Sioned James

Oddi ar Wicipedia
Sioned James
Ganwyd10 Medi 1974 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
Bu farw19 Gorffennaf 2016 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata
PriodGareth Roberts Edit this on Wikidata

Cerddor ac arweinydd cerddorol o Gymraes oedd Sioned Nest James (10 Medi 197419 Gorffennaf 2016) oedd yn adnabyddus fel sylfaenydd y côr llwyddiannus Côrdydd.[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Sioned yng Nghaerfyrddin a'i magwyd yn Llandysul, Sir Gaerfyrddin. Mynychodd Ysgol Dyffryn Teifi. Yn ei ieuenctid roedd yn aelod o sawl côr, gan gynnwys Cantorion Teifi, Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru a Chôr Bach Abertawe o dan arweiniad John Hugh Thomas. Cafodd y cyfle cyntaf i arwain gan Islwyn Evans, pan oedd Sioned yn 16 oed, a hynny gyda Ysgol Gerdd Ceredigion.

Graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda gradd dosbarth cyntaf yn 1997, ac yn 2000 fe sefydlodd ei chôr ei hun, sef Côrdydd, yn y brifddinas. Cafodd y côr sawl llwyddiant, gan ennill Côr Radio'r Flwyddyn y BBC yn 2003, a daeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Côr Cymysg i lai na 45 o leisiau yn yr Eisteddfod Genedlaethol nifer o weithiau.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Clawr albwm (2007)

Roedd yn wyneb cyfarwydd ar S4C ac yn gweithio gyda cynhyrchwyr teledu fel trefnydd cerddorol yn cynnwys Coalhouse a'r gyfres ddrama Con Passionate yn dilyn hanes côr meibion. Bu'n gorfeistr ar y rhaglen deledu Codi Canu ac yn hyfforddwr lleisiol ar Llais i Gymru a Can't Sing Singers ar y BBC.[3]

Roedd hefyd yn gweithio fel asiant ar gyfer actorion a chyflwynwyr teledu ac fel darlithydd rhan amser ar y cwrs Theatr, Cyfryngau a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant.

Yn ystod ei gyrfa fe gydweithiodd â chyfansoddwyr adnabyddus gan gynnwys Morten Lauridsen, Eric Whitacre a Paul Mealor.

Bu farw yn 41 mlwydd oed. Mewn teyrnged iddi dywedodd yr arweinydd corau Huw Foulkes: "Mae cyfraniad Sioned wedi bod yn hynod amhrisiadwy i fyd corawl yng Nghymru a thu hwnt.". Dywedodd Golygydd Radio Cymru, Betsan Powys oedd hefyd yn aelod o'r côr: "Roedd Sioned yn gerddor hyd flaenau ei bysedd, yn arweinydd wrth reddf. Roedd hi'n rhyferthwy o bersonoliaeth, yn llachar, yn llawn hiwmor, un o'r bobl brin hynny oedd yn gallu ac yn mynnu gwneud i bethau ddigwydd".[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod a'r cyflwynydd teledu Gareth Roberts.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Arweinyddes a sylfaenydd côr wedi marw , Golwg360, 20 Gorffennaf 2016.
  2. 2.0 2.1 Yr arweinydd côr Sioned James wedi marw yn 41 oed , BBC Cymru, 20 Gorffennaf 2016.
  3.  Côrdydd - Arweinydd. Cordydd (20 Gorffennaf 2016).