Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel

Oddi ar Wicipedia
Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel
Enghraifft o'r canlynolswydd Edit this on Wikidata
MathYsgrifennydd Gwladol, gweinidog dros ryfel Edit this on Wikidata
RhagflaenyddYsgrifennydd Gwladol dros Ryfel a'r Trefedigaethau Edit this on Wikidata
OlynyddGweinidog dros Amddiffyn Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Edward Cardwell, a ddaeth yn Is-Iarll Cardwell yn hwyrach, Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel rhwng 1868 a 1874; cyflwynydd Diwygiadau Cardwell

Swydd yng Nghabinet y Deyrnas Unedig oedd Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel. Deiliad cyntaf y swydd oedd Henry Dundas (a apwyntiwyd yn 1794). Yn 1801 newidiwyd y swydd i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel a'r Trefedigaethau. Ail-gyflwynyd y swydd yn 1854. Yn 1946, pan grëwyd Gweinidog Amddiffyn ar lefel cabinet a oedd ar wahan i'r Prif Weinidog, peidiodd y swydd a bod o fewn y cabinet, a diddymwyd y teitl, ynghyd ag Prif Arglwydd y Morlys a'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Awyr ar 1 Ebrill 1964. Yn eu lle, crëwyd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn - a oedd yn gyfrifol am y Weinyddiaeth Amddiffyn newydd.