The Man in the High Castle (cyfres deledu 2015)

Oddi ar Wicipedia
The Man in the High Castle
Genre Hanes amgen
Ffuglen wyddonol
Drama gyffrous
Crëwyd gan Frank Spotnitz
Serennu Alexa Davalos
Rupert Evans
Luke Kleintank
DJ Qualls
Joel de la Fuente
Cary-Hiroyuki Tagawa
Rufus Sewell
Thema'r dechrau "Edelweiss", perfformiwyd gan Jeanette Olsson
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 4
Nifer penodau 40
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 48 - 60 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol Amazon Video
Rhediad cyntaf yn 15 Ionawr, 2015 - presennol

Mae The Man in the High Castle yn gyfres deledu hanes amgen Americanaidd a gynhyrchwyd gan Amazon Studios, Scott Free, Headline Pictures, Electric Shepherd Productions a Big Light Productions.[1] Seilir y gyfres ar y nofel 1962 o'r un enw gan yr awdur ffuglen wyddonol Philip K. Dick. Hanes amgen y byd yw'r stori sy'n dangos buddugoliaeth Axis yn yr Ail Ryfel Byd. Mae Unol Daleithiau America wedi cael eu rhannu'n dair rhan: Taleithiau Tawel America, gwladwriaeth byped Siapanaidd sy'n cynnwys y cyn-Unol Daleithiau i'r gorllewin o'r Mynyddoedd Creigiog; y Reich Natsiaidd Fwyaf, gwladwriaeth byped Natsiaidd yn hanner dwyreiniol y cyn-Unol Daleithiau; a pharth niwtral sy'n gyfryngwr rhwng y ddwy ardal, o'r enw Taleithiau'r Mynyddoedd Creigiog.

Ymddangosodd y peilot gyntaf ar 15 Ionawr, 2015 gyda'r nifer mwyaf o wylwyr ar gyfer unrhyw gyfres wreiddiol Amazon.[2] Ar 18 Chwefror, 2015 comisiynwyd cyfres llawn ddeg-pennod.[3] Rhyddhawyd y naw pennodd arall ar 20 Tachwedd, 2015.[4][5] Rhyddheir ail gyfres gyda deg pennod yn 2016.[6]

Synopsis Cyfres Un[golygu | golygu cod]

Y prif gymeriadau yw Juliana Crain, Frank Frink, Joe Blake, John Smith a Nobusuke Tagomi. Lleolir y gyfres mewn fersiwn amgen o'r flwyddyn 1962.

Rhennir UDA yn 3 rhan: Taleithiau Môr Tawel Siapan yn y gorllewin, Reich Fawr Naziaidd yn y dwyrain a'r Tir Niwtral yn y canol, fel gwelir yn y credits agoriadol.[7]
Baner Reich Fawr Naziaidd yn America
Baner Taleithiau Môr Tawel Siapan

Mae Juliana Crain yn byw yn San Franciso ac yn dod i ymhel gyda gwrth-ryfelwyr pan caiff ei hanner chwaer, Trudy, ei lladd gan heddlu cudd Siapaneaidd, y Kempeitai, yn fuan wedi iddi roi casyn o ffilm sy'n dangos clip ffilm newyddion sy'n dangos hanes amgen lle mae'r Cynghreiriaid wedi ennill yr Ail Ryfel Byd a Siapan a'r Almaen wedi colli. Teitl y ffilm yw, The Grasshopper Lies Heavy, ac mae'n rhan o gyfres o glipiau ffilm 'newsreel' eraill a gesglir gan berson a adnabir fel, "The Man in the High Castle". Cred Juliana bod y ffilm newyddion yn adlewyrchu rhyw fath o realiti amgen sydd yn rhan o wirionedd fwy am y ffordd dyliau'r byd fod. Cred ei chariad, Frank Frink, (Iddew sy'n cadw ei hunaniaeth yn dawel er mwyn osgoi cael ei estraddodi a'i ladd gan y Naziaid) nad oes gan y ffilm unrhyw gyswllt gyda digwyddiadau go iawn. Dysga Juliana bod Trudy yn cludo'r ffilm i Canon City, Colorado, yn y Tir Niwtral, lle roedd hi wedi trefnu i gwrdd gyda rhywun. Penderfyna Juliana deithio yno yn lle Trudy er mwyn darganfod beth oedd gorchwyl ei hanner chwaer. Pan ddaw hi i Canon City, mae'n dod ar draws Joe Blake.

Mae Blake yn ddyn 27-year-old o Efrog Newydd sy'n asiant ddwbwl yn gweithio ar ran y Natsiaid o dan Obergruppenführer John Smith. Mae'n esgus bod yn aelod o'r gwrth-ryfelwyr er mwyn dod o hyd i gyswllt y gwrth-ryfelwyr yn Canon City, sef, yn yr achos hwn, Juliana, sydd yno yn lle Trudy.

Mae Nobusuke Tagomi yn uwch-swyddog yn Ymerodraeth Siapan yn San Francisco. Mae'n cwrdd gyda'r swyddog Naziaidd Rudolph Wegener, yn y dirgel. Mae Wegener yn teithio o dan ffug-enw dyn busnes o Sweden, o'r enw Victore Baynes. Mae Tagomi a Wegener, ill dau, yn bryderus am y gwagle pŵer bydd yn cael ei chreu unwaith bydd Adolf Hitler, y Führer ac arweinydd y Reich, yn marw neu'n cael ei orfodi i ymddeol oherwydd bod ei glefyd Parkinson's yn gwaethygu. Mae Siapan a'r Reich ar hyn o'r bryd mewn rhyw fath o Ryfel Oer sy'n llawn tensiwn ond heb ymladd agored ond gyda'r Reich yn arwain Siapan yn dechnolegol. Esbonia Wegener bydd olynydd Hitler am ddefnyddio bomiau atomig y Reich yn erbyn Siapan er mwyn cael gafael ar weddill y cyn Unol Daleithiau.

Yn y pen draw, caiff Frank Frink ei arestio pan ddaw'r Siapaneaid a'r Naziaid yn ddrwgdybus o weithredoedd Juliana. Mae'n gwrthod ei bradychu, gan arwain i'r Siapaneaid ladd chwaer Fink a'i dau blentyn gan ei bod yn Iddewon. Arweinia hyn ar i Fink benderfynu lofruddio Tywysog Coronog Siapan a'i Dywysoges wrth iddynt ymweld ag America. Ond mae'n penderfynu peidio gwneud ar y funud olaf.

Cast Cyfres 1, 2015[golygu | golygu cod]

Prif[golygu | golygu cod]

  • Alexa Davalos fel Juliana Crain
  • Rupert Evans fel Frank Frink
  • Luke Kleintank fel Joe Blake
  • DJ Qualls fel Ed McCarthy
  • Cary-Hiroyuki Tagawa fel Nobusuke Tagomi
  • Rufus Sewell fel John Smith
  • Joel de la Fuente fel y Prif Arolygwr Kido

Cylchol[golygu | golygu cod]

  • Carsten Norgaard fel Rudolph Wegener
  • Rick Worthy fel Lemuel "Lem" Washington
  • Camille Sullivan fel Karen, arweinydd y Fyddin Gêl yng nghangen y Taleithiau Tawel.
  • Lee Shorten fel Sarjant Yoshida, cymhorthiad i'r Arolygwr Kido.
  • Arnold Chun fel Kotomichi, cynorthwy-ydd Tagomi.
  • Chelah Horsdal fel Helen Smith, gwraig Obergruppenführer Smith.
  • Quinn Lord fel Thomas Smith, mab Obergruppenführer Smith, plentyn hynaf y teulu.
  • Gracyn Shinyei fel Amy Smith, merch hynaf Obergruppenführer Smith.
  • Genea Charpentier fel Jennifer Smith, merch ieuengaf Obergruppenführer Smith.
  • Daniel Roebuck fel Arnold Walker, llystad Juliana a thad Trudy.
  • Macall Gordon fel Anne Craine Walker, mam Julianna sy'n dal yn chwerw am golli ei gŵr yn yr Ail Ryfel Byd.
  • Conor Leslie fel Trudy Walker, hanner chwaer Juliana. Lladdwyd gan y Kempeitai ar ôl rhoi rîl ffilm i Juliana.
  • Hank Harris fel Randall Becker, aelod y Fyddin Gêl yng nghangen y Taleithiau Tawel.
  • Christine Chatelain fel Laura Crothers, chwaer Frank.
  • Darren Dolynski fel Bill Crothers, gŵr Laura.
  • Callum Seagram Airlie fel John Crothers, mab Laura.
  • Carmen Mikkelsen fel Emily Crothers, merch Laura.
  • Allan Havey fel y Dyn Origami, ysbiwr Natsiaidd a anfonodd i Ddinas Canon i ddileu aelodau'r Fyddin Gêl.
  • Burn Gorman fel y Marsial, heliwr haelioni yn chwilio am ddihangwyr y gwersylloedd crynhoi.
  • Shaun Ross fel y Bachgen Sgleinio Esgidiau, dyn ifanc albinaidd sy'n byw yn Ninas Canon.
  • Rob LaBelle fel Carl, clerc siop lyfrau yn Ninas Canon. Fe'i amlygir fel dihangwr gwersyll crynhoi o'r enw David P. Frees.
  • Geoffrey Blake fel Jason Meyer, aelod Semitaidd y Fyddin Gêl.
  • Brennan Brown fel Robert Childan, perchennog siop hen bethau sy'n gwneud deliau cudd gyda Frank.
  • Louis Ozawa Changchien fel Paul Kasoura, cyfreithiwr cyfoethog sy'n casglu memorabilia Americanaidd cyn y rhyfel.
  • Tao Okamoto fel Betty, gwraig Paul.
  • Amy Okuda fel Christine Tanaka, merch sy'n gweithio mewn swyddfa yn adeilad Nippon.
  • Hiro Kanagawa fel Taishi Okamura, arweinydd Yakuza yn y Taleithiau Tawel.

Ffigurau Hanesyddol[golygu | golygu cod]

  • Ray Proscia fel SS-Oberst-Gruppenführer Reinhard Heydrich.
  • Daisuke Tsuji fel Brenin y Goron Siapan (efallai Akihito yn y 1962 amgen)
  • Mayumi Yoshida fel Tywysoges y Goron Siapan (efallai Michiko yn y 1962 amgen)
  • Wolf Muser fel Adolf Hitler.

Cyfres 2, 2016[golygu | golygu cod]

Dechreuwyd darlledi dilyniant i'r gyfres gyntaf ar Amazon ar 16 Rhagfyr 2016.

Mae'n dilyn o ddiwedd y gyfres gyntaf gyda Juliana yn cwrdd gyda'r 'Man in the High Castle' ac yn cael rhagflas o'r dyfodol posib. Mae'r heddwas cudd, Joe Blake, wedi suro tuag at polisiau'r Natsiaid, ac er ei fod yn cwrdd gyda'i dad ym Merlin, yn ymddangos i ddewis dilyn llwybr newydd yn ei fywyd gan wrthod gweithio i'r Natsiaid.

Mae Frank Fink yn achub bywyd ei ffrind di-niwed, Ed McCarthy, ac yn y broses yn rhoi ei hun i weithredu'n llawn gyda'r Fyddin Gêl gwrth Siapaneaidd.

Mae'r tensiwn rhwng y Siapaneaidd a'r Naziaid yn parhau gyda'r Siapaneaid yn ceisio datblygu bom niwclear er mwyn gwrth-sefyll, ac o bosib, ymosod ar y Reich cyn iddynt hwythau ymosd ar Ymerodraeth Siapan.

Cyfres 3, 2018[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd Cyfres 3 o'r Man in the High Castle ar wasanaeth ffrydio/teledu Amazon Prime ar 5 Hydref 2018.[8] Mae'r brif gymeriad, Juliana, yn darganfod nad yw ei chwaer wedi marw ac yn parhau i ddarganfod ei thynged ac ymladdd dros gymod rhwng Siapan a'r Reich ac dros ryddid o'r ddau bwer mawr. Mae Joe, wedi ei garcharu a bod ar gwrs 'cywiro' i fod yn Nazi llawn ... neu, a yw'r 'driniaeth' wedi gweithio.[9]

Mae wedi ei gadarnhau gan Amazon y bydd 4ydd cyfres maes o law.[10]

Penodau[golygu | golygu cod]

Pennod 21 - "Now More Than Ever, We Care About You"
Pennod 22 - "Imagine Manchuria"
Pennod 23 - "Sensô Kôi"
Pennod 24 - "Sabra"
Pennod 25 - "The New Colossus"
Pennod 26 - "History Ends"
Pennod 28 - "Excess Animus"
Pennod 29 - "Kasumi (Through the Mists)"
Pennod 20 - "Baku"
Pennod 31 - "Jahr Null"

Dolenni[golygu | golygu cod]

Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "TV Review: The Man in the High Castle". Variety. Cyrchwyd 18 Tachwedd, 2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. "The Man in the High Castle". Internet Movie Database. Cyrchwyd 18 Ionawr, 2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  3. Tartaglione, Nancy. "Amazon orders 5 original series including Man in the High Castle, Mad Dogs". Deadline.com. Cyrchwyd 18 Ionawr, 2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  4. Spotnitz, Frank. "Frank Sponitz on Twitter". Twitter. Cyrchwyd 17 August 2015.
  5. Fienberg, Daniel. "Daniel Fienberg on Twitter". Twitter. Cyrchwyd 17 Awst, 2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  6. Tartaglione, Nancy. "The Man in the High Castle Season 2 announced". Slashfilm. Cyrchwyd 18 Rhagfyr, 2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  7. "map (stylized)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-21. Cyrchwyd 2016-12-18.
  8. https://www.youtube.com/watch?v=mB8f94E2Oxc
  9. https://www.empireonline.com/tv/man-high-castle-season-3/
  10. https://www.nme.com/news/tv/man-high-castle-season-3-trailer-release-date-revealed-2358169