Soliman

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Soliman
280px
Math municipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Nabeul Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau 36.695126°N 10.491257°E Edit this on Wikidata
Cod post 8020 Edit this on Wikidata

Mae Soliman neu Slimane yn dref ger yr arfordir yn Nhiwnisia a leolir yn ne-orllewin Cap Bon (45 km au i'r de-ddwyrain o Diwnis).

Mae'n rhan o dalaith (gouvernorat) Nabeul, ac mae'n ganolfan i ardal (délégation) o 41,846 o bobl (2006) a bwrdeisdref o 29,060.

Mae Soliman yn gorwedd yng nghanol gwastadedd ffrwythlon, ac mae'n ganolfan masnachu cynnyrch y tir amethyddol oddi amgylch. Yn ogystal mae'n ganolfan diwydiannol gyda ffatrioedd sy'n cynyrchu rhannau ceir a deunydd gwaith adeiladu. Mae'n groesffordd bwysig gyda nifer o wasanethau bws yn rhedeg ohoni.

Pum cilometr i'r gogledd ceir traeth atyniadol, ar lan Gwlff Tiwnis, sy'n cynnig golygfeydd hardd.

Cafodd y dref ei sefydlu, at ddechrau'r 16g, gan filwyr Twrcaidd pan fu Tiwnisia yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid. Fe'i henwir ar ôl tirfeddianwr Tyrcaidd lleol (Soliman/Slimane = 'Solomon/Selyf'). Ychwanegwyd at ei hetifeddiaeth gan mewnfudwyr o Andalucia, Sbaen, a elwir yn Forisgiaid.

"Digwyddiad Soliman"[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 3 Ionawr 2007, gorffenodd cyrch gan lluoedd diogelwch Tiwnisia yn erbyn pobl a ddisgrifwyd fel "terfysgwyr Islamaidd" mewn saethu a cholli bywydau. Roedd hyn yn sioc i bobl y wlad, sydd wedi bod yn gymharol rydd o ddigwyddiadau o'r fath yn y gorffennol. Mae adroddiadau am y digwyddiad yn gymysg. Yn ôl rhai ffynonellau roedd y grŵp yn cynnwys sawl dyn o Algeria a chredir gan rai fod cysylltiad â'r grŵp terfysgol Cyfundrefn Al-Qaeda yn y Maghreb Islamaidd (enw newydd y GSPC Salafaidd) sydd wedi bod yn weithgar yn Algeria ac, efallai, ym Moroco. Ond yn ôl ffynhonnell arall, anwysddogol, roeddynt i gyd yn Diwnisiaid ifainc tua 20-25 oed. Roeddent yn bwriadu ymosod ar lysgenhadaethau Israel a'r Unol Daleithiau a sawl targed arall yn Nhiwnis ac roedd ganddynt nifer o arfau, yn cynnwys drylliau kalashnikov a rocedi. Bu brwydr fawr mewn fila ar gyrion Soliman a lladdwyd tua dwsin o'r terfysfgwyr gan y llu o heddweision ac asiantau diogelwch a amgylchynasai'r adeilad[1].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Fideo o'r frwydr ar YouTube (ni ddarlledwyd hyn yn Nhiwnisia)