Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex
Enghraifft o'r canlynol | geiriadur |
---|
Geiriadur Cymraeg yw'r Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarum Duplex neu'r Dictionarum Duplex ("Y Geiriadur Dyblyg"), a luniwyd gan y Dr John Davies o Fallwyd ac a gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 1632. Lladin - iaith ysgolheictod rhyngwladol y Dadeni Dysg - yw iaith y llyfr ar wahân i eiriau ac ymadroddion Cymraeg enghreifftiol yn y testun.
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Prif ran y gyfrol yw geiriadur Cymraeg-Lladin John Davies ei hun. Yn yr ail ran ceir talfyriad y Dr Davies o eiriadur Lladin-Cymraeg yr ysgolhaig Thomas Wiliems o Drefriw sy'n seiliedig ar eiriadur llawysgrif Thomas Wiliems Thesaurus Linguæ Latinæ et Cambrobritannicæ (sydd ar gael yn Adran Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru erbyn hyn).[1] Seilir geiriadur Wiliems yn ei dro ar waith Thomas Thomas, printiwr cyntaf Prifysgol Caergrawnt, Dictionarium Linguae Latinae et Anglicanae.
Ar ddiwedd y llyfr ceir casgliad o ddiharebion Cymraeg a gasglwyd gan y Dr Davies ei hun.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Testun
- John Davies, Antiquae Linguae Britannicae ... Dictionarium Duplex (Llundain: Robert Young, 1632)[2]
- Adargraffiad ffacsimili (Menston Scolar Press, 1968)
Ceir cyfieithiad Cymraeg o'r rhagymadrodd Lladin yn,
- Ceri Davies, Rhagymadroddion a Chyflwyniadau Lladin, 1551-1632 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1980), pennawd X
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta (1621)
- Rhestr geiriaduron Cymraeg
- Rhestr gramadegau ac adnoddau ieithyddol Cymraeg