Stephen Ward

Oddi ar Wicipedia
Stephen Ward
Ganwyd19 Hydref 1912 Edit this on Wikidata
Lemsford Edit this on Wikidata
Bu farw3 Awst 1963 Edit this on Wikidata
o gorddos o gyffuriau Edit this on Wikidata
Chelsea Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • A.T. Still University
  • Ysgol Canford
  • Ysgol Gelfyddyd Gain Slade Edit this on Wikidata
Galwedigaethosteopath, arlunydd Edit this on Wikidata
MamEileen Esmée Vigors Edit this on Wikidata

Am y sioe gerdd o'r un enw, gweler Stephen Ward (sioe gerdd)

Meddyg esgyrn ac artist a ddaeth i amlygrwydd yn sgîl Helynt Profumo, sgandal wleidyddol Brydeinig a arweiniodd at ymddiswyddiad John Profumo, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel, ac a gyfranodd at drechu llywodraeth y Blaid Geidwadol flwyddyn yn hwyrach, oedd Stephen Thomas Ward (19 Hydref 19123 Awst 1963).

Dechreuodd Ward weithio fel meddyg esgyrn yn Llundain yn 1945, ac yn fuan iawn daeth yn llwyddiannus ac yn ffasiynol, gyda nifer o gleientiaid amlwg. Yn ystod ei amser hamdden, astudiodd yn Ysgol Slade, a datblygodd ddawn o fraslunio portreadau a ddaeth a thipyn o arian iddo. Yn sgîl ei waith meddygol a'i gelf, derbyniodd dipyn o lwyddiant cymdeithasol, a gwnaeth nifer o ffrindiau. Yn eu plith oedd yr Arglwydd Astor. Yn ei dŷ ef yn y wlad, Cliveden, yn haf 1961, cyflwynodd Ward Profumo i sioeferch a model clwb nos 19 oed o'r enw Christine Keeler. Dechreuodd Profumo, a oedd yn briod i'r actores Valerie Hobson, berthynas fer gyda Keeler, gyda'r mwyafrif o'u cyfarfyddiadau'n digwydd yng nghartref Ward yn Wimpole Mews.

Tynnwyd sylw'r gwasanaethau diogelwch Prydeinig at Ward yn sgîl ei gyfeillgarwch ag Eugene Ivanov, yr attaché milwrol Rwsaidd, a oedd yn swyddog gwybodaeth. Roedd MI5 yn awyddus i ddefnyddio Ward er mwyn annog Ivanov i wrthgilio a chynorthwyo Prydain. Cymhlethwyd y sefylfa ymhellach pan gyflwynodd Ward, Ivanov i Keeler, gan arwain at y posibilrwydd o driongl serch Profumo-Keeler-Ivanov. Gorffennodd Profumo y berthynas gyda Keeler, a chadwyd yr hanes yn gymharol dawel tan ddechrau 1963, pan gafodd y wasg a'r cyhoedd achlust o fywyd personol Keeler. Mewn datganiad i'r Tŷ Cyffredin gwadodd Profumo unrhyw amhriodoldeb, ond ychydig wythnosau'n ddiweddarach cyfaddefodd y berthynas. Ymddiswyddodd fel gweinidog ac o'i sedd seneddol. Ymysg yr holl sïon am sgandalau rhywiol niferus ymhlith aelodau o'r llywodraeth a'r byd aristocrataidd, dechreuodd yr heddlu ymchwilio i Ward. Yn Mehefin 1963 cafodd ei gyhuddo o droseddau o anfoesoldeb a daethpwyd ag achos llys yn ei erbyn.

Yn yr achos llys yng Ngorffennaf 1963, trodd byd y boneddigion eu cefn ar Ward a daeth dirmyg a chasineb yr erlyniad a'r barnwr i'r amlwg. Er gwaethaf y diffyg tystiolaeth yn ei erbyn a'r ffaith i'r mwyafrif o gyhuddiadau gael eu gollwng, fe'i cafwyd yn euog o ddau achos o fyw ar enillion anfoesol. Fodd bynnag, cyn i'r dyfarniad gael ei chyhoeddi, cymerodd Ward gor-ddôs o dabledi cysgu a bu farw dridiau'n hwyrach. Ar y pryd, derbyniwyd mai achos o hunanladdiad ydoedd, er fod damcaniaethau ers hynny wedi awgrymu y gallai fod wedi cael ei ladd ar orchymyn MI5. Ystyrir yr achos llys fel camweinyddiad cyfiawnder, yn esiampl o'r Sefydliad yn cael dial am gwymp Porfumo a chywilydd y llywodraeth. Yn 2014, roedd y ddedfryd yn cael ei hadolygu gan Gomisiwn Adolygu Achosion Troseddol, gyda'r posibilrwydd o apêl.