Bronnoeth
| Math | noethni |
|---|---|
| Y gwrthwyneb | bottomlessness |
| Yn cynnwys | male toplessness, female toplessness |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04llmg |

Dywedir bod menyw yn fronnoeth pan mae ei bronnau benyw i'w gweld, heb ddillad drostynt. Gellir hefyd dweud bron-noethder, ond fel arfer mae'r gair 'merch' neu 'fenyw' yn rhagddodi'r gair, hynny yw, 'merch fronnoeth'.[angen ffynhonnell] Pan fo dyn yn gwneud hyn, dywedir ei fod 'heb ei grys'.[angen ffynhonnell]
Mae gwledydd sydd wedi datblygu'n faterol, gan fwyaf, wedi deddfu i atal bron-nothdra, gyda'r arfordir yn eithriad, lle mae'n cael ei oddef a'i ganiatáu. Yn y gwledydd sy'n datblygu, yn aml, bod yn fronnoeth ydy'r norm. Fel arfer, hefyd, mae crefydd yn addysgu ac yn annog pobl yn erbyn hyn, gan ei droi'n dabŵ.[angen ffynhonnell]
Mae Topfreedom yn fudiad sy'n ceisio newid deddfau er mwyn caniatáu bod yn fronnoeth yn gyhoeddus. Ceisiant newid y syniad (a'r deddfau) fod bronnau noeth yn gyfystyr a 'dinoethi anweddus'.
Mae'r rhan fwyaf o wledydd y byd yn caniatáu i fenywod fronfwydo, ond yn Unol Daleithiau America, dim ond mewn llefydd cyhoeddus. Chewch chi ddim gwneud mewn siopau preifat ac ati.
Dull o brotestio
[golygu | golygu cod]Mae mynd yn fronnoeth yn cael ei ddefnyddio fel dull o brotestio. Mae FEMEN yn fudiad protest o Wcrain sydd wedi defnyddio'r dull yma ers blynyddoedd, ac ym Mecsico yn 2016 tynnwyd sylw at ddiflaniad 43 o fyfyrwyr mewn protest o'r enw Poner el Cuerpo, Sacar la Voz.
-
Ymgyrch Free the Nipple; Llundain 2015
-
Mam yn Guinea-Bissau yn bwydo'i phlentyn
-
Protest gan FEMEN yn erbyn Ewro 2012
-
Diwrnod protestio drwy'r byd yn erbyn Rhyfel Irac ar 26 Hydref 2002, y tu allan i bencadlys y Washington Post.
Mewn ffilm
[golygu | golygu cod]Yn y 1920au, cafodd noethni, gan gynnwys bronnoethni, sylw mewn ffilmiau di-sain yn Hollywood yn ogystal ag ar y llwyfan, ond gwrthwynebwyd hyn yn gynyddol gan llawer o grwpiau, a sefydlwyd sawl awdurdod yn yr Unol Daleithiau a mannau eraill i sensro ffilmiau.
- Topless, Ffilm o Japan; 2008
- Topless, drama lwyfan gan Miles Tredinnick; 1999
Mewn celf
[golygu | golygu cod]Mae'r arteffactau yn amgueddfa awyr agored Siam ger Bangkok yn darlunio menywod Gwlad Thai yn fronnoeth. Mae Murlun Ramakien sy'n cynrychioli bywydau'r trigolion lleol, a ddarganfuwyd yn Nheml Wat Phra Kaew, yn darlunio menywod yn gwisgo sgert yn unig a hynny'n gyhoeddus. O ganlyniad i'r Dadeni Dysg, mewn llawer o gymdeithasau Ewropeaidd, roedd arddull a diwylliant clasurol Gwlad Groeg yn dylanwadu'n gryf ar artistiaid. O ganlyniad, roedd delweddau o bynciau noethlymun a lled-noethlymun mewn sawl ffurf yn boblogaidd mewn celf a cherflunwaith.[1]
Yn ystod oes Fictoria, cyflwynodd peintwyr Ffrengig fel Jean-Léon Gérôme menywod harem Mwslimaidd noeth, tra poblogeiddiodd Eugène Delacroix, arlunydd rhamantus Ffrengig, y syniad o Ryddid ar ffurf menyw fronnoeth.
-
Darlun o Simonetta Vespucci
(c.1480)
gan Piero di Cosimo (1462 – 1522) -
menywod Gwyllt gydag Ungorn
(c. 1500–1510) -
Portread o Fenyw
gan Bartolomeo Veneto -
Rhyddid yn Arwain ei Phobl
(1830)
gan Eugène Delacroix -
Diana the Huntress
by Gaston Casimir Saint-Pierre
cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 985: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).