Susan B. Anthony
Susan B. Anthony | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Susan Anthony ![]() 15 Chwefror 1820 ![]() Adams, Massachusetts ![]() |
Bu farw | 13 Mawrth 1906 ![]() o methiant y galon, niwmonia ![]() Rochester, Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, ymgyrchydd dros hawliau merched, amddiffynwr hawliau dynol, diddymwr caethwasiaeth, ysgrifennwr, ymgyrchydd hawliau sifil, ffeminist ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol ![]() |
Tad | Daniel Anthony ![]() |
Mam | Lucy Read ![]() |
Gwobr/au | 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Ffeminist, swffragét a diwygiwr cymdeithasol Americanaidd oedd Susan B. Anthony (15 Chwefror 1820 - 13 Mawrth 1906) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ymgyrchu dros bleidlais i ferched. Chwaraeodd ran ganolog a blaenllaw yn yr ymgyrch i gael pleidlais i fenywod, sef yr hyn a elwir heddiw yn 'etholfraint'.
Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn enedigol o deulu o Grynwyr, crefydd sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb cymdeithasol, casglodd ddeisebau gwrth-gaethwasiaeth pan oedd yn 17 oed. Yn 1856, daeth yn asiant gwladwriaeth Efrog Newydd ar gyfer Cymdeithas Gwrth-Gaethwasiaeth America (yr American Anti-Slavery Society).
Fe'i ganed yn Adams ar 15 Chwefror 1820 a bu farw yn Rochester, Efrog Newydd o niwmonia ac fe'i claddwyd yno, ym Mynwent Mount Hope. [1][2][3][4][5]
Ymgyrchu[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1851, cyfarfu ag Elizabeth Cady Stanton, a ddaeth yn gyfaill a chydweithiwr gydol oes iddi mewn gweithgareddau diwygio cymdeithasol, yn bennaf ym maes hawliau menywod. Yn 1852, sefydlodd Gymdeithas Ddirwestol Menywod Efrog Newydd (New York Women's State Temperance Society) ar ôl i Anthony gael ei hatal rhag siarad mewn cynhadledd dirwestol oherwydd ei bod yn fenyw. Yn 1863, fe wnaethant sefydlu Cynghrair Cenedlaethol y Merched Teyrngar (the Women's Loyal National League), a gynhaliodd yr ymgyrch ddeiseb fwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau hyd at hynny, gan gasglu bron i 400,000 o lofnodion i gefnogi diddymu caethwasiaeth.
Rhai cerrig milltir yn ei bywyd:
- 1866, sefydlodd Cymdeithas Hawliau Cyfartal America (American Equal Rights Association), a fu'n ymgyrchu dros hawliau cyfartal i fenywod ac Americanwyr Affricanaidd.
- 1868, cyhoeddodd bapur newydd ar hawliau merched o'r enw The Revolution.
- 1869, sefydlodd Gymdeithas Genedlaethol Etholfraint y Merched (National Woman Suffrage Association) pan holltwyd am gyfnod byr mudiad y merched.
- 1890, unwyd y mudiad yn ffurfiol; cyfunwyd eu sefydliad â'r Gymdeithas dros Etholfraint y Merched American Woman Suffrage Association, gydag Anthony yn arwain y gymdeithas newydd.
- 1876, dechreuodd Anthony a Stanton gyd-ysgrifennu, gyda Matilda Joslyn Gage, ar yr hyn a dyfodd yn y pen draw i fod yn lyfryn chwe cyfrol: History of Woman Suffrage.
Ennill yr hawl i bleidleisio[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn 1872, cafodd Anthony ei harestio am bleidleisio yn ei thref enedigol, Rochester, Efrog Newydd, ac fe'i dyfarnwyd yn euog mewn achos llys a gafodd lawer o gyhoeddusrwydd. Er iddi wrthod talu'r ddirwy, gwrthododd yr awdurdodau gymryd camau pellach. Yn 1878, trefnodd Anthony a Stanton i Gyngres yr Unol Daleithiau dderbyn gwelliant ar gynnig, a roddodd, ar ddiwedd y dydd, yr hawl i ferched i bleidleisio.
Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Weriniaethol. Bu'n aelod o Ferched y Chwyldro Americanaidd am rai blynyddoedd. [6]
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1973)[7] .
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://en.wikisource.org/wiki/Woman_of_the_Century/Susan_B._Anthony.
- ↑ Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 Anhysbys; Frances Willard (1893), Frances Willard; Mary Livermore, eds. (yn en), A Woman of the Century (1st ed.), Buffalo, Efrog Newydd: Charles Wells Moulton, LCCN ltf96008160, OL13503115M, Wikidata Q24205103
- ↑ Achos marwolaeth: https://www.nytimes.com/1906/03/13/archives/miss-susan-b-anthony-died-this-morning-end-came-to-the-famous-woman.html. https://www.nytimes.com/1906/03/13/archives/miss-susan-b-anthony-died-this-morning-end-came-to-the-famous-woman.html.
- ↑ Tad: Leo van de Pas (2003) (yn en), Genealogics, Wikidata Q19847326, http://www.genealogics.org
- ↑ Mam: Leo van de Pas (2003) (yn en), Genealogics, Wikidata Q19847326, http://www.genealogics.org
- ↑ Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/susan-b-anthony/.
- ↑ https://www.womenofthehall.org/inductee/susan-b-anthony/.