Tarsier

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tarsier Ffilipinaidd ( Carlito syrichta ), un o'r primatiaid lleiaf.

Primatiaid haplorrhini o deulu'r Tarsiidae yw'r tarsier, a'r unig deulu sy'n dal mewn bod o'r is-radd Tarsiiformes. Er bod y grŵp yn fwy cyffredin ar un adeg, mae ei holl rywogaethau sy'n bodoli heddiw i'w cael yn ynysoedd De-ddwyrain Asia .

Anifail bychan gyda llygaid enfawr yw'r tarsier; mae pob pelen llygad tua 16 milimedr (0.63 modfedd) mewn diamedr ac mor fawr â, neu mewn rhai achosion yn fwy na, yr ymennydd cyfan.[1][2] Mae anatomeg unigryw'r tarsier yn deillio o'r angen i gydbwyso eu llygaid mawr a'u pen trwm fel eu bod yn gallu disgwyl yn dawel am ysglyfaeth maethlon.[3] Mae gan y tarsier synnwyr clywedol cryf, ac mae eu cortecs clywedol yn neilltuol.[3] Mae gan y tarsier hefyd goesau ôl hir, yn bennaf oherwydd esgyrn tarsws hir y traed, ac ar ôl hwnnw mae'r anifail wedi cael ei enw. Mae'r cyfuniad o'u esgyrn tarsi hir a'u tibiofibulae yn gwneud eu morffoleg yn arbennig o effeithiol ar gyfer ddringo arwynebau fertigol a neidio.[4] Mae'r pen a'r corff yn amrywio o 10 i 15 cm o hyd, ond mae'r coesau ôl tua dwywaith yr hyd hwn (gan gynnwys y traed), ac mae ganddynt hefyd gynffon main o 20 i 25 cm o hyd. Mae eu bysedd hefyd yn hir, gyda'r trydydd bys tua'r un hyd â rhan uchaf y fraich. Mae gan y rhan fwyaf o'u bysedd ewinedd, ond mae gan ail a thrydydd bysedd y traed cefn grafangau sy'n cael eu defnyddio ar ysgrafellu. Mae gan y tarsier ffwr meddal, melfed, sydd fel arfer yn llwydfelyn neu o liw ocr.[5]

Tarsierod yw'r unig brimatiaid cwbl gigysol sy'n bodol: maent yn bryfysol yn bennaf, ac yn dal pryfed trwy neidio arnynt. Gwyddys hefyd eu bod yn ysglyfaethu ar adar, nadroedd, madfallod ac ystlumod.[5]

Mae pob rhywogaeth o tarsier yn nosol, ond fel llawer o organebau o'r fath, gall rhai unigolion ddangos mwy neu lai o weithgarwch yn ystod y dydd. Yn seiliedig ar anatomeg pob tarsier, maent i gyd wedi eu haddasu ar gyfer neidio er eu bod i gyd yn amrywio ar sail eu rhywogaethau.[6][7][8][9]

Mae beichiogrwydd yn cymryd tua chwe mis,[10] ac mae tarsierod yn rhoi genedigaeth i epil unigol. Mae tarsierod ifanc yn cael eu geni gyda ffwr ar eu cyrff, a chyda llygaid agored, ac maent yn gallu dringo o fewn diwrnod i'w genedigaeth. Maent yn cyrraedd aeddfedrwydd rhywiol erbyn diwedd eu hail flwyddyn. Mae eu cymdeithasolrwydd a'u system paru yn amrywio, gyda tharsierod o Sulawesi yn byw mewn grwpiau teuluol bach, tra bod tarsierod Ffilipinaidd a gorllewinol yn cysgu a fforio yn unigol.

Mae tarsierod yn tueddu i fod yn anifeiliaid swil iawn.   [ angen dyfynnu ] Mae statws cadwraeth pob rhywogaeth o tarsier yw eu bod yn agored i ddifodiant. Mae tarsierod yn rhywogaeth sy'n dibynnu ar gadwraeth sy'n golygu bod angen iddynt gael mwy o reolaeth ar gynefinoedd gwarchodedig neu y byddant yn sicr yn diflannu yn y dyfodol.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

[{cyfeiriadau}}

  1. Soluri, K. Elizabeth; Sabrina C. Agarwal (2016). The Laboratory Manual and Workbook for Biological Anthropology. W.W. Norton. ISBN 978-0-393-91291-3.
  2. Shumaker, Robert W.; Benjamin B. Beck (2003). Primates in Question. Smithsonian Books. ISBN 978-1-58834-151-8.
  3. 3.0 3.1 3.2 Shekelle, Myron; Gursky (2010). "Why tarsiers? Why now? An introduction to the special edition on tarsiers". International Journal of Primatology 31 (6): 937–940. doi:10.1007/s10764-010-9459-6.
  4. Rasmussen, D. T.; Conroy, G. C.; Simons, E. L. (1998). "Tarsier-like locomotor specializations in the Oligocene primate Afrotarsius". Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America 95 (25): 14848–14850. doi:10.1073/pnas.95.25.14848. PMC 24538. PMID 9843978. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=24538.
  5. 5.0 5.1 Niemitz, Carsten (1984). Macdonald, D. (gol,.). The Encyclopedia of Mammals. New York: Facts on File. pp. 338–339. ISBN 978-0-87196-871-5.
  6. Dagosto, M.; Gebo, D. L.; Dolino, C. (2001). "Positional behavior and social organization of the Philippine tarsier (Tarsius syrichta)". Primates 42 (3): 233–243. doi:10.1007/bf02629639.
  7. Niemitz, C (1977). "Zur funktionsmorphologie und biometrie der gattung Tarsius, Storr, 1780". Courier Forschungsinstitut Senckenberg 25: 1–161.
  8. Niemitz, C. (1979). Relationships among anatomy, ecology, and behavior: A model developed in the genus Tarsius, with thoughts about phylogenetic mechanisms and adaptive interactions. In S. 1190 N. Grow, S. Gursky-DoyenMorbeck, H. Preuschoft, & N. Gomberg (Eds.), Environment, behavior, and morphology: Dynamic interactions (pp. 119–138). New York: Gustav Fischer.
  9. Niemitz, C. (1984). An investigation and review of the territorial behaviour and social organization of the genus Tarsius. In C. Niemitz (Ed.), Biology of tarsiers (pp. 117–128). New York: Gustav Fischer
  10. Izard, Kay M.; Wright, Simons (1985). "Gestation length in Tarsius bancanus". Am J Primatol 9 (4): 327–331. doi:10.1002/ajp.1350090408.