Tennessee Williams

Oddi ar Wicipedia
Tennessee Williams
GanwydThomas Lanier Williams Edit this on Wikidata
26 Mawrth 1911 Edit this on Wikidata
Columbus, Mississippi Edit this on Wikidata
Bu farw25 Chwefror 1983 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylClarksdale, Mississippi, Columbus, Mississippi, Mississippi, New Orleans, St. Louis, Missouri Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Iowa
  • Prifysgol Washington yn St. Louis
  • Prifysgol Missouri
  • Prifysgol The New School, Manhattan
  • University City High School
  • Soldan International Studies High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, nofelydd, sgriptiwr, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol The New School, Manhattan Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPethe Brau, A Streetcar Named Desire, The Rose Tattoo, Cat on a Hot Tin Roof Edit this on Wikidata
Arddulldrama llafar Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAnton Chekhov, August Strindberg, D. H. Lawrence, Hart Crane Edit this on Wikidata
TadCornelius Coffin Williams Edit this on Wikidata
MamEdwina Estelle Dakin Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Pulitzer am Ddrama, Tony Award for Best Play, Gwobr Pulitzer am Ddrama, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Anrhydedd y Kennedy Center, Hall of Fame Artistiaid Florida, Medal Rhyddid yr Arlywydd Edit this on Wikidata
llofnod

Dramodydd Americanaidd o dras Cymreig oedd Thomas Lanier Williams (26 Mawrth 191125 Chwefror 1983) a enillodd lawer iawn o wobrau uchaf am ei ddramâu. Newidiodd ei enw i "Tennessee", sef talaith enedigol ei dad yn 1939.

Enillodd Wobr Pulitzer am A Streetcar Named Desire yn 1948 ac am ei ddrama Cat on a Hot Tin Roof yn 1955. Enillodd The Glass Menagerie (1945) a The Night of the Iguana (1961) Wobr "New York Drama Critics' Circle]". Enillodd ei drama The Rose Tattoo Wobr Tony (Tony Award) am y ddrama gorau, yn 1952.

Plentyndod ac addysg[golygu | golygu cod]

Nid yn Nhennessee ond yn Columbus, Mississippi, y'i ganwyd, a hynny ar 26 Mawrth, 1911 yn nhŷ ei daid a oedd yn werthwr teithiol. Daeth ei enw canol, Lanier o Virginia. Yn bump oed roedd yn sal iawn efo diphtheria. Roedd rhaid iddo aros yn ei wely am ddwy flynedd - ac yna y dechreuodd ddarllen o ddifri dan ddylanwad ei fam. Cornelius Williams oedd ei dad ac efallai oherwydd salwch ei fab cafodd Tennessee fawr o sylw ganddo; rhoddodd fwy o sylw i Dakin, brawd Williams.

Mam ddominyddol go iawn - fel ambell un o'i gymeriadau - oedd ei fam, Edwina Dakin Williams - ac roedd gan mwy nag un aelod o'r teulu broblemau meddyliol. Aeth i Brifysgol Missouri yn y tridegau lle bathwyd yr enw "Tennessee" gan y myfyrwyr eraill; mae stori arall amdano yn adrodd hanes y teulu yn ymladd yn erbyn brodorion Tennessee. Wedi iddo farw aeth ei holl arian i brifysgol yn Nhennessee. Erbyn diwedd y tridegau graddiodd ef o Brifysgol Iowa (ym 1938). Ei ddrama gynharaf oedd 'Cairo, Shanghai, Bombay!' a gynhyrchwyd yn 1935 ym Memphis, Tennessee.

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod]

Roedd Williams yn byw o 1939 yn y French Quarter, New Orleans, Louisiana. Yma yr ysgrifennodd ef ei ddramâu enwog The Glass Menagerie (1944), cyfieithiad Cymraeg Pethau Brau (1992) ac A Streetcar Named Desire (1947) a gyfieithwyd i'r Gymraeg dan yr enw Cab Chwant (1995) - y ddau drosiad gan Emyr Edwards. Symudodd wedyn i Key West, Florida, efo'i bartner oes, Frank Merlo, (bu farw ym 1963 o gancr yr ysgyfaint) roedd y berthynas rhyngddynt yn help mawr iddo oroesi cyfnodau o iselder. Ni chafodd gymaint o lwyddiant wedi marwolaeth ei gymar oes ym 1963 - ond ym mis Medi 2006 cynhyrchwyd ei ddrama 'heb ei gyhoeddi' The Parade, or Approaching the End of Summer, sy'n fath o hunangofiant. Cyhoeddwyd ei ddrama olaf A House Not Meant to Stand yn 2008. Roedd yn awdur straeon byrion cyn troi at ddrama. Ysgrifennodd hefyd tua 70 a ddramâu un act.

Erbyn heddiw - oherwydd enwogrwydd Tennessee Williams - mae Key West yn un o brif gymunedau hoyw yr Unol Daleithiau. Roedd ei chwaer Rose yn scitsoffrenaidd a dreuliodd ei bywyd mewn ysbytai - ac wedi iddi ddioddef lobotimi gwylltiodd Tennessee efo ei deulu. Roedd Williams ei hun yn gaeth i alcohol, amphetaminau a barbitiwradau. Bu farw dan eu dylanwad ym 1983.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Dramâu[golygu | golygu cod]

  • 1938 Not About Nightingales
  • 1944 The Glass Menagerie
  • 1947 A Streetcar Named Desire (a enillodd Wobr Pulitzer)
  • 1948 Summer and Smoke
  • 1951 The Rose Tattoo (Rhith y Rhosyn; Gwobr Tony)
  • 1953 Camino Real
  • 1955 Cat on a Hot Tin Roof (ei ail Wobr Pulitzer)
  • 1957 Orpheus Descending
  • 1957 And Tell Sad Stories of the Deaths of Queens
  • 1958 Something Unspoken"
  • 1958 Suddenly, Last Summer
  • 1959 Sweet Bird of Youth
  • 1960 Period of Adjustment
  • 1961 Night of the Iguana
  • 1962 The Eccentricities of a Nightingale (ailwampiad o Summer and Smoke)
  • 1963 The Milk Train Doesn't Stop Here Anymore
  • 1966 The Mutilated
  • 1966 The Gnädiges Fräulein
  • 1968 The Seven Descents of Myrtle (hefyd Kingdom of Earth)
  • 1969 In the Bar of a Tokyo Hotel
  • 1969 Now the Cats with Jewelled Claws
  • 1969 Will Mr. Merriweather Return from Memphis?
  • 1970 I Can't Imagine Tomorrow
  • 1970 The Frosted Glass Coffin
  • 1972 Small Craft Warnings
  • 1973 Out Cry
  • 1975 The Red Devil Battery Sign
  • 1976 The Demolition Downtown
  • 1976 This Is (An Entertainment)
  • 1977 Vieux Carré
  • 1979 Kirche, Küche, Kinder
  • 1979 Lifeboat Drill
  • 1979 A Lovely Sunday for Creve Coeur
  • 1980 The Chalky White Substance
  • 1980 This Is Peaceable Kingdom or Good Luck God
  • 1980 Steps Must be Gentle
  • 1980 Clothes for a Summer Hotel
  • 1980 The Notebook of Trigorin
  • 1981 Something Cloudy, Something Clear
  • 1982 A House Not Meant to Stand
  • 1983 In Masks Outrageous and Austere
  • 1983 The One Exception

Addasiadau Ffilm[golygu | golygu cod]

Straeon byrion[golygu | golygu cod]

  • The Vengeance of Nitocris (1928)
  • The Field of Blue Children (1939)
  • The Resemblance Between a Violin Case and a Coffin (1951)
  • Hard Candy: a Book of Stories (1954)
  • Three Players of a Summer Game and Other Stories (1960)
  • Grand (1964)
  • The Knightly Quest: a Novella and Four Short Stories (1966)
  • One Arm and Other Stories (1967)
  • Eight Mortal Ladies Possessed: a Book of Stories (1974)
  • Tent Worms (1980)
  • It Happened the day the Sun Rose, and Other Stories (1981)

Cyfieithiadau i'r Gymraeg[golygu | golygu cod]

  • Pethe brau : cyfieithiad o The Glass Menagerie gan Emyr Edwards 1992, Llandysul: Gwasg Gomer
  • Cab chwant : cyfieithiad o A Streetcar Named Desire gan Emyr Edwards 1992; Aberystwyth : Canolfan Astudiaethau Addysg, ©1995.