Swydd Henffordd (awdurdod unedol)

Oddi ar Wicipedia

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Swydd Henffordd. Mae gan y sir seremonïol a'r awdurdod unedol yr un ffiniau; dim ond tair sir arall yn Lloegr sy'n gwneud hyn, sef Cernyw, Northumberland, ac Ynys Wyth.

Mae gan yr ardal arwynebedd o 2,180 km², gyda 192,801 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio â thair sir Lloegr – Swydd Amwythig i'r gogledd, Swydd Gaerwrangon i'r dwyrain, a Swydd Gaerloyw i'r de, yn ogystal â dwy siroedd Cymru – Powys i'r gorllewin a Sir Fynwy i'r de-orllewin.

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1998, pan ddiddymwyd sir Henffordd a Chaerwrangon. Crëwyd y sir an-fetropolitan honno dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 o'r hen siroedd gweinyddol Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon. Ni chafodd y sir gyfun lawer o lwyddiant erioed. Felly, ailsefydlwyd yr hen siroedd ym 1988. Parhaodd Swydd Gaerwrangon fel sir an-fetropolitan, wedi'i rhannu'n ardaloedd an-fetropolitan, a daeth Swydd Henffordd yn awdurdod unedol annibynnol.

Rhennir y awdurdod yn 235 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei bencadlys yn ninas Henffordd. Mae aneddiadau eraill yn cynnwys trefi Bromyard, Kington, Ledbury, Llanllieni a Rhosan ar Wy.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. City Population; adalwyd 5 Tachwedd 2020