Stiwdio a Menyg

Oddi ar Wicipedia
Stiwdio a Menyg gan Shani Rhys James

Darlun olew gan Shani Rhys James ydy Stiwdio a menyg. Cafodd y darlun ei bentio yn 1993 ac mae'n cael ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, Ceredigion.[1] Prynnodd y Llyfrgell y llun yn uniongyrchol oddi wrth yr arlunydd yn 2000. Y dyfrwng yw paent olew ar gynfas ac mae'n mesur 233 x 179 cm.[2]

Yn y llun fe welir yr artist ei hun yn ei stiwdio blêr, gyda menyg am ei dwylo ac hen fenyg ym mhobman ar y llawr. Caiff Shani ei hadnabod am ei lluniau melancolig, gyda hi ei hun ynddynt, yn pensynnu. Mae'r darlun hwn yn nodweddiadol o'i gwaith.[3] Ond yn wahanol i'r arfer, mae'r hunanbortread ynddo'n cyfleu rhyw syndod yn ei hwyneb, fel pe na bai'n disgwyl i'r llun gael ei gymryd! Ac yn wrth-felancolig, bron, mae'r lliwiau'n un ffrwydriad gwyllt. Flwyddyn wedi iddi orffen y paentiad hwn, yn 1994, cafodd Shani Rhys James ei hethol i'r Academi Frenhinol Gymreig.[4]

Yr arlunydd[golygu | golygu cod]

Ganwyd Shani Rhys James yn 1953 yn Melbourne, Awstralia[5] ac mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Llangadfan, Powys. Awstraliad oedd ei mam a Chymro oedd ei thad.[5] Yn chwech oed cafodd thrombocytopenia a chafodd gyfnod o hir feddwl, cyfnod o ddychmygu.[6] Roedd gan ei rhieni nifer o gyfeillion a oedd yn artistiaid ac eraill yn actorion, fel ei mam.[7] yn 9 oed symudodd y teulu i Lundain.

Europeana 280[golygu | golygu cod]

Yn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect "Gwaith Celf Europeana".[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. y llun ar wefan y Llyfrgell.
  2. artuk.org; adalwyd 20 Mai 2016.
  3. Susie Wild Art: On Reflection, Metro, 8 Gorffennaf 2008. Retrieved 15 Mai 2016
  4. Martin Tinney Gallery Shani Rhys James MBE RCA b.1953. Adalwyd 15 Mai 2016
  5. 5.0 5.1 BBC Wales Arts Shani Rhys James, 28 Medi 2010. Adalwyd 6 Tachwedd 2011.
  6. Collet, Penelope (2012). The Life Histories of Five Contemporary Welsh Women Artists. United States of America: The Edwin Mellen Press. tt. 90–91. ISBN 978-0-7734-2667-2.
  7. Collet, Penelope (2012). The Life Histories of Five Contemporary Welsh Women Artists. United States of America: The Edwin Mellen Press. t. 92. ISBN 978-0-7734-2667-2.
  8. Gwfan Europeana; adalwyd 11 Rhagfyr 2017.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]