Sioeferch
Dawnswraig neu berfformwraig llwyfan sy'n ceisio amlygu ei nodweddion corfforolm yn aml drwy wisgo dillad bychain, neu fod yn bronnoeth neu'n noeth yw sioeferch. Weithiau defnyddir y term soeferch ar gyfer model hyrwyddol a gyflogir mewn ffeiriau masnach a sioeau ceir.
Hanes
[golygu | golygu cod]Gellir olrhain hanes sioeferched yn ôl i neuaddau cerddoriaeth a chabaret Paris ar ddiwedd y 1800au, megis y Moulin Rouge, Le Lido, a'r Folies Bergère.[1]
Sioeferched Las Vegas
[golygu | golygu cod]Cyflwynwyd sioferched yn Las Vegas yn 1952 fel act agoriadol ac fel clo ar gyfer prif berfformiad Las Vegas, gan ddawnsio o amgylch y brif act ar adegau. Fe'u cyflwynwyd yn y Sands Casino ar gyfer sioe gyda Danny Thomas. Yn 1957 aeth Minsky's Follies i'r llwyfan yn y Desert Inn gan gyflwyno'r dawnswyr bronnoeth yn Vegas. >
Sioeau gyda sioeferched
[golygu | golygu cod]- Calypso Cabaret (Bangkok, Gwlad Tai)
- Folies Bergère (Paris)
- Folies du Lac (Paris)
- Jubilee! Bally's (Las Vegas)
- La Nouvelle Eve (Paris)
- Le Lido (Paris)
- Moulin Rouge (Paris)
- Paradis Latin (Paris)
- Roderick Palazuelos 'Platinum Stars' (Mecsico)
- Splash (Riviera, Las Vegas) (Frank Marino Show - La Cage)
- The Fabulous Palm Springs Follies (Palm Springs, California)
- The Francis Show (Sioe trawswisgo) (Mecsico)
- Tihany Spectacular Circus (Brasil-Mecsico)
- Tropicana Club (Havana, Ciwba)
- Cabaret Red Light (Philadelphia, UDA)
- VIVA Cabaret Showbar (Blackpool, DU)