Cliveden

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cliveden
Cliveden-2382.jpg
Mathamgueddfa tŷ hanesyddol, tŷ bonedd Seisnig, gwesty mewn plasty gwledig Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolTaplow
Daearyddiaeth
SirSwydd Buckingham
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
GerllawAfon Tafwys Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5585°N 0.6882°W Edit this on Wikidata
Cod OSSU9102885179 Edit this on Wikidata
Arddull pensaernïolPensaernïaeth Adfywiad y Dadeni, Italianate architecture Edit this on Wikidata
Perchnogaethyr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion
DeunyddRoman cement, terracotta Edit this on Wikidata

Plasty ac ystad Eidalaidd yn Taplow, Swydd Buckingham, De-ddwyrain Lloegr, ydy Cliveden. Fe'i lleolir ar lan Afon Tafwys, gyda'i thiroedd yn goleddu i lawr tua'r afon. Mae'r safle wedi bod yn gartref i Iarll, tair Iarlles, dau Ddug, Tywysog Cymru a'r Is-Ieirll Astor.

Pan yn gartref i Nancy Astor, defnyddiwyd y tŷ fel man cyfarfod gan Griw Cliveden, criw o ddeallusion gwleidyddol, yn ystod y 1920au a'r 1930au. Yn hwyrach yn ystod y 1960au, bu'n leoliad canolog yn y sgandal wleidyddol Helynt Profumo. Erbyn y 1970au, daeth yn eiddo i Brifysgol Stanford, Califfornia, a chafodd ei ddefnyddio fel campws tramor. Mae bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a chaiff ei logi fel gwesty pum seren.

Ystyr Cliveden ydy "dyffryn ymysg clogwyni"[1] a chyfeiria at y dyffryn sydd yng nghanol yr ystad, i'r dwyrain o'r plasty.

Yr olygfa wrth edrych tua'r gogledd o'r Ring in the Parterre gan ddangos Pafiliwn y Teras a'r Clocdŵr ar yr ochr chwith a'r Is-deras a'r Balwstrad Borghese isod

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (1992) Brewer's Dictionary of Names: People Places and Things. Brewer, tud. 118. ISBN 978-1-85986-232-2