Yr Academi Frenhinol Gymreig
| Enghraifft o: | canolfan y celfyddydau, oriel gelf, sefydliad elusennol |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1881 |
| Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
![]() | |
| Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol |
| Rhanbarth | Conwy |
| Gwefan | http://rcaconwy.org/ |
| Dynodwyr | |

Sefydliad annibynnol sy'n ymwneud â rhagoriaeth ym myd celf yng Nghymru oedd yr Academi Frenhinol Gymreig (Saesneg: Royal Cambrian Academy). Lleolwyd ei phrif oriel ger Plas Mawr yn nhref Conwy, Sir Conwy.
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd yr academi gan grŵp o artistiaid gyda ddiddordeb ynglyn a thirlun Gogledd Cymru. Cafodd artistiaid o Ogledd Cymru, Lerpwl a Manceinion cyfarfod â’i gilydd yng Nghyffordd Llandudno ym 1881, yn galw eu hunain "Academi Gelf Gymreig". Yn 1882 rhoddodd y Frenhines Victoria y teitl "Frenhinol" iddynt.[1] Yn yr un blwyddyn trefnodd yr academi arddangodfa enfawr yng Nghaerdydd, gyda chatalog o 200 tudalen. Yn 1885 rhoddodd Arglwydd Mostyn brydles ei blasdy Plas Mawr, Conwy, i'r academi am eu defnydd fel oriel.[1]
Yn 1994 adeiladodd yr academi oriel newydd tu ol i Plas Mawr, gan adael yr hen adeilad yn barhaol.[1] Caewyd yr oriel newydd ym mis Awst 2025 oherwydd diffyg cyllid.[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Academi Frenhinol Gymreig. Llawlyfr
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Kitchin, Myfanwy (1999). Hanes byr yr Academi Frenhinol Gymreig. Academi Frenhinol Gymreig. Adalwyd ar 17 Awst 2024.
- ↑ "Cau Academi Frenhinol Gymreig y Celfyddydau wedi bron i 150 o flynyddoedd", Golwg360, 18 Awst 2025; adalwyd 21 Awst 2025
