Kempeitai

Oddi ar Wicipedia
Aelodau Cempeitai ar drên (1935)

Heddlu milwrol Byddin Ymerodraeth Japan rhwng 1881 - 1945 oedd y Kempeitai (憲兵隊 Kenpeitai, "Cempeitai" mewn sillafiad Cymraeg, sef "Corfflu Heddlu Milwrol"). Nid heddlu milwrol gonfensiynol ydoedd ond yn hytrach corff tebycach i heddlu cudd.

Er bod y Cempeitai yn rhan o Fyddin Ymerodraeth Japan, roedd hefyd yn gyfrifol am y Llynges Ymerodraethol o dan cyfarwyddyd Gweinidog y Llynges, yr heddlu o dan cyfarwyddyd y Gweinidog Cartref a heddlu barwniaethol o dan y Gweinidog dros Cyfiawnder. Roedd gan y Llynges hefyd ei chorfflu llai ei hun, y Tokkeitai. Yr enw ar aelod unigol o'r Cempeitai yw cempei (kempei).

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y Cempeitai yn 1881 o dan ddeddf Ordnans Cempei (憲兵条例), yn benodol "erthyglau'n ymnweud â heddlu arfog (gendarmes)". Ei model oedd Gendarmerie Ffrainc. Nodwyd manylion a rheolau milwrol, deddfwrol a chyfreithiol y corfflu gan y Cempei Rei, 1898. Addaswyd hwn 26 gwaith cyn i'r corfflu gael ei ddileu yn dilyn cwymp Japan yn yr Ail Ryfel Byd yn 1945.

Yn 1907, danfonwyd y Cempeitai i Corea ar orchymyn y Cyfrin Gyngor, gorchymyn Rhif 323. Nodwyd mai ei phrif ddyletswydd fyddai "Cadw heddwch (Byddin Japan)" er iddi weithredu fel heddlu milwrol i Fyddin Japan oedd yn y wlad. Parhaodd ei dyletswyddau'n ddi-newid i bob pwrpas pan goncrwyd Corea gan ddod dan reolaeth Japan yn 1910.

Cadwodd y Cempeitai gyfraith a threfn o fewn Japan dan gyfarwyddyd Gweinidog Cartref y wlad ac yn y tiroedd a goncwerwyd o dan gyfarwyddyd Gweinidog Amddiffyn Japan a'r Gweinidog Rhyfel. Roedd gan Japan hefyd ei heddlu cudd sifil, Tokko, sydd'n acronym Japaneeg am Tokubetsu Kōtō Keisatsu ("Uwch Heddlu Arbennig") oedd yn rhan o'r Weinyddiaeth Catref.

Roedd mileinrwydd y Cempeitai yn nodedig yng Nghorea a'r tiroedd a feddianwyd gan Japan. Roedd casineb tuag at y corfflu o fewn Japan hefyd, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan defnyddiwyd y corfflu i sicrhau bod y cyhoedd yn sefyll yn gefnogol at y Rhyfel.

Credir bod gan y Cempeitai oddeutu 36,000 o aelodau ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ond nid yw hyn yn ystyried nifer o aelodau o gefndiroedd ethnic eraill oedd hefyd yn aelodau ategol (auxilaries). Wrth i Ymerodraeth Japan ymestyn yn ystod y 1930au a'r 40au cynnar, recriwtiwyd nifer o bobl leol i'r corfflu. Recriwtiwyd yn Taiwan, Corea yn niferus fel awcsiliriaid yn y tiroedd newydd a goncrwyd gan Japan yn Ne Ddwyrain Asia. Recriwtiwyd hefyd drigolion yn Indo-Tsieina Ffrengig (yn enwedig ymysg sect y Caodai (Cao Dai), y Malaiaid ac eraill. Mae'n ddigon tebyg mai'r Cempeitai a hyfforddodd y Trình Minh Thế, a ddaeth maes o law yn un o arweinwyr milwrol gwrthryfelwyr Fietnam yn erbyn Ffrainc.

Diarfogwyd y Cemeitai a'u dileu wedi i Japan ildio yn Awst 1945.

Erbyn heddiw, enw heddlu mewnol Lluoedd Amddiffyn Japan yw Keimutai.

Gwasanaethau Cudd Japan a Phŵerau'r Axis[golygu | golygu cod]

Yn yr 1920au a 1930au, ffurfiodd y Cempeitai gyswllt gyda nifer arbennig o wasanaethau cudd Ewrop. Yn hwyrach, wedi i Japan arwyddo'r Cytuneb Triphlyg gyda'r Almaen Natsiaid a'r Eidal Ffasgaidd, crewyd cysylltiadau ffurfiol gyda'r Abwehr Naziaidd a'r Servizio Informazioni Militari Ffasgaidd.

Yn ôl y dealltwriaeth yma byddai Byddin a Llynges Siapan yn cysylltu gyda'r lluoedd cyfochrog Wehrmacht, SS neu Kriegsmarine yn ymwneud ag unrhyww wybodaeth am Ewrop neu vice versa. Gwelwyd budd i'r cydweithio yma pan ddanfonodd Japan wybodaeth ar luoedd yr Undeb Sofietaidd yn y Dwyrain Pell ac yn ystod Cyrch Barbarossa gan Lysgenhadaeth Japan i'r Almaen a pan bud i Admiral Canaris gynnig cymorth i Japan ar gwestiwn niwtraliaeth tiriogaeth Portiwgal, Timor. Rhannwyd hefyd gwybodaeth technegol ar gyfer lluoedd llongau tanfor y tair gwlad.

Kempeitai mewn Ffuglen[golygu | golygu cod]

Ceir cyfeiriad i'r Campeitai yn y nofel distopiaidd Philip K. Dick a'r gyfres deledu, The Man in the High Castle. Yn y llyfr mae swyddog o'r Cempeitai yn gyfrifol am gadw trefn ar Daleithiau Môr Tawel Siapa, sef taleithiau gorllewinnol UDA. Mae'r taleithiau wedi eu meddiannu gan Ymerodraeth Siapan mewn diweddglo wahanol i'r Ail Ryfel Byd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]