Thomas Wiliems

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Wiliems
DZcGoHTXUAAkrpX.jpg
Ganwyd 1545 Edit this on Wikidata
Trefriw Edit this on Wikidata
Bu farw 1622 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Offeiriad, geiriadurwr, Gwaith y meddyg Edit this on Wikidata

Geiriadurwr Cymraeg a hynafiaethydd brwd oedd Thomas Wiliems (1545 neu 1546 - 1622).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i magwyd ym mhlwyf Trefriw, Arllechwedd Isaf, Sir Gaernarfon, cyn mynychu Prifysgol Rhydychen am adeg. Fe'i ordeiniwyd yn offeiriad Anglicanaidd, gan wasanaethu fel curad yn Nhrefriw tua 1573.

Cyfeiriwyd ato gan ei gydoeswyr fel Syr Thomas Wiliems, nid am iddo gael ei ddyrchafu felly ond am fod offeiriaid y cyfnod yn arfer ymarddel y teitl hwn. Bu farw cyn 13 Awst 1623, pryd ysgrifennodd Syr John Wynn o Wydir ei enw ar lawysgrif y geiriadur (gweler isod) fel ei pherchennog.

Ysgolheictod[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymddiddorai Thomas Wiliems yn fawr mewn hen lawysgrifau Cymraeg. Bu'n gyfrifol am gopïo nifer fawr ohonynt, gan gynnwys achau, gweithiau hanesyddol, gramadegau a gweithiau ieithyddol eraill.

Mae'n fwyaf adnabyddus am lunio geiriadur Lladin–Cymraeg (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Peniarth 228), a gwplhawyd ym 1607, ac sy'n cynnwys rhestr o eiriau Cymraeg yn ôl trefn yr wyddor gydag enghreifftiau ohonynt o waith y beirdd. Teitl y geiriadur oedd Thesaurus Linguæ Latinæ et Cambrobritannicæ neu Trysawr yr iaith Latin ar Gymraec, ne’r Geiriadur cywoethocaf a helæthaf or wir dhiletiaith Vrytanæc, sef heniaith a chyphredin iaith ynys Brydain, ar Latin yn cyfateb pob gair. Wedy dechreu i scriuenu 4. Maij 1604. Seilir y geiriadur ar waith Thomas Thomas, printiwr cyntaf Prifysgol Caergrawnt, Dictionarium Linguae Latinae et Anglicanae, a dywed yn y rhagymadrodd iddo dreulio 30 o flynyddoedd i gaslgu'r deunydd. Ei nod wrth lunio'r geiriadur oedd 'i wneuthur yr eithaf o'm galhu dros vy ngwlat ag iaith naturiawl vy mam, a'm hanwylgu gereint yn holh Gymru' ac 'y gadw'r iaith einom … yn dragyvyth', ac mae'n beirniadu rhai o'i gydwladwyr am beidio â chynorthwyo ei waith ac am wrthod siarad Cymraeg wrth ei gilydd.[1]

Mae ychwanegiadau ganddo yn ei lawysgrifau yn awgrymu iddo fod wedi troi i Gatholigiaeth. Mae'n dyfynnu allan o weithiau Pabyddol wrth lunio ei eiriadur, heb ddefnyddio'r Beibl Protestannaidd Cymraeg. Ni chyhoeddwyd y geiriadur yn ystod ei oes, ond gwelodd olau dydd mewn ffurf dalfyredig fel rhan o eiriadur Dr John Davies o Fallwyd ym 1632:[1] cyhoeddodd y Davies dalfyriad o eiriadur Thomas Wiliems yn ail ran ei eiradur Cymraeg-Lladin yr Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex (1632).[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhagymadrodd Thomas Wiliems i'w eiriadur:

  • Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609, gol. T. H. Parry Williams (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1954).
  • Williams, J. E. Caerwyn. 'Thomas Wiliems, Y Geiriadurwr.' Studia Celtica 16/17 (1981/2): 280-316.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Rhyddiaith Gymraeg: Y gyfrol gyntaf, Detholion o Lawysgrifau 1488–1609, gol. T. H. Parry Williams (1954).
  2. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).