Sun Yat-sen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Sun Yat-sen
Sun Yat-sen 1924 Guangzhou.jpg
Ganwyd 12 Tachwedd 1866 Edit this on Wikidata
Cuiheng Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Mawrth 1925 Edit this on Wikidata (58 oed)
Achos: Canser yr afu Edit this on Wikidata
Beijing Edit this on Wikidata
Man preswyl San Francisco, Haxell's Hotel Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Republic of China (1912–1949), Unol Daleithiau America, Brenhinllin Qing Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Queen's College
  • Punahou School
  • ʻIolani School
  • Hong Kong College of Medicine for Chinese
  • Boji Medical College Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd, Gwaith y meddyg, athronydd Edit this on Wikidata
Swydd Extraordinary President of the Republic of China, Provisional Great President of the Republic of China Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Nanjing University Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Kuomintang, Tongmenghui Edit this on Wikidata
Priod Lu Muzhen, Chen Cuifen, Haru Asada, Kaoru Otsuki, Soong Ching-ling Edit this on Wikidata
Plant Sun Fo, Sun Wan, Fumiko Miyagawa Edit this on Wikidata
Llofnod
Sun Yat Sen Signature.png

Sylfaenydd Gweriniaeth Tsieina (1911-1928) oedd Sun Zhongshan 孫中山 neu Sun Yixian/Sun Yat-sen 孫逸仙 (12 Tachwedd 186622 Chwefror 1925) .

Ganed ef ym mhentref Cuiheng, yn rhanbarth Guangdong. Astudiodd mewn ysgol genhadol a daeth yn Gristion. Yn ddiweddarach, aeth i Hawaï i astudio, gan ddychwelyd i Tsieina yn 1883. Aeth i Hong Kong i astudio meddygaeth, gan raddio yn 1892. Daeth i gredu fod yn rhaid i Tsieina foderneiddio, a dod yn weriniaeth, gan wneud i ffwrdd a’r ymerodraeth. Dychwelodd i Hawaii am gyfnod, a sefydlodd gymdeithas y Xingzhong Hui. Ar 29 Rhagfyr 1911, yng nghanol Chwyldro Xinhai, etholwyd Sun Yat-sen yn arlywydd Gweriniaeth Tsieina. Gorfodwyd yr ymerawdwr Xuantong i gyfyngu ei bwerau i’r Ddinas Waharddedig yn unig, gyda Sun yn rheoli’r wlad. Yn fuan wedyn, bu raid i Sun drosgwyddo swydd arlywydd i Yuan Shikai, yn rhannol oherwydd pwysau o du y fyddin, a symudodd i Japan. Dychwelodd yn 1916 wedi marwolaeth Yuan, ac yn 1917 daeth yn bennaeth Llywodraeth Filwrol Tsieina. Daeth yn gadeirydd y Kwomintang, a sefydlwyd yn 1919. Gyda chymorth yr Undeb Sofietaidd, llwyddodd i gipio de Tsieina o reolaeth yr arglwyddi rhyfel erbyn 1923.

Bu Sun farw yn sydyn yn 1925 yn Beijing, ac olynwyd ef gan Chiang Kai-shek. Claddwyd ef yn Nanking.