Thomas Jones (Y Bardd Cloff)

Oddi ar Wicipedia
Thomas Jones
FfugenwBardd Cloff, Y Bardd Cloff Edit this on Wikidata
Ganwyd15 Mai 1768 Edit this on Wikidata
Llandysilio-yn-Iâl Edit this on Wikidata
Bu farw19 Chwefror 1828 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Roedd Thomas Jones (Y Bardd Cloff) (15 Mai, 176819 Chwefror, 1828) yn fardd Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Y Bardd Cloff yn Llandysilio-yn-lâl [2], Sir Ddinbych yn blentyn i John Jones ac Elizabeth ei wraig.[3]. Yn ystod ei blentyndod cynnar ddioddefodd damwain a adawodd yn gloff ac a rhoddodd ei enw barddol iddo yn ddiweddarach yn ei fywyd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn bymtheg oed symudodd i Lundain i weithio fel cyfrifydd i Mathew Davies, gwneuthurwr coetsis yn 90 Long Acre, Llundain. Cafodd holl ofal masnach swyddfa Mathew Davies ym 1803 ac erbyn 1813 roedd wedi dod yn bartner yn y gwaith.[1]

Bardd[golygu | golygu cod]

Am gyfnod hir bu cysylltiad agos rhwng Jones a Chymdeithas Gwyneddigion Llundain. Etholwyd ef yn aelod yn 1789; gweithredodd fel ysgrifennydd y gymdeithas ym 1790 a 1791 a bu'n llywydd am dri thymor, yr achlysur olaf ym 1821. Roedd yn gyfeillgar iawn â John Jones, (Jac Glan-y-gors), Siôn Ceiriog ac Edward Charles (Siamas Gwynedd),[4] a chanodd gywydd iddynt hwy ac eraill wedi i Siamas ddyfod yn rhydd o garchar lle bu yn hir am ddyled Cywydd a ddanfonodd y bardd o garchar lle y bu yn hir am ddyled.[5]

Canodd awdl i ddathlu pen-blwydd y Gwyneddigion ym 1799, a gyhoeddwyd yn Gymraeg a Saesneg, ac Awdl ar Ddydd Gŵyl Dewi Sant ar ei chyfer ym 1802. Ar adeg dathlu jiwbilî'r Gwyneddigion, anrhegwyd Y Bardd Cloff â bathodyn arian y gymdeithas. Enillodd Jones sawl gwobr yn yr eisteddfodau hefyd.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn gartref 90 Long Acre, Llundain, yn 59 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Martin-in-the-Fields. Canwyd marwnad iddo gan Robert Davies (Bardd Nantglyn) a wobrwywyd gyda medal arian gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "JONES, THOMAS ('Y Bardd Cloff'; 1768 - 1828), bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-25.
  2. 2.0 2.1 "Jones, Thomas [pseud. Bardd Cloff] (1768–1828), Welsh-language poet". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/15094. Cyrchwyd 2020-03-25.
  3. Gwasanaethau Archifau Cymru; Cofrestr Blwyf Llandysilio-yn-lâl Cofrestr 1759 - 1782; bedyddiadau 1768
  4. Y Llenor Cyf. 10, Rh. 1-4, 1931 Edward Charles (Siamas Gwynedd) adalwyd 25 Mawrth 2020
  5. Y Mynegai i Farddoniaeth Gymraeg y Llawysgrifau adalwyd 25 Chwefror 2020