gruenfeld Defense: Three Knights Variation, Petrosian System on Chess.com
  46. French Defense: Winawer Variation, Petrosian Variation on Chess.com
  47. Karpov & Beliavsky 1994, t. needed.