Svyatoslav I, Tywysog Kiev
Svyatoslav I, Tywysog Kiev | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | c. 942 ![]() Kyiv ![]() |
Bu farw | 972 ![]() Dnieper Rapids ![]() |
Dinasyddiaeth | Rws Kyiv ![]() |
Galwedigaeth | diplomydd, gwleidydd ![]() |
Swydd | Tywysog Kiev, Grand Prince of Novgorod ![]() |
Tad | Igor o Kiev ![]() |
Mam | Santes Olga ![]() |
Priod | Predslava ![]() |
Partner | Malusha of Dereva ![]() |
Plant | Yaropolk I of Kiev, Oleg of the Drevlyans, Vladimir the Great ![]() |
Llinach | Rurik dynasty ![]() |
Tywysog Rws Kiefaidd oedd Svyatoslav I Igorevich (tua 942 - Mawrth 972. Roedd e'n fab i Igor, Tywysog Kiev, a'r Dywysoges Olga. Arweiniodd ymgyrchoedd yn erbyn y Khazariaid ac yn y Balcanau yn erbyn Bwlgaria a'r Ymerodraeth Fysantaidd. Distrywiodd y wladwriaeth Khazaraidd, gan sicrhau'r llwybrau masnach ar lawr Afon Volga a tua'r Môr Du ar gyfer Rws. Roedd ei ymgyrchoedd yn y Balcanau yn llai llwyddiannus. Gwaethygodd y berthynas rhwng Rws a'r Ymerodraeth Fysantaidd yn ystod ei deyrnasiad. Er i'w luoedd gyrraedd cyrion Caergystennin, methodd yn y pendraw ag estyn tiriogaeth Rws yn ddwfn i'r Balcanau. Bu farw ar ei ffordd adref o ymgyrch aflwyddiannus yn y Balcanau.
Ei blentyndod a'i deyrnasiad cynnar
[golygu | golygu cod]Lladdwyd ei dad Igor mewn brwydr â'r Drevlyane yn 942. Yn ystod ei blentyndod, rheolodd ei fam Olga fel rhaglaw drosto tan tua 963. Er i'w fam droi i Gristnogaeth, arhosodd Svyatoslav yn paganiad drwy gydol ei oes.
Distrywiad gwladwriaeth y Khazariaid
[golygu | golygu cod]Yn ystod ei deyrnasiad, arweiniodd nifer o ymgyrchoedd yn erbyn cymdogion Rws. Roedd ei lwyddiant mwyaf yn erbyn Khazaria, oedd yn rheoli masnach ar hyd Afon Volga. Distrywiodd lluoedd Kiefaidd ddinas Sarkel tua 965,[1] gan sefydlu tref Slafonaidd ar y safle, Belaya Vezha.[2] Yn ddiweddarach, fe ddistrywiodd brifddinas Khazaria, Atil. Roedd y buddugoliaethau dros y Khazariaid yn caniatáu i Rws gymryd rheolaeth dros y llwybrau masnach i'r de tua'r Môr Du.
Ymgyrchoedd yn y Balcanau
[golygu | golygu cod]
Mewn cynghrair â'r Ymerodraeth Fysantaidd, dechreuodd Svyatoslav ymgyrch yn erbyn Bwlgaria, gan drechu y Bwlgariaid ym Mrwydr Silistra yn 968. Yn y cyfamser, roedd y Pechenegiaid wedi gosod gwarchae ar Kiev, a bu raid i luoedd Svyatoslav ddychwelyd i Rws er mwyn codi'r gwarchae ac i ymladd yn erbyn y Pechenegiaid. Roedd Svyatoslav wedi mynnu cadw'r diriogaeth roedd ef wedi ei feddiannu yn y Balcanau, penderfyniad oedd yn digio'r Bysantiaid. Daeth pethau'n waeth byth iddyn nhw yn 969 a 970, pryd dechreuodd Svyatoslav ymgyrch newydd yn y Balcanau. Gosododd warchae ar Adrianopolis, ond y tro hwn, bu raid iddo ildio. Trechwyd ei luoedd ym Mrwydr Arcadiopolis yn 970. Enciliodd i Dorostol, lle bu raid iddo cytuno telerau â'r Bysantiaid, gan ymadael â'r Balcanau. Ddaeth yr ymgyrch ddim lles i Svyatoslav nac i Rws, ond gwanhaodd Fwlgaria, gan ei gadael yn agored i ymosodiadau diweddarach y Bysantiaid.
Marwolaeth Svyatoslav
[golygu | golygu cod]Bradychodd y Bysantiaid y cytundeb yr oedden nhw wedi ei wneud â Svyatoslav, gan annog y Pechenegiaid i ymosod arno ar ei ffordd adre. Cyfarfu'r Pechenegiaid ag ef ger rhaeadrau'r Dnepr ger Ynys Khortytsya yn gynnar yn y flwyddyn 972, gan ei ladd. Yn ôl y Brut Cynradd Rwsieg, dygwyd ei benglog i ffwrdd er mwyn gwneud cwpan i Khan Kurya. Ar ôl ei farwolaeth arweiniodd tensiynau rhwng ei feibion, Oleg, Yaropolk a Vladimir, at ymladd rhyngddynt.