Codi Canu (cyfres deledu)
Gwedd
Enghraifft o: | cyfres deledu ![]() |
---|
Cyfres deledu oedd Codi Canu a ddarlledwyd ar S4C rhwng 2007 a 2010.
Roedd y rhaglen yn dilyn helyntion pedwar o hoff gyn-chwaraewyr rygbi Cymru wrth iddynt gapteinio côr eu rhanbarth i gystadleuaeth ar gae Stadiwm y Mileniwm. Gyda nifer o aelodau’r côr erioed wedi mentro nodyn bydd hon yn dipyn o sialens. Roedd y côr buddugol yn ennill y fraint o ddiddori tîm Cymru a 70,000 o gefnogwyr â’r Anthem Genedlaethol. Gobaith y cynhyrchwyr oedd y bydd y gyfres yn ail gynnau’r tân ym moliau’r cefnogwyr, ac atgyfodi’r hen draddodiad o ganu 4 llais yn y clybiau rygbi.
Roedd ail gyfres yn 2008 a thrydydd cyfres yn 2010 yn hepgor y cysylltiad rygbi y tro hwn.
Cyfres 1
[golygu | golygu cod]Caneuon
[golygu | golygu cod]- Calon Lân
- Rhyfelgyrch Gwyr Harlech
- Rachie
- Sanctus
- Medli Codi Canu (sy’n cynnwys We’ll keep a welcome, Cwm Rhondda a Delilah)
- Hen Wlad fy Nhadau
Capteiniaid
[golygu | golygu cod]- Ray Gravell (Scarlets Llanelli)
- Brynmor Williams (Dreigiau Casnewydd Gwent)
- Rowland Phillips (Y Gweilch)
- Gareth Edwards (Gleision Caerdydd)
Y Corfeistri
[golygu | golygu cod]- Islwyn Evans a Catrin Hughes (Scarlets Llanelli)
- Tim Rhys Evans, Cefin Roberts a Rhian Roberts (Dreigiau Casnewydd Gwent)
- Alwyn Humphries a Sioned James (Y Gweilch)
- Eilir Owen Griffiths a Delyth Medi Lloyd (Gleision Caerdydd)