Alexa Davalos

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Alexa Davalos
Alexa Davalos by David Shankbone cropped.jpg
Ganwyd28 Mai, 1982
Paris, Ffrainc
Enwau eraillAlexa Davalos Dunas
Yn enwog amThe Man in the High Castle
GalwedigaethActores

Mae Alexa Davalos (ganed 28 Mai, 1982) yn actores Americanaidd. Daeth yn amlwg am ei rhan fel Gwen Raiden ym mhedwaredd gyfres y rhaglen deledu Angel (2002-03). Mae wedi mynd ymlaen i ymddangos mewn nifer o ffilmiau Hollywood gan gynnwys The Chronicles of Riddick (2004), Feast of Love (2007), The Mist (2007), Defiance (2008) a Clash of the Titans (2010). Mae hefyd wedi ymddangos yn y gyfres deledu Reunion (2005-06) ac yn Mob City Frank Darabont (2013). Ar hyn o bryd, mae'n serennu fel Juliana Crain, y prif gymeriad yng nghyfres Amazon Studios The Man in the High Castle (2015).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Davalos, yn unig blentyn, yn Alexa Davalos Dunas yn Ffrainc, i rieni Americanaidd, yr actores Elyssa Davalos a'r ffotograffydd Jeff Dunas. Ei thad-cu ar ochr ei mam yw'r actor Richard Davalos. Treuliodd Davalos y rhan fwyaf o'i phlentyndod yn Ffrainc a'r Eidal, cyn iddi ymgartrefu yn Efrog Newydd.[1] "Rwy'n debygol o regi yn amlach yn Ffrangeg na'r Saesneg," meddai. Mae teulu ei thad yn Iddewig (bu hynafiaid ar ochr ei thad yn byw yn Vilnius yn Lithwania).[2] Fe'i magwyd "heb lawer o grefydd", er mynychodd ysgol Hebraeg am gyfnod.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]