Theorem Olaf Fermat

Oddi ar Wicipedia
Theorem Olaf Fermat
Enghraifft o'r canlynoltheorem Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1637 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhifyn 1670 edition o Arithmetica gan Diophantus, sy'n cynnwys includes testun gan Fermat a adnabyddir heddiw fel 'Theorem Olaf Fermat' (Observatio Domini Petri de Fermat).

Mewn theori rhif, dywed Theorem Olaf Fermat na all unrhyw dri cyfanrif positif a, b, ac c fyth fodloni yr hafaliad an + bn = cn ar gyfer unrhyw werth y cyfanrif n sy'n fwy na 2. Mae gan n = 1 a n = 2 nifer anfeidraidd o ddatrusiadau ac atebion, ac fe wyddys hynny ers dros dwy fil o flynyddoedd.[1]

Cyflwynwyd y theorem am y tro cyntaf gan Pierre de Fermat yn 1637, ar ymyl copi o Arithmetica a oedd yn ei feddiant. Yno, mewn nodiadau, mynnodd fod ganddo brawf a oedd yn rhy hir i'w gynnwys ar ymyl y ddalen. Cyhoeddwyd Prawf Wiles o Theorem Olaf Fermat yn 1994 gan Andrew Wiles, a'i gyhoeddi'n ffurfiol yn 1995, wedi 258 mlynedd o waith caled gan nifer o fathemategwyr. Disgrifiwyd y prawf hwn fel 'datblygiad aruthrol' pan gyflwynwyd Gwobr Nobel i Wiles yn 2016.[2]

Pythagoras[golygu | golygu cod]

Mae gan yr hafaliad Pythagoraidd x2 + y2 = z2 nifer anfeidraidd o gyfanrifau positif ar gyfer x, y, a z; gelwir y datrusiadau hyn yn "driawdau Pythagoraidd" (neu "driongl Pythagoras"). Tua 1637 sgwennodd Fermat nad oedd gan yr hafaliad mwy cyffredinol an + bn = cn ddim un datrusiad mewn cyfanrifau positif, pan fo n yn gyfanrif sy'n fwy na 2. Er iddo hawlio fod ganddo brawf cyffredinol, nid adawodd unrhyw dystiolaeth o hynny. 30 mlynedd wedi ei farwolaeth y daeth hyn yn wybyddus i'r byd mathemategol, a galwyd y broblem yn "Theorem Olaf Fermat".

Datganiadau[golygu | golygu cod]

Ceir sawl datganiad gwahanol o'r theorem, sy'n hafal i'r datganiad gwreiddiol.

Er mwyn eu nodi, byddwn yn defnyddio'r nodiant mathemategol: boed N yn set o rifau naturiol 1, 2, 3, ...; boed Z yn set o gyfanrifau 0, ±1, ±2, ..., a boed Q yn set o rifau cymarebol a/b lle mae a a b yn Z gyda b≠0.

Yn y canlynol, bydd y datrusiad i xn + yn = zn lle mae un neu ragor o x, y, neu z yn sero yn cael ei alw'n "ddatrysiad distadl". Bydd datrusiad lle mae pob un o'r tri yn 'ddi-sero' yn cael ei alw'n "ddatrusiad annistadl".

  • Y datganiad gwreiddiol. Gyda n, x, y, zN (h.y. mae n, x, y, z i gyd yn gyfanrifau positif) a n > 2 nid oes gan yr hafaliad xn + yn = zn unrhyw ddatrusiad.

Mae bron pob llawlyfr poblogaidd ar y pwnc yn ei osod fel hyn, eithr mae pob llawlyfr arbenigol, mathemategol yn ei ddatgan dro Z:

  • Datganiad hafal 1: nid oes gan xn + yn = zn, lle mae'r cyfanrif n ≥ 3, ddatrusiad annistadl x, y, zZ.
  • Datganiad hafal 2: xn + yn = zn, lle nad oes gan y cyfanrif n ≥ 3, unrhyw ddatrysiad annistadl x, y, zQ.
  • Datganiad hafal 3: xn + yn = 1, lle nad oes gan y cyfanrif n ≥ 3, unrhyw ddatrysiad annistadl x, yQ.
  • Datganiad hafal 4: (y cysylltiad i'r gromlin eliptig): Os yw a, b, c yn ddatrysiad annistadl i'r eilrif cysefin xp + yp = zp , p, yna bydd y2 = x(xap)(x + bp) ('cromlin Frey') yn gromlin eliptig.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Singh, pp. 18–20.
  2. "Abel prize 2016 – full citation". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-20. Cyrchwyd 2019-01-12.
  3. Wiles, Andrew (1995). "Modular elliptic curves and Fermat's Last Theorem". Annals of Mathematics 141 (3): 448. doi:10.2307/2118559. JSTOR 2118559. OCLC 37032255. http://math.stanford.edu/~lekheng/flt/wiles.pdf. Adalwyd 2019-01-12.