Tafarndy'r Nag's Head, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Tafarndy'r Nag's Head
Mathtafarn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam
SirWrecsam
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr73.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.043931°N 2.991483°W Edit this on Wikidata
Cod postLL13 8DW Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethMarston's Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Tafarn hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Nag's Head.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae'r Nag's Head yn sefyll ar Stryt y Bryn (Saesneg: Mount Street), ger y gyffordd rhwng Stryt Yorke a Stryt Twthil, i lawr y bryn o ganol y ddinas, o dan Eglwys San Silyn.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r adeilad yn dyddio'n ôl i 1661.[1] Yn wreiddiol roedd yn sefyll yn ardal marchnad Sgwâr Swydd Efrog (Yorkshire Square).[2]

Roedd cwrw yn cael ei bragu gan y Nag's Head ymhell cyn i Arthur Soames o fragdy Soames brynu'r safle yn 1879. O 1834 hyd 1874, bragwyr y dafarn oedd William a Thomas Rowlands.[3] Yn 1894, adeiladwyd simnai o frics coch fel rhan o estyniad y bragdy.

Yn 1931, cyfunwyd y bragdy Soames â dau fragdy arall er mwyn creu bragdy Border, a daeth bragdy Stryt y Twtil yn ganolfan i'r gwaith cynhyrchu. Yn 1984, cafodd y bragdy ei gau ar ôl iddo gael ei werthu i gwmni Marstons, ond mae'r Nag's Head ar agor o hyd.[4]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Gyda simnai bragdy Soames a bragdy Stryt y Twthil dros y stryd, mae'r Nag's Head yn rhan o grŵp o adeiladau sy'n gysylltiedig â hanes y diwydiant bragu yn Wrecsam.

Cafodd yr adeilad gwreiddiol ei adnewyddu'n helaeth mewn arddull Duduraidd yn yr 19eg ganrif, pan ddaeth yn rhan o fragdy Soames. Mae'r adeilad wedi cadw llawer o elfennau neo-Duduraidd sy'n dyddio'n ôl i'r adnewyddiad, ond dros y blynyddoedd mae rhan o'r rhain wedi diflannu.[5]  

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Our Pub / Nag's Head / Pub and Restaurant / Neighbourhood". nagsheadpubwrexham.co.uk. Cyrchwyd 14 Chwefror 2023.
  2. "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 14 Chwefror 2023.
  3. "The Nag's Head, Wrexham". History Points (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Chwefror 2023.
  4. "Soames brewery chimney, Wrexham". History Points (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Chwefror 2023.
  5. "The Nag's Head Public House, Offa, Wrexham" (yn Saesneg). Cadw. Cyrchwyd 23 Chwefror 2023.