Tŷ Illtud

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Siambr gladdu Tŷ Illtud)
Tŷ Illtud
Mathsiambr gladdu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.928517°N 3.312627°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR011 Edit this on Wikidata

Heneb, a math o siambr gladdu sy'n perthyn i Oes Newydd y Cerrig a chyn hynny (rhwng 3,000 a 2,400 C.C.)[1] ydy Tŷ Illtud, ger Llanfrynach, Powys; cyfeiriad grid SO098263. [2]

Gelwir y math yma o siambr yn siambr gladdu hir (lluosog: siambrau claddu hirion) ac fe gofrestrwyd siambr gladdu Tŷ Illtyd fel heneb gan Cadw gyda'r rhif SAM: BR011.

Fe'i codwyd cyn Oes y Celtiaid i gladdu'r meirw ac, efallai, yn ffocws cymdeithasol i gynnal defodau yn ymwneud â marwolaeth.

Illtud[golygu | golygu cod]

Cyfeiria'r enw at y sant Illtud, a gysylltir â'r heneb mewn traddodiad lleol: dywedir iddo ei defnyddio fel cell feudwy. Yn yr un ardal ceir Bedd Gŵyl Illtud, Pyllau Illtud a Mynydd Illtud.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-10-10.
  2. Data Cymru Gyfan, CADW
  3. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Caerdydd, 2000).
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.