Siôn Alun
Siôn Alun | |
---|---|
Ganwyd | 30 Hydref 1955 ![]() |
Bu farw | 2 Hydref 2012 ![]() Abertawe ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl ![]() |
Plant | Steffan Alun ![]() |
- Nid i'w ddrysu gyda'r actor, Siôn Alun Davies
Gweinidog yn ardal Abertawe oedd Siôn Alun (30 Hydref 1955 - 2 Hydref 2012)[1], neu John Alun Thomas. Cafodd ei addysg yn ysgol gynradd Pont-lliw, ac yn ysgol uwchradd Pontardawe lle daeth o dan ddylanwad Eic Davies. Symudodd i Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera pan agorodd honno. Wedyn aeth i Goleg Annibynnol Bala-Bangor dan brifathrawiaeth R. Tudur Jones a'r Athro Alwyn Charles. Enillodd y wobr gyntaf dair gwaith yn olynol ar siarad cyhoeddus yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Roedd yn gyn weinidog Bethel, Sgeti a'r Trinity, Abertawe. Roedd yn aelod cynnar o Gymdeithas yr Iaith[2] ac yn ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg. Bu'n gadeirydd Rhieni dros Addysg Gymraeg yn Abertawe. Roedd yn briod i Catrin, a roedd ganddo ddau fab, Steffan a Gwydion.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Colofn Marwolaethau. bmdsonline.co.uk (6 Hydref 2012).
- ↑ Cymdeithas yr Iaith yn 50 oed: Dylanwadau Cristnogol ar y mudiad. Mudiad Efengylaidd Cymru. Adalwyd ar 31 Ionawr 2016.
- ↑ Gweinidog ac ymgyrchydd adnabyddus yn marw , Golwg 360, 4 Hydref 2012.