Stryt yr Eglwys, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Stryt yr Eglwys
Stryt yr Eglwys - golygfa tuag at yr Eglwys San Silyn
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCanol Dinas Wrecsam Edit this on Wikidata
SirOffa, Wrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.044853°N 2.993104°W Edit this on Wikidata
Map

Strŷt hanesyddol yng nghanol dinas Wrecsam, gogledd-ddwyain Cymru, yw Stryt yr Eglwys (Saesneg: Church Street).

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Lleolir Stryt yr Eglwys yng nghalon ganoloesol Wrecsam. Mae'r stryd yn cysylltu'r Stryt Fawr â mynwent Eglwys San Silyn. O flaen Eglwys San Silyn, mae Stryt yr Eglwys wedi'i chroesi gan Res y Deml, lôn gul sy'n rhedeg gyfagos â'r fynwent.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cofnodwyd yr enw Saesneg “Church Street” yn gyntaf yn 1692,[1] ond roedd y stryd yn sefyll yn rhan hynaf y dref. Yn ôl pob tebyg, mae rhif 8 Stryt yr Eglwys yn dyddio yn ôl i'r Oesoedd Canol. [2]

Roedd gan y stryd gymeriad masnachol – cafodd rhifau 3 a 4 eu hailddatblygu yn yr 18fed ganrif fel siopau. [3] Yn 1896, adeiladwyd Banc Cynilion Ymddiriedolwyr, y “Trustee Savings Bank”, ar y gyffordd rhwng Stryt yr Eglwys a'r Stryt Fawr. [4] Heddiw, mae'r rhan fwyaf o adeiladau ar Stryt yr Eglwys yn cael ei defnyddio fel tafarndai, bwytai a chaffis.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Saif Stryt yr Eglwys yng nghysgod clochdwr Eglwys San Silyn a gatiau'r fynwent a cheir golygfa drawiadol ar hyd Stryt yr Hôb tuag at y clochdwr.

Ac eithrio'r giatiau haearn gyr addurnedig sy'n ffurfio'r fynedfa i fynwent San Silyn, mae nifer o adeiladau hanesyddol sy'n sefyll o hyd ar Stryt yr Eglwys.

Mae rhif 3 Stryt yr Eglwys (mewn gwirionedd dau adeilad, rhifau 3 a 4) yn adeilad rhestredig gradd II[3] ac mae rhif 8 (mewn gwirioinedd rhifau 8, 9 a 10) yn adeilad gradd II*.[2]

Mae adeilad rhestredig gradd II arall yn sefyll ar y gyffordd rhwng Stryt yr Eglwys a'r Stryt Fawr – hen Fanc Cynilion Ymddiriedolwyr, adeilad o flociau tywodfaen nadd.[4][5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Church Street, Wrexham 1928". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-29. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2022.
  2. 2.0 2.1 "8, Church Street, Clwyd, Offa, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2022.
  3. 3.0 3.1 "3, Church Street, Clwyd, Offa, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2022.
  4. 4.0 4.1 "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2022.
  5. "Trustee Savings Bank, Offa, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2022.


Oriel[golygu | golygu cod]